Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fferm

fferm

Yn ychwanegol i waith y fferm, roedd y rhan fwyaf ohonom yn gorfod gwasanaethu yn yr 'Home Guard' neu ryw wasanaeth rhan amser arall.

Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.

TAI LLAWN Ar y briffordd allan o'r dre heibio'r Castell y mae fferm Felin Ysguboriau ac yr oedd yno lond ty - tri ar ddeg o bobl.

Serch hynny, ychydig a boenai'r lleidr profiadol o Lundain am dreulio cyfnod o gaethiwed yn Awstralia, ond ystyriai'r gweision fferm yr alltudiaeth gyda'r ansicrwydd eithaf.

Mae fferm o'r enw Fach i'r de o'r fan lle ceir tro sydyn yng nghwrs yr afon, tro ar ffurf bachyn.

Mae rhai o'r technegau yn berthnasol iawn i fridio anifeiliaid fferm.

Ganed fy nhad ym Mhen-dre, Ty Nant, Plwyf Llangwm, fferm fechan oddeutu hanner milltir o Benyfed.

Yn ôl John Cottle, sydd wedi plannu hadau GM ar ei fferm yn Sealand, mi fydd o'n parhau i dyfu'r corn nes y bydd yn cael cyfarwyddyd gan y Cynulliad neu lys barn.

Y mae bywyd yn Llundain, er enghraifft, yn wahanol iawn i fywyd ar fferm fechan yn Swydd Efrog.

Does gennych chi ddim diddordeb yn y fferm Mr Jenkins, dim ond fel lle i wneud arian ohono.

Yr unig swn yno oedd peiriannau amaethyddol, bywyd gwyllt, anifeiliaid fferm a nentydd.

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

Hon oedd y Swyddog Diogelwch Fferm a'r Ddynas Seffti.

Llyfr lluniau yw hwn yn y bon, yn dangos taith Pam a "Fi" o gwmpas y fferm.

Y prif gwestiwn gan rai felly yw, faint o fwyd planhigion sydd ynddo, a yw cystal a gwrtaith buarth fferm neu Growmore sydd wedi dal ei dir mor dda ers blynyddoedd yr ail ryfel byd?

Sawl gwas fferm (os yw'n dal i fodoli) sy'n plygu gwrych yn lle defnyddio fflêl?

Wel ydi, mae pawb hefo tractor, a chlymu fferm wrth fferm, ffermwyr cefnog yn awyddus i gael gafael ar y tir ac yn barod i adael i'r hen fythynod fynd er mwyn cael byw yn y cymoedd, gan bicio i fyny bob hyn a hyn mewn cerbyd neu dractor neu rywbeth.

Gwyddom yn dda fod y ceffyl i'n hynafiaid yn anifail cysegredig a bu'n arfer unwaith i osod penglogau ceffylau yn sylfeini tai, adeiladau fferm ac eglwysi yn y gred eu bod yn gyfrwng i'w diogelu rhag ysbrydion drwg a melltith.

Yn ôl un o newyddiadurwyr y Gorllewin, mae un fferm arbrofol yn ystyried bridio jutia conga - llygod mawr - yn fwyd i'r bobl.

Telyneg yw disgrifiad y lilith o'r fferm sydd ganddo i'w gwerthu, ond lle y buasai bardd yn sôn am fwthyn uncorn, gwyngalchog, y mae'r lilith yn fwy modern ei awen ac yn sôn am garthffosydd a mod.

Dydi'r fferm ddim ar werth, ewch â'r neges yna i'ch cyfeillion, Mr Jenkins.

Unwaith, ac yntau'n ymweld ag un o ffermydd yr ardal, dywedodd gwraig y fferm wrtho ei bod eisoes wedi talu i'w dad.

(a) Fferm Bysgod Ysgubor Fawr, Pontllyfni - anghydffurfio ag amodau cynllunio CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Mae yna ddatblygiadau pendant sy'n ei gwneud hi'n haws mesur nifer o nodweddion mewn anifeiliaid fferm.

Ar fferm yng Ngogledd Ffrainc y bu Mrs Evans yn aros, a chofia fod yno ôl cyni a dioddef gan ei bod mor fuan wedi'r rhyfel.

Un man felly oedd Bryndias ac fe brynodd y fferm.

