Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffasiwn

ffasiwn

Yma byddwn yn gofyn os ydi'r elfennau yma yn rhy hen ffasiwn.

Ond i ryw greadur bach ofnus a swil fel fi, a minnau'n edrych i fyny felly o ddyfnder fy sêt wrth yr organ tuag at ei uchelfan ef yn y Sêt Fawr wrth Fwrdd y Cymun, yr oedd edrych i'w ddwy ffroen aruthrol ar un eiliad fel edrych i ddau dwll blwmars hen ffasiwn yn bochio yn y gwynt.

Dadl David Griffiths yw ei bod yn ffasiwn i ystyried mai gwŷr galluog, talentog, cydwybodol, ond wedi eu camarwain, oedd y Dirprwywyr.

Yn anffodus, y ffasiwn erbyn hyn yw dymuno'n dda dros y ffôn.

Un o nodweddion barddoniaeth Gymraeg erioed oedd 'dilyn ffasiwn farw', a gogwyddo at adwaith.

'Roedd gan fy nhad lais da, ac yn ôl ffasiwn yr amserau mi fyddai'n canu weithiau a'm mam yn cyfeilio iddo wrth y piano.

Dyna ran o arwyddocad parodi Williams Parry ei hun ar ei awdl fawreddog, 'Yr Haf.' Yn 'Yr Hwyaden' y mae'n gwneud sbort am ben y confensiynau hurt a ddaeth i ffasiwn yn sgil 'Yr Haf': y macwyaid, y brodyr gwyn a du, holl gyfarpar yr awdl ramantaidd, a droes yn amherthnasol i'r oes.

Mae'r defnyddiau'n cael eu dadlwytho gan y criw i gyd o gert fawr hen-ffasiwn sy'n rhedeg ar olwynion pren.

Ceir yn y cylchgronau merched cynnwys amrywiol megis newyddion, ffasiwn, ryseitiau, y sêr (horoscopes), newyddion am bersonoliaethau'r byd adloniant a gwleidyddol, gwelliannau i'r ty, colofn llythyrau, tudalen broblemau ac yn y blaen.

Prin iawn, bellach, yw'r siopau sy'n dal i werthu baco rhydd ac yn ei bwyso allan bob yn owns ar glorian fechan hen ffasiwn.

Hanner awr o daith mewn bws 'Crosville' unllawr, hen ffasiwn, a'r conductor yn dosbarthu tocynnau unigol o flwch pren pwrpasol.

I chi a mi heddiw mae'n ddrama hen ffasiwn iawn, yn llawn cymeriadau stoc, ond nid yw heb ei rhinweddau, a'r peth pwysicaf yn ei chylch yw ei bod yn llawn beirniadaeth gymdeithasol ar draha landlordiaid, rhagrith rhai crefyddwyr a pharchusrwydd cyfoglyd y dosbarth canol Cymreig newydd.

Gan fod y myfyrwyr yma i gyd yn byw gartref ac nid yn y coleg, nid oeddynt erioed wedi cael cynnig y ffasiwn bryd.

Nid yw protestio yn hen ffasiwn ac yn ddianghenraid heddiw, fel y tystiodd myfyrwyr Indonesia yn ddiweddar.

Am chwerthin ac wfftio fu wedyn, rhai'n methu cael eu gwynt bron, wrth feddwl am y ffasiwn beth!

Credai cynifer o Gymry'r cymoedd diwydiannol hyn fod y Gymraeg yn isradd, yn hen ffasiwn, yn annigonol ac yn amherthnasol i anghenion y byd sydd ohoni.

Er fod tafarn y Gloch dipyn yn hen-ffasiwn, cawsant fod eu stafelloedd gwely'n rhai digon cyfforddus a glân.

Gwyddai Gwyn nad oedd hithau'n gwybod fawr am y sefyllfa ond 'roedd clywed ffasiwn eiriau yn gysur.

Mae arnom ofn cael ein hystyried yn ofergoelus neu'n hen ffasiwn.

Dileodd y rhain lawer iawn o ddiflastod beunyddiol y gorchwylion cyffredin - golchi, glanhau, gwresogi, smwddio, coginio, cadw bwyd, ac i mi eillio, oedd yn gas beth gen i a fy nhad, gyda'r asarn hen ffasiwn.

Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.

Wrth wneud gwaith drama ar hysbysebion efo disgyblion ysgol Uwchradd, 'roeddwn wastad yn ymwybodol fod y fformiwlau yr oeddem yn eu trafod yn y dosbarth yn hen ffasiwn ac or-syml.

Ond mewn llawer o'r gwledydd sy'n datblygu nid oes ffasiwn beth â labordai ffilm gydag adnoddau llawn yn bod.

Beth pe bai ei mam wedi cael byw, cysidrodd Gwen, i wneud sylw ar y fath ffasiwn?

Roedd ganddi wallt tenau melyngoch, tonnog wedi ei dorri yn dipyn byrrach na'r ffasiwn cyfoes o dresi "gwas bach" wedi eu cyrlio odditano ar y gwaelod.

Yn ei ragymadrodd i Llwybrau Pridd y mae'r bardd yn nodi rhyw dinc hen-ffasiwn yn ei ganu, fel petai heb ymadael yn llwyr a'r hen draddodiad: 'Un droed yn y gors, y llall yn y concrid', meddai.

Mae nifer y copi%au llawysgrif o'r ddau destun hyn, ac eraill ar yr un thema, yn dyst i boblogrwydd eithriadol chwedlau'r Greal yn Ffrainc yn ystod y drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac yn ystod y ddwy ganrif hynny hefyd fe welwyd tuedd - bron na allwn alw'r peth yn ffasiwn - i gyfieithu gweithiau llenyddol o'r Ffrangeg i ieithoedd brodorol eraill gorllewin Ewrop a'r tu hwnt, a'r Gymraeg yn eu plith.

Morris Lewis yn bersonol yn ei ddisgrifio ei hun fel realydd yn hyn o beth yn hytrach nag yn hen ffasiwn.

Mi fydd rhai yn dal i ddadlau bod canu cerdd dant bellach yn draddodiad hen ffasiwn ond mae'n denu pobol ifanc fel aelodau côr cerdd dant Aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Ond efalai fod rhai ohonom yn ddigon hen-ffasiwn i gredu y dylai unrhyw un sydd am wthio'r ffiniau fod yn ymwybodol o'r ffiniau hynny yn y lle cyntaf.

Os cafodd Cymru, ar droad y ganrif, ei phrofiad o modernismo, daeth iddi ar wedd hen-ffasiwn, a'i gogwydd tuag yn ol.

Fu erioed y ffasiwn helynt.

Mae dweud fod protestio yn hen ffasiwn mor ddiystyr â dweud fod rhyfel yn hen ffasiwn.

Bywyd newydd i'r hen iaith Ar un adeg yr oedd ieuenctid Cymru yn cysylltu Cymraeg â phethau hen-ffasiwn oedd ar fin darfod.

Dim synnwyr ffasiwn.

Galwch hi'n ffasiwn ddiweddar ond mae yna nifer o weithdai roc yn cael eu cynnal dros y lle.

Er bod y pwyllgor amaeth yn gweithredu fel contractwyr dros gyfnod y rhyfel gwneid y rhan fwyaf o'r gwaith gyda cheffylau ac arfau hen ffasiwn.

Thema ganolog: Gwrthdaro: y gwrthdaro rhwng yr hen werthoedd a'r gwerthoedd newydd, rhwng Cymru Oes Victoria a Chymru'r ugeinfed ganrif; rhwng Sosialaeth a Chyfalafiaeth; rhwng anterth a dechreuad cwymp yr Ymerodraethau Mawrion; rhwng aelodau'r Orsedd, cefnogwyr a dilynwyr Iolo Morganwg, a'r ysgolheigion newydd, dinoethwyr Iolo; rhwng beirdd hen-ffasiwn yr Orsedd a beirdd 'yr Ysgol Newydd'; rhwng cenedlaetholdeb a Phrydeindod.

dim ond ffasiwn egsentrig a diffyg addysg sydd wedi cario'r peth ymlaen i'n dyddiau ni yng nghymru.

Ymddangosai'r hen safonau chwaeth yn gul a hen ffasiwn wedi hynny.

