Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffeithiau

ffeithiau

Gormod o bnethau...o ffeithiau, yn troi yn y meddwl.

Yn ddiweddarach, denodd Labour of Love, oedd yn dilyn bydwragedd a darpar famau, gynulleidfaoedd anferth, a daeth ail gyfres A Welsh Herbal, a gyflwynwyd gan David Bellamy ar gyfer Element, â llu o ymholiadau am daflenni ffeithiau a gwybodaeth bellach.

ansawdd yr addysgu - gan gynnwys maint a phriodoldeb disgwyliadau'r athrawon am y disgyblion a'r amrediad o strategaethau addysgu a ddefnyddir ganddynt i gyflwyno ffeithiau a gwybodaeth, i roi ymarfer mewn sgiliau ac i sicrhau bod disgyblion yn datblygu dealltwriaeth.

'Wel,' meddent, 'pam na ddylai criw bach gael eu hiaith a'u diwylliant eu hunain; mae e'n digwydd ym mhobman yn yr India.' Doedden ni a'n hiaith ddim yn un o ffeithiau ysgytwol bywyd iddynt mae hynny yn sicr.

Mae casglu ffeithiau pendant i adeiladu'r darlun yn rhagdybio fod y pethau hyn yn bendant, sicr a di-newid.

A beth am rai ffeithiau moel?

Atyniad yr hanes yma, fodd bynnag, ydy gweld sut mae'n mynd ati i geisio egluro ymaith yr holl ffeithiau sy'n ei gondemnio ar ôl darganfod corff ei wraig â'i phen i lawr mewn casgen fawr o ddwr.

Gobeithio fod y ffeithiau uchod yn cywiro'r camargraff a roed yn yr erthygl.

Cyn hynny cael ein dysgu fyddem ni, dysgu hanesion a ffeithiau yn fwyaf arbennig.

Fodd bynnag nodaf yma ychydig o ffeithiau am Watkin, Richard a William Williams yn ogystal â rhai o'u disgynyddion.

Serch hynny, gan fod llawer o wybodaeth amdano wedi mynd ar goll gyda threigl amser, nid oes modd bod yn hollol sicr ynglyn â rhai o ffeithiau ei fywyd.

Gwyddwn eu bod yn cuddio pethau oddi wrthym ni, y plant, ond ni pheidias yn fy ymchwil i ddod at y ffeithiau, a rhaid i mi gyfaddef i mi gael cryn gymorth gan fy modryb, Bopa Jane, chwaer fy mam, a oedd yn ddibynadwy ei gwybodaeth ac yn ddiflewyn ar dafod yn ei datguddiadau o'r ffeithiau.

Llew o gael rhyddhad oedd mynd ati i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol a hefyd addasu chwedlau gwerin a ffeithiau hanesyddol, gan beri bod storm ym mynwes sawl plentyn wrth iddo fynd o antur i antur wrth droi'r tudalennau.

Nid ffrwyth edrych ym myw llygaid cyfanrwydd y ffeithiau hanesyddol yw'r damcaniaethau hynny, ond gwneud gosodiadau cyffredinol ar sail ffeithiau a ddetholwyd yng ngoleuni rhagdybiau athronyddol digon hysbys.

'Dydw i ddim yn deud nad ydi o'n gwybod rhyw ffeithiau anffafriol am Hogan ond dydi hynny ddim yn helpu'n hachos.

Daethpwyd i ymddiddori yn y gorffennol er ei fwyn ei hun, daethpwyd i astudio dogfennau, daethpwyd i grynhoi 'ffeithiau', ac i ddilorni cynlluniau dwyfol a chwedlau dynol.

Nid oes digon o sylw yn cael ei roddi i'n gwybodaeth o'r hyn yr ydym yn ceisio ei fesur, ac ni ddylai natur arbrofol llawer o'n ffeithiau canolog gael ei boddi gan geinder techneg fodem economeg.

Datblygodd y gystadleuaeth gyda'r blynyddoedd gan ofyn i'r clybiau gyflwyno a thrafod llyfr rhagor na dysgu ffeithiau moel am y gyfrol.

Pan ddechreuais ysgrifennu "Lloffion" i'r "Genedl" dechreuodd Ioan Brothen ymddiddori'n anghyffredin ynof, oherwydd fy nawn, meddai ef, i "ddarganfod ffeithiau newydd am y plwy a'r wlad".

Ffeithiau oedd dymuniad Mr Gradgrind, ymgorfforiad perffaith o awch oes Victoria amdanynt.

~oedd Hawen yn ceisio gwrthrychedd ar bwnc yr iaith gan feirdd a fuasai wrthi ers blynyddoedd yn teilwra ffeithiau ar gyfer gwisgo'u cyd-wladwyr â'u cysuron sicr hwy.

