Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffens

ffens

Tu fewn a thu fas i'r ffens mae camerâu teledu a bownsars ym mhobman.

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Oddi ar falconi gwelwn bobl a phlant yr ardal yn syllu trwyr ffens metal gan obeithio cael cip ar unrhyw sêr wrth iddyn nhw gyrraedd.

Sylwodd hefyd fod ffens uchel o weier bigog o gwmpas y lle i gyd, a rhybuddion Saesneg "PROHIBITED AREA" - "KEEP OUT!" ymhobman.

A rhywun arall hefyd! Stuart a Kelly o'r Stereophonics syn achosi swn sgrechen ymhlith y merched ifanc tu ôl i'r ffens.

Mae pethau wedi mynd mor ddrwg ar y ffermwyr hyn nes maen nhw'n gorfod defnyddio ffens drydan i gadw'r anifail yn ddigon pell i ffwrdd.

Dychwelodd, gan weiddi dros y ffens oedd yn ein gwahanu fod yr awdurdodau'n mynnu tâl o gan doler cyn caniatŠu iddi groesi.

Gwthiais yr arian dros y ffens, a rhyddhad mawr oedd ei gweld hi a'r plant yn ymuno â ni yn y diwedd yn y ciw olaf cyn y lolfa ymadael.

Yr unig beth da am y ffens oedd nad oedd tad Steve Millace yno i gofnodi fy nghodwm.

Byddai'r hyfforddwr yn gosod y bai arna i ac yn dweud wrth y perchennog 'mod i wedi camfarnu'r ffens.

Y tu draw i'r cae, ar ben yr allt y mae tŷ, ac er mai yn y pellter y mae, y mae'r sylw a'r manylder yn dal i gael ei roi i'r adeilad o'i gymharu a'r cae â'r ffens yn y blaendir, a hyn eto yn cadarnhau sylwadau Maredudd ei hun mai mewn adeiladau y mae ei ddiddordeb.

Codwyd ffens o gwmpas llain o dir ychydig yn nes ymlaen lle bu sefydliad Ecoleg Tir y Cyngor Gwarchod Natur yn ymchwilio i ffordd o fyw ac arferion pori defaid cyntefig, Soay.

Amser a lle: unfed ffens ar bymtheg, cwrs tair milltir dros y perthi, Sandown Park, dydd Gwener, Tachwedd, mewn glaw mân oer cyson.

Maen nhw'n aros eu cyfle yn y gwanwyn pan fo'r ffermwyr yn plannu tatws yn y ddaear a phan nad ydi'r ffens drydan yn cael ei def- nyddio, a chyn gynted ag y mae'r tatws ifainc yn y ddaear maen nhw'n dod gyda'r nos ac yn tyrchu'r ddaear gyda'u trwynau cryfion ac yn dod o hyd i'w hoff fwyd.

Un o'r lluniau mwyaf tirweddol yn yr arddangosfa yw Yr Allt lle mae cae yn y blaendir mewn gwyrdd golau a du, a ffens a weiran bigog yn rhedeg o flaen y llun i fyny'r ochr gydag ymyl y lôn.