Yn gyntaf ac yn orau, trwy gael gwybod yn gyfrinachol fod y fferm a'r fferm yn mynd ar werth.

Gwnaed cytundeb rhwng Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru â pherchennog presennol y fferm, er mwyn cynnal y caeau yn warchodfa natur.

Sawl gwraig fferm sy'n pobi yn hytrach na phicio i Leo's?

Ddydd Gŵyl San Steffan, bythefnos yn ôl pan oedd y byddigions yna yn cerdded yn drahaus dros dir y fferm, roedd yna un a arhosodd yng nghysgod y coed.

Ar hyn o bryd mae technegau modern yn cael dylanwad mawr ar fridio anifeiliaid fferm ac yn sicr fe welir datblygiadau pwysig yn y dyfodol agos.

Bu ychydig achlysuron wedyn pan fedrid cael gafael ar fferm trwy ofalu bod ar yr ochr iawn mewn rhyfel cartref.

Mae'r ffon i fod ar y fferm.

Fferm yn Llydaw

Yr oedd buarth y fferm yn llawn o amaethwyr yn eu dillad duon, a chanent yr emyn hwnnw wrth godi'r corff.

Dylid cofio, wrth gwrs, inni ddefnyddio Golwg, Llafar Gwlad, Y Wawr, Fferm a Thyddyn, Cristion a Tafod y Ddraig er mwyn dosbarthu'r holiadur, a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddehongli'r ffigurau.

Beth am brynu fferm, ynteu?

Nid mewn diniweidrwydd colomennaidd y mae darllen disgrifiad y lilith o fferm boed y disgrifiad hwnnw mewn papur newydd neu ar bapur ffwlsgap.

LAWR I'R FFERM AETH PAM A FI: Addas.

Nid oedd yn chwennych y daith drwy'r gwyll i'r fferm chwaith, ond tasg i'w chyflawni yn y nos ydoedd, y nos oedd yr amser i herio galluoedd y tywyllwch.

Os yw am ddewis y ffordd hon i gael gafael ar fferm, peth doeth ar ran y darpar-ffermwr fydd trefnu i gael ei eni'n Sais neu'n Bwyliad, os yng Nghymru y dymuna gael ei fferm.

A phan aeth yn weinidog i ardal lewyrchus o Bowys, dyma blot ei nofel gyntaf yn dechrau ym ffurfio: mab i fferm lewyrchus yn mynychu'r coleg ym Mangor ac yn profi tro%edigaeth Gomiwnyddol.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Fe'i gwelwyd yng nghyffiniau Tyddyn Bach yn ystod y bore a thystiai Ann Jones, Fferm Trefadog, iddi ei weld yn pori'i wartheg ar y lôn bost tua deuddeg o'r gloch.

Mae Justin, bachgen 13 oed, wedi cael ei adael ar ei ben ei hun ar fferm ei ewythr Mac a phan fo'r arth grisli, sydd wedi lladd anifeiliaid ffermydd cyfagos, yn lladd anifail sydd yn annwyl iawn i Justin, mae o am ddial.

Dylid sicrhau bod y deunydd organig, megis tail fferm pydredig neu fawn, tua naw modfedd islaw wyneb y pridd.

Yn 1984 y daeth Stan i'r cwm a hynny ar ôl iddo brynu fferm Llwynderi Fawr.

"Mi fyddwn ni'n defnyddio adeiladau fferm Y Faenol fel stad o weithdai diwydiannol," meddai Alun Ffred Jones, cynhyrchydd y gyfres.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

'Dwi'n cofio iddo wneud hynny mewn dwy fferm nid nepell o Fodffrodd sef, Cerrig Duon a Frogwy Fawr, ia fel yna y bydda nhad yn cael ei 'Supplementary Benefit'.

Cofiaf iddo drefnu cystadleuaeth hynod : lwyddiannus ar fferm Fronalchen a chafwyd ymateb rhagorol - gan yr aelodau.

Weithiau eraill dolefai'n blentynnaidd o'r dyffryn a redai at ei fferm o'r dwyrain.

"Ydych chi wedi rhoi ystyriaeth i'r cynnig?" "Do, Mr Jenkins." "Mae o'n gynnig arbennig o dda cofiwch, dau gant a deg o filoedd am y tŷ a'r fferm a'r hawliau saethu a physgota.