Cynnar iawn, wrth gwrs, yw'r gerdd (neu'r ddwy gerdd) yn Llyfr Du Caerfyrddin, ond yr unig ffeithiau pendant yno yw ei bod yn cyfeirio at hanes am Drystan a March (sef yr elfen fwyaf sylfaenol yn yr hanes), a hanes arall am 'ddial Cyheig' - cymeriad na wyddys fawr ddim amdano, ac na ddaw ar gyfyl hanes Trystan mewn unman arall." Yn ôl y ddysgeidiaeth hon, felly, y mae'n rhan o swyddogaeth y llywodraeth i ddefnyddio'r gyllid lywodraethol i reoli galw cyfanredol yn yr economi er mwyn sicrhau lefel cynnyrch gwladol sy'n cyfateb i gyflogaeth lawn.

Y modd felly sydd yn cael yr amlygrwydd pennaf yn hytrach na'r ffeithiau.

Nid oedd yno neb i amau dilysrwydd yr wybodaeth a roddwyd gerbron na chywirdeb y ffeithiau.

Mae'r ffaith fod pobl gogledd Fflorens wedi mynd mor bell â gwerthu dwr yfed i'w cyd-ddinasyddion ym mharthau deheuol y ddinas (oedd heb ddwr o gwbl), a ffeithiau tebyg, wedi gyrru'r bechgyn i feddwl yn isel am drigolion y wlad hon, ac i edrych arnynt fel pobl sebonllyd, gynffonnaidd a diegwyddor.

Roedd Llio wedi bod yn nodi un neu ddau o'r pwyntiau a awgrymodd Mr Puw mewn llyfr bach, gan na fyddai'n cofio'r holl ffeithiau.

Fedrwn ni ddim gwneud cais am ohirio'r treial cyn iddo ddechrau, a'n ffeithiau ni mor ansicr.'

Yn ystod fy nhymor yn fyfyriwr yn y Brigysgol yng Nhaerdydd, yn athro yn Nhonyrefail ac ym Mhenbre, Llanelli ac yn ddiweddarach yn Arolygydd Ysgolion ei Mawrhydi yn y Rhondda y cefais wir gyfle i hel y ffeithiau a hynny oddi ar berthnasau pell ac agos ac o archifdai, llyfrgelloedd a cherrig beddau, a bu'r wybodaeth yn gaffaeliaid ac yn iechyd i'm meddwl a'm hysbryd.

Ond y pnawn yma yr hyn rwyf i am ei wneud yw adrodd ychydig o ffeithiau noeth am droeon ei yrfa cyn ei 'droedigaeth' ym Mhenllyn, neu'n hytrach cyn iddo ddod i'w wir adnabyddiaeth ohono ef ei hunan, gan awgrymu'n wyliadwrus fod a wnelo'r ffeithiau hyn, efallai ryw fymryn a delwedd ac arddull ei gerddi, a chan gadw mewn cof nad yw gosodiadau ysgubol ac anghyflawn am fywyd a chefndir unigolyn o fardd, weithiau gan y bardd ei hunan, o fawr werth i'r neb a fyn o ddifri ei ddeall.

Nodir y ffeithiau canlynol yn yr ymchwil:

Dyma ychydig ffeithiau i amlygu'r duedd.

Dyna yw casgliad y bobl yma, ac mae'n cyd- fynd â'r ffeithiau.' Edrychodd y ddau arall arno'n syfrdan.

Mae gan bob adran newyddion stôr o wybodaeth wedi ei ddosbarthu'n ofalus dan wahanol benawdau fel ffynhonnell ffeithiau ar amryfal bynciau.

Sioc gweld y peth yn digwydd, y ffeithiau'n cael eu datgan yn oer, glir, mor blaen â mwyafrif seneddol.

Nid oedd ei ddadl ond distylliad o ffeithiau ac opiniynau a gofyniadau a wnaethpwyd yn gyfarwydd yn yr holl gyhoeddiadau swyddogol a grybwyllwyd eisoes.

Roedd yn siarad â chynulleidfa fodlon a deallus a pharod i gytuno, er bod ambell un, mae'n siwr, yn ystyried bod ymchwiliad pellach yn ddianghenraid, gan mor ddigwestiwn oedd y ffeithiau eisoes yn ymddangos.

Dyletswydd y teledwr, felly, yw cyflwyno ffeithiau iddynt yn syml ac yn gryno.

O'u defnyddio yn y dosbarth, gall yr offer yma arbed y darlithydd neu'r athro rhag gorfod llafurio i ennyn brwdfrydedd a diddordeb yn y pwnc trwy ddisgrifio a rhestru ffeithiau yn unig.