Ymgais i ymddangos yn wâr eu hymddygiad ymhob agwedd ar fywyd oedd 'delfryd' y bonedd, ac er mwyn meithrin hynny, ymfudent yn raddol o'r wlad i'r dref neu'r ddinas, sef canolfannau'r cwrteisi llysol a'r ffasiwn.

Awdl hen-ffasiwn ei dull oedd hon hyd yn oed ym 1930.

Merched bron-noeth oedd y ffasiwn mewn dillad am gyfnod byr.

Mae'n ffasiwn gan ffermwyr Sir Gaernarfon ddal tir ar Ynys Mon a rhwydd iawn yw symud defaid o un lle i'r llall, a phawb a'i gludiant ei hun.

Ar un ystyr yr oedd y ffasiwn llenyddol a llenyddol-ysgolheigaidd yn Lloegr yn tueddu i gadarnahu barn llenorion a beirniad Cymru fod i Ddafydd ap Gwilym safle unigryw yn y traddodiad llenyddol Cymraeg, ond ar yr un pryd yr oedd yn tueddu i gadarnhau'r argraff o chwilio'n ddigon manwl, ddod o hyd i effeithiau dylanwadau cyfandirol arno.

Rydych chi'n llawer rhy ifanc i briodi, o ran hynny rydych chi'n llawer rhy ifanc i ddyweddi%o." "Bobol bach rydych chi'n hen ffasiwn Mam." "Efallai mod i, a welais i ddim byd o'i le mewn bod felly chwaith.

Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf o sêls parhaus aeth yr arfer o fargeinio fel hyn allan o ffasiwn.

Gan fod ffasiwn ddiweddar yr un llythrennau a fu enwau i; wrth gwrs bod gen i ddiddordeb ynddi.

Daeth byd ffasiwn yr Unol Daleithiau o hyd i reswm arall fodd bynnag.

Yn ôl rhai mae'n grefft sy'n ymddangos ychydig yn hen ffasiwn erbyn hyn ond mae mwy a mwy o bobol ifanc yn cymryd diddordeb yn yr arfer yn ôl trefnydd yr Wyl Gerdd Dant.

Pan yn cynllunio ar gyfer crysau tî, dibynnir hefyd ar ffasiwn.

Y ffasiwn ddiweddaraf ynoyw mewnforio crocrotsus o Fadagasgar ac ar ôl glynu darnau o grisial ar eu cefnau eu defnyddio yn froestsus byw gwerth £69 yr un.

Mynycha barti%on lle mae cyfoethogion y ddinas honno yn trafod comiwnyddiaeth fel petai yn rhan o'r ffasiwn diweddaraf o Milan: rhaid ei groesawu ond dim ond tan i'r casgliad nesaf ymddangos.

Sut bynnag, aeth digon o amser heibio i weld fod ymweliad byr Wil Twmpath wedi dylanwadu'n fawr ar fywyd yn N'Ogiaid, achos cyn gynted ag y profodd y Brenin Affos y wynwyn aethant yn ffefryn mawr ym mhlith bwydydd y llys, ac yr oedd Affos a'i wraig Navid, a Namotto eu merch yn ddigon poblogaidd i ddechrau'r ffasiwn trwy'r holl deyrnas.

Parhad ydi hon, debygwn i, o bregeth debyg rai blynyddoedd yn ôl gan Arglwydd y Bwrdd Iaith ein bod ni'r Cymry bellach wedi 'troi cornel'. Difyr oedd sylwi mor barod oedd eraill megis Prys Edwards i amenio hyn, gan gytuno fod protestio a 'ballu yn hen ffasiwn, ac mai'r cyfan oedd rhaid ei wneud bellach oedd gwenu'n glên a 'hyrwyddo'. Roedd dyddiau dod ben ben â'r Sefydliad drosodd.

Mae ei chyfansoddi yn wreiddiol ac yn bwerus: cyfoes, ie, ond eto'n hen-ffasiwn; neis.

Roedd aroglau benywaidd yn y compartment pan euthum i mewn; roedd dwy ferch y môr wedi bod yn ymbincio a ffresio eu hunain gydag 'Ashes of Roses' neu ddŵr lafant - dyna, rwy'n meddwl, oedd y persawr oedd yn y ffasiwn yr adeg yma.