Cyflog gweithiwr fferm yn codi o 15/- (75c) i £13.3.0 (£13.15).

Mae'n dda nad oedd y cþn yn deall yr iaith ar lawer i fferm bryd hynny, neu fasa'r un ci byth yn "aros yn ei le%.

Yn draddodiadol, mae'r ffermwr wedi arfer gwella'i anifeiliad trwy ddeewis rhai gorau'r fferm, neu rai o safon uchel wedi eu pryni o ffermydd eraill, a defnyddio'r rhain ar gyfer magu.

Un bore, 'roedd Deiniol yn hwyr yn cyrraedd llidiart Caeau Gleision, a Charadog yn anesmwytho gan fod gwaith y fferm yn disgwyl.

Fel y gŵyr pawb ond y lembo mwyaf safnrhwth, ac ambell godwr canu, y mae cael gafael ar fferm yn fanteisiol i'r sawl a fyn fod yn ffermwr.

Cofiai Myrddin Tomos am ddefaid yn pryfedu; am eu dwyn i fuarth y fferm, eu dal, torri'r gwlân o amgylch y cynrhon a oedd wedi ymgladddu yn y cnawd, eu pigo allan â'r gwellau a rhwbio pridd melyn yn y man pryfedig.

Yn awr ac yn y man byddai ambell faedd yn llwyddo i ddianc o'r fferm, ond cyn bo hir fe'i daliwyd eto - neu fe fyd- dent yn cael eu lladd gan helwyr yn ystod y tymor hela yn y wlad.

Gwelais rhyw foi ar gefn beic, gweithiwr ar fferm mae'n siwr, a chodais fy llaw arno, yntau'n gwneud yr un fath arnaf i.

Mae'r stori yn cychwyn gyda dau fachgen bach yn chwarae ar awyren sy'n cael ei chadw i ddiheintio cropiau ar fferm yn Tennesee ym 1923.

Ond mae'r fferm gyd-weithredol yn 'y ngoglais o hyd.' (t.

Roedd e' yn gwybod y short-cuts o fferm i fferm er ei fod yn cario'r post o dro i dro.

O ganlyniad yr oedd yn ofynnol i amryw o bregethwyr gadw fferm neu dyddyn, a gwyddys fod William Evans yr efengylwr o Gwmllynfell yn un o'r amaethwyr mwyaf cysurus yn y gymdogaeth.

Cyfaddawd yw'r fferm, ffrwyth ei wrthryfel sy'n ei alluogi i gadw wyneb ac ar yr un pryd i ddal ei afael ar ei etifeddiaeth gyfalafol.

Fe'm maged innau ar fferm Yr Hafod, yn ardal Ty Nant, bro mebyd David Ellis yntau.

Agor y fferm wynt gyntaf ym Mae Ceredigion.

Yn rhywle, mae Schumacher yn adrodd am y wers bwysig a ddysgodd pan oedd yn was ifanc ar fferm, mai peryglus oedd cyfrif gwartheg heb eu hadnabod.

Y mae dwy brif ffordd o gael gafael ar fferm yn y byd sydd ohoni hi rhentu un neu brynu un.

Bu farw Mr Wm John Anthony, gynt o Benyfai a chyn hynny o Fferm Haregrove'.

Rhaid oedd iddo ddanfon y plant bob dydd o'r fferm i'r lôn fawr at y bws ysgol, gan mai bychan oeddynt, a'r daith o'r fferm i'r lôn yn bell.

Na, doedd Nia ddim yn ei ddeall bob amser, doedd dim disgwyl iddi, ond ryw ddiwrnod byddai'n rhaid iddi gael gwybod y bu iddi hi ran hanfodol yn ei achubiaeth ef a'r fferm.

Byddem yn gorfod mynd i godi tatws a chydweithio efo carcharorion rhyfel yn y gorchwylion hynny; ond gan mai ffarm oedd fy nghartref bu+m yn ffodus o gael gweithio gartref neu ar fferm f'ewythr ym Mach-y-Saint.

Ond gwrthodiad pendant a gafodd a pharhaodd Bowser i dramwy heibio'r fferm yn ffroenuchel gan anwybyddu'r boen a'r gofid a fodolai yno.