Yn honno, yr agosa' y mae'r rhan fwya' o newyddiadurwyr yn mynd at beryg' personol yw yfed gormod o gin ac mae dyfais a dychymyg lawn mor bwysig â ffeithiau, wrth iddyn nhw ei jolihoetian hi'n garismatig o le i le.

Neges y stori yw - peidiwch ag ymateb i sefyllfa cyn bod yn hollol siwr o'ch ffeithiau - ac mae neges glir fel hyn ym mhob un o'r straeon gwerin cyfoes.

Yn ystod y pum niwrnod cyn hedfan i Nairobi, ro'n i wedi cnoi cil dros y berthynas rhwng y personol a'r gwrthrychol, dros yr angen, ar un llaw, i gofnodi ffeithiau am newyn a oedd yn bygwth dileu cenhedlaeth gyfan o blant Somalia ac, ar y llall, i gofnodi barn.

Ceir yn yr adran ddatguddio ffeithiau dadlennol am rai o'r prif gymeriadau yn y frwydr honno.

Yn ogystal, ceir nifer o ffeithiau diddorol yn ymwneud â gwahanol agweddau o'r stori - er enghraifft hanes y crwban môr a gwybodaeth am longau fferi.

Wrth lunio damcaniaeth am y berthynas rhwng dwy elfen, oni ellir gwrthbrofi'r gosodiad gyda'r ffeithiau sydd wrth law, yna, mae'r gosodiad yn dal tan yr arbraw nesaœ Hynny yw, ni ellir profi dim, eithr yn unig ei wrth-brofi.

Roedd f'ymateb i i'r ffeithiau'n allweddol.

Ie, ie, dewis ei ffeithiau, dewis ei lluniau, dewis ei phrofiadau y mae hi fel pob llenor ni fynnir ac ni ellir gwadu hynny Ond yr oedd hi heb os yn llenor gwyddonaidd iawn, yn llenor a gadwai at galendr o ddigwyddiadau y gallem, pe mynnem, eu gwirio'n hanesyddol.

Yn sicr, nid oes angen, hyd yn nod i feirdd, anwybyddu ffeithiau cydnabyddedig gan feirniaid ieithyddol.

Drwy'r Ymofynnydd gofalodd drwytho'r mudiad yn hynt a helyntion ei orffennol, gan groniclo nid yn unig ffeithiau moel eithr eu gwerthfawrogi'n graff, gan danlinellu cyfraniad unigryw 'hen Gewri'r Ffydd' a'u pwysigrwydd i'r eglwys gyfoes.

Ffeithiau diddorol.

Er bod y math o wybodaeth yr oedd Gradgrind yn ei geisio wedi troi'n ddihareb am ddiffyg dychymyg, ni ddylem anghofio'r rhesymau pam yr oedd y Fictoriaid yn mynd ar ôl ffeithiau, nac am y tro da a wnaed â'u disgynyddion trwy eu casglu.

Y mae'n rhaid wrth y ddeubeth, y deunydd crai, neu'r ffeithiau y mae'r gwyddonydd yn eu cael o'r byd o'i gwmpas, yr hyn a wêl y llygad ac a glyw'r glust, a hefyd y peirianwaith cywrain sy'n rhan o gynheddfau'r meddwl i ddosbarthu a threfnu'r deunydd hwn.

Y darlithoedd yn mynd yn fwy crin o ddydd i ddydd, er i'r Major ddatgelu rhai ffeithiau diddorol am foesoldeb uchel swyddogion ein byddin, yn enwedig yng ngogledd Affrica.

Onid oedd yn ysgytwad i'w hunanfodlonrwydd ef, yn rhoi golwg go iawn iddo ar rywbeth na ddaethai ar ei draws o'r blaen, hwyrach ffeithiau bywyd busnes bychan heb ddim tebyg i adnoddau cwmni%au enfawr?

Y gwahaniaeth hollbwysig rhwng cyseptau fel hyn a rhai yr astroffisegwyr yw bod yr hyn a ddywedir ganddynt hwy yn ffeithiau ac nid yn ddyfaliadau neu ddychmygion awenyddol, barddonol.

Ceir ynddo restr o ffeithiau a digwyddiadau yn hanes y dref a'r ardal oddi amgylch am y naw can mlynedd diwethaf, ynghyd â chasgliad o hen luniau diddorol dros ben.

Cyhoeddodd y Barnwr Gweinyddol y dylid, yn wyneb y ffeithiau newydd a ddaethai i'r amlwg oddi ar ei dreial, ryddhau Lewis ar unwaith, gan ddileu'r gollfarn arno.

Yn yr adroddiad hefyd manylir ar y ffeithiau ynglŷn â darparu adnoddau ar gyfer addysg Gymraeg.