Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fferins

fferins

Teimlai'n sicr fod cael ci bach yn eiddo iddo fo'i hun yn llawer gwell na diodde'r ddannodd oherwydd iddo fwyta gormod o fferins.

Mae'n siop sy'n gwerthu amryfal nwyddau, pethau da, papurau newydd, caniau Côc, cardiau Pen-blwydd, fferins siocled...

Prynodd Carol becyn o fferins bob un i'r bechgyn eu bwyta tra disgwyliai hi wrth y ffôn, a safodd yn amyneddgar â'r bechgyn o bobtu iddi, gan barhau i dicio eitemau i ffwrdd oddi ar y rhestr neges oedd ganddi yn ei meddwl.

Roedd Owain wedi bwya ei fferins i gyd a Guto wedi colli hanner ei rai o hyd y llawr.

Ac addurniadau, a chracyrs, a phethau i'w rhoi ar y goeden, a fferins i'r plant...