Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffibril

ffibril

Felly sefydlwyd bodolaeth breichiau bach wedi eu gwneud o'r protein dynein yn ymestyn allan o'r is- ffibril A yn y ffibrilau perifferol.

Hynny yw, dau ffibril canolog a naw ffibril perifferol, i gyd wedi eu hamgau mewn gwain gyffredin yn cynrychioli pilen y gell.

Mae i'r naw ffibril perifferol ffurfiad dwbl yn cynnwys dau is-ffibril perifferol a adwaenir fel A a B.

Mae'r rhain yn creu ac yn torri cysylltiadau a ffibril cyfagos nes cael effaith rhywbeth yn debyg i neidr filtroed yn cerdded dros y tir.

Yn ogystal ceir adenydd rheiddiol yn cysylltu is- ffibril A y ffibrilau perifferol yn cysylltu a'i gilydd trwy gyfrwng cysylltiadau nexin.

Darganfuwyd hefyd fod tuedd y ddau ffibril canolog yn gysylltiedig a phlan curo'r swiliwm.

Felly, os tynnir llinell trwy'r ddau ffibril canolog, mae cyfeiriad y curo bob amser ar ongl sgwar i'r llinell hon.