Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffefryn

ffefryn

Craig White, sydd heb chwarae gêm dosbarth cynta ers chwe wythnos, yw'r ffefryn i chwaraen ei le.

Fe yw'r ffefryn i arwain yr ymosod gyda Emil Heskey.

Y ffefryn Tiger Woods syn arwain yn rownd gynta Pencampwriaeth Golff Agored yr Unol Daleithau yn Pebble Beach.

Fe yw'r ffefryn i arwain y garfan uwch i Japan yr haf nesaf.

Ond crwtyn serchog oedd Wil a phawb yn ei hoffi a chael blas ar ei ffraethineb annisgwyl, ac yr oedd yn ffefryn mawr gan Dic.

Hugan Fach Goch oedd y ffefryn gyda Ben a Sian.

Llyfr fydd yn ffefryn efo Magi am flynyddoedd gan y bydd hi'n tyfu efo fo, a ffordd ddelfrydol o gyflwyno'r gwanwyn i blant bach, a'r syniad o fynd am bicnic.

Os oes rhaid imi dewis un ffilm In the Soup oedd fy ffefryn o'r žyl i gyd.

Roedd Caerdydd yn ffarwelio â hen ffefryn arall neithiwr, Mike Rayer, sy'n ymddeol ar ôl chwarae dros 350 o gemau i'r clwb.

Ei ffefryn fodd bynnag fyddai amrywiad, o'i chyfansoddiad ei hun mae'n debyg, ar yr un patrwm mydryddol, y byddai'n ei ganu â chryn angerdd.

Aeth Frank Hennessy, ffefryn arall ar y radio, Down Under i edrych ar y dylanwadau cerddorol yn Awstralia a chafwyd trydedd gyfres o Roy Noble on Common Ground gyda'r cymeriad bywiog hwnnw, Roy Noble, sydd â gwobr RTS i'w enw.

Yn ogystal a hynny, roedd Syr Thomas yn gwmniwr gyda'r mwynaf ei galon a'r gwreiddiolaf ei hiwmor.Fel Tom Parry yr adweinid ef ym Mangor mewn cyfnod cynharach, ag ef oedd ffefryn ddarlithydd y dosbarth Cymraeg.Roedd ganddo bresenoldeb a phersonoliaeth oedd yn llwyr arbennig, heb son am ddawn i draethu'n feistraidd a chyson ddiddorol.

Roedd yr onnen yn goeden oedd yn ffefryn gan gariadon.

Ffrwyth yr ysgaw yw'r ffefryn fodd bynnag, a maint y cnwd o'r perlau duon sydd yn penderfynu yn aml faint o fynd fydd ar aeron eraill yr hydref hwnnw.

Y dyddiau hynny, nid y cwmni%au teledu ac ati a benderfynai werth ac apêl gornest ond y rhai oedd yn barod i dalu eu pres wrth y clwydi i weld gornest go iawn cyn bod sôn am borthi neb â gornestau rhwydd drwy fewnforio 'stiffs' i greu record a statws artiffisial i'r un ffefryn.

Yn dilyn llwyddiant American Money, parhaodd Owen Money, y diddanwr parod ei wên, â'i grwydr drwy America gyda A Few Dollars More. Aeth Frank Hennessy, ffefryn arall ar y radio, Down Under i edrych ar y dylanwadau cerddorol yn Awstralia a chafwyd trydedd gyfres o Roy Noble on Common Ground gyda'r cymeriad bywiog hwnnw, Roy Noble, sydd â gwobr RTS i'w enw.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

'Roedd y gân yn ffefryn gan David Ellis drwy gydol yr amser y bu yn Salonica.'

Hilma Lloyd-Edwards oedd ffefryn Gwynn Ap Gwilym ar un adeg.

Yn ystod pedair blynedd olaf ei oes faith bu fy nhad yn byw gyda ni mewn Tŷ Ysgol yn yr hen Sir Drefaldwyn a daeth yn ffefryn gyda'r plant a'r trigolion eraill yn y pentre.

Ei ateb oedd gofyn i mi p'un oedd fy ffefryn i.

Sut bynnag, aeth digon o amser heibio i weld fod ymweliad byr Wil Twmpath wedi dylanwadu'n fawr ar fywyd yn N'Ogiaid, achos cyn gynted ag y profodd y Brenin Affos y wynwyn aethant yn ffefryn mawr ym mhlith bwydydd y llys, ac yr oedd Affos a'i wraig Navid, a Namotto eu merch yn ddigon poblogaidd i ddechrau'r ffasiwn trwy'r holl deyrnas.

Yr ail ffefryn yw Geoff Evans, cyn-glo gyda'r Cymry yn Llundain, Cymru a'r Llewod.

Mae Smot ei hun yn hen ffefryn gyda phlant o bob oed, ac mae croeso mawr bob tro mae na lyfr newydd gyda Smot ynddo fo - er nad dim straeon am Smot yw'r ddau lyfr yma, yn hytrach rhestrau o deganau a gwahanol dywydd.

Mae'r ffefryn i ennill y gystadleuaeth, a'r Gamp Lawn, Tiger Woods, bump ergyd y tu ôl, ar ddwy ergyd dan y safon.