Gwelwn fod y wawr yn dechrau torri a gwelwn ambell i fferm yn y pellter gyda chaeau o geirch melyn; hyn oedd eu prif gnwd, a hyn yn dod ag ambell i baced o Shredded Wheat a blas Scotch Quaker Oats yn ôl i'm cof.

Tyrd i 'molchi a bwyta dy frecwast,' meddai Pierre, 'mi gei fynd allan wedyn i weld y fferm.' Dilynodd yntau Pierre i lawr y grisiau i'r ystafell ymolchi.

Ag yntau yn hogyn fferm roedd ganddo nifer o gelfi ffermio cynnar i ennyn diddordeb y plant a bu'r plant yn ddiwyd yn creu rhaff wair.

Un haf daeth teulu ohonyn nhw i aros mewn fferm gyfagos.

Gweision fferm oeddynt ill dau, eithr nid eu dwyn yn nes at ei gilydd yw dweud hynny.

Yn ôl John Johnes, Ynad, 'ceir llawer o anfoesoldeb rhwng y ddau ryw, yn bennaf ymhlith gweision fferm.

Rwyn cofio hefyd, a minnau'n ddeuddeg oed, fynd yn groes i erfyniad fy nhad, i syrcas a oedd yn cael ei chynnal ar un o gaeau fferm y Neuadd sydd bellach yn fynwent.

Ger Edern ar arfordir gogleddol Llŷn saif fferm o'r enw Cwmistir, ond dengys hen ffurfiau o'r enw mai Cemeistir oedd y ffurf wreiddiol - cyfuniad o'r elfennau cemais a tir.

Serch hynny, mae modd ychwanegu ambell eitem ac, ar hyn o bryd, rydym yn paratoi ar gyfer arddangos pen carreg Celtaidd o fferm Hendy, Llanfair-pwll.

PRYSURDEB MAWR Y FAENOL - FFILMIO OPERA SEBON YN ADEILADAU'R FFERM: Os yw un ardal yng Ngwynedd yn denu rhai o brif ser Hollywood yr haf hwn ym mro'r Goriad mae'r stori'n wahanol.

Sut ynteu y mae mynd o gwmpas cael gafael ar fferm?

Aeth disgyblion dosbarth pedwar Ysgol Creigiau i weld fferm Garth Uchaf.

Gadael y fferm!

a f'esgidiau i fel pe buaswn i wedi bod yn cerdded buarth fferm.a hwythau ers blynyddoedd wedi cymell a chynnal rhyddfeddwl ar raddfa mor fawr.

Wedi gyrru am beth amser arafodd y cerbyd a sefyll o flaen hen dy fferm.

Hen dþ fferm yn nhawelwch Llanfairynghornwy yw Tþ Wian.

Ar ddiwedd Cysgod y Cryman awgryma Harri mai ar rent gan Edward Vaughan y bydd y fferm ac erbyn Yn ôl i Leifior awgryma Marged fod gan y gweithwyr fel perchenogion 'siâr yn y ffarm ei hun' (t.

A does yma fawr o fanylu ar reolaeth ac economi'r fferm.

Tua deg oed oeddwn i pan symudodd fy rhieni i fyw o Dywyn i fferm fechan yn y wlad, ac i gychwyn, doeddwn i ddim yn hoff o'm cartref newydd.

Bob tro y'i gwelaf yn y llyfr Emynau 'rwy'n cofio fy nghyfaill a finnau yn ei ganu, ganol nos, yn yr oerfel, o flaen rhyw dy neu fferm yn y wlad.

I'r mwyafrif o leygwyr, efallai mai catalogau sioeau yw'r mwyaf cyfarwydd o'r cyhoeddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid y fferm.

Unwaith eto ni siomwyd cynulleidfa fferm Morfa Mawr.

mae'r tractor wedi ei gwneud hi'n haws i'r ffermwr, ond mae wedi chwalu y fferm deuluol.

Bu farw Miss Mair Eluned Thomas, Fferm Treoes yn gymharol ifanc.

Yn aml nid oes ond y ffermwr ei hunan ar gael, aeth heibio'r oes pan fyddai gwas ar bob fferm.