Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffilmio

ffilmio

Y BBC yn ffilmio i lawr wrth yr afon.

Oherwydd eu safleoedd daearyddol gall teithio i'r gwledydd sy'n datblygu fod yn gostus, a gall byw ynddynt tra'n ffilmio a recordio'r deunydd fod yn rhyfeddol o gostus hefyd.

Ffilmio 'First Knights' ym Meirionydd y bydd Sean Connery a Richard Gere - blocbystar fydd yn dweud hanes y Brenin Arthur.

'Mae 'da chi awr fan hyn,' meddai un o'r meindars, cyn gwneud y cyhoeddiad anhygoel: 'Chewch chi ddim mynd i mewn i Iraq.' Sut ddiawl fedren ni ffilmio'r Kurdiaid, felly?

Yr actor sydd wedi cael y sylw mwyaf yn y ffilm mawr newydd, Gladiator, ydi Oliver Reed - yn rhinwedd y ffaith iddo fo farw cyn gorffen ffilmio.

Wrth ffilmio ychydig ar y ffordd yna, dyma sylwi fod cloch yn canu ym mhen draw'r stryd.

Pe deuai gwybodaeth am ddamwain mewn pwll glo, dyweder, mor ddiweddar â phump o'r gloch y prynhawn, fe âi'r tîm newyddion ati ar amrant i ganfod peth o gefndir y lofa, yn ogystal ag anfon uned ffilmio allan ar unwaith.

Er mai am saith mae'r ffilmio i ddechrau y mae'r gynulleidfa o gant y paratowyd lle ar ei chyfer o flaen y llwyfan yn dechrau ymgasglu toc wedi pump.

Ydych chi am ffilmio'r plismon yn ymosod ar berson du, neu ydych chi am ffilmio'r hen wraig yn cael ei tharo gan ddyn sy'n digwydd bod yn groenddu?

Yn ardal Dolgellau hefyd, mae yna gyffro wrth i bobol edrych yn fanwl ar bob wyneb dieithr rhag ofn i Richard Gere neu Sean Connery alw heibio'r National Milk Bar am baned rhwng ffilmio golygfeydd o'r epig Arthuraidd, First Knight.

Y nod oedd recordio digon o ddeunydd yn ystod taith ffilmio tair wythnos yn y Swdan i'n galluogi i ddangos hanner dwsin o raglenni i'w defnyddio yn rheolaidd mewn dosbarthiadau, a phob un yn dangos rhyw agwedd arbennig ar ddatblygu.

Pan ydach chi'n gorfod ffilmio rhywun sy'n diodde' ac rydach chi'n gwybod mai hwn ydi'r llun sy'n mynd i wneud yr eitem.

Dydi ras i ffilmio'r lluniau mwya' trawiadol o ysglyfaeth ddiniwed newyn ddim yn ras braf i'w gwylio.

Ond y mae darluniau agos o'r wyneb yn gofyn am amseru manwl lle mae'n rhaid defnyddio recordydd sain arbennig y gellir ei amseru yn awtomatig i gyflymdra y camera a rhaid cael aelodau ychwanegol i'r criw ffilmio i weithio'r peiriannau hyn.

Defnyddir trawsysgrifiadau o wersi real y buwyd yn arsylwi ynddynt ac yn eu ffilmio.

Ychydig iawn o amser fydd rhwng y ffilmio a darlledu'r gyfres.

Mi roedd gweddill y criw ffilmio yn teimlo'r un fath â fi, er nad oedden nhw'n Gristnogion yn yr un ffordd.

Ffilmio yn y Fro

Mewn un mosg yng nghanol Tripoli, buom yn ffilmio rhesi o blant yn ceisio efelychu'r gamp.

Mae hyn i'w weld i raddau yn y gwledydd yr ydw i wedi dewis mynd i ffilmio ynddyn nhw - llefydd sydd wedi cael sylw mawr yn y newyddion, ond sylw arwynebol, a lle mae yna her i edrych yn ddyfnach .

Hysbysodd swyddog y tollau na chaem fynd ymhellach oni fedrem ddangos darn o bapur gan y meindars i brofi nad oedd ein ffilmio wedi torri unrhyw reolau.

Darma gyfnod yw hon, addasiad Eigra Lewis Roberts yn cael ei ffilmio gan gwmni Llifon i'w darlledu fis Chwefror nesaf.

wrth gwrs, maen nhw'n gallu arbed arian trwy beidio ffilmio yn America ond un o'r prif bethau yw'r elfen hanesyddol.

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.

Dyw ffilmio ddim bob amser yn broses dorcalonnus.

Adrannau gwybodaeth y gwahanol lywodraethau sy'n eu cyflogi nhw a'u rôl yw gwneud trefniadau ar gyfer y ffilmio, sicrhau nad yw ffilm yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu'n wael ar y Llywodraeth a gwneud yn siwr nad yw'r newyddiadurwyr a chriwiau teledu'n gwneud gwaith ysbi%o.

Y tu cefn i'r straeon doniol, mae yna ochr arall ac, wrth fynd i ffilmio mewn gwersyll haf i blant mwya' addawol y wlad, y cefais i fy mhrofiad mwya' ysgytwol yn Libya.

Roedd rhaid cael y passes am fod yna sawl carfan yn Beirut a'n bod ni am ffilmio mewn sawl ardal wahanol.

Eto, mae deunydd sy'n cael ei ffilmio yn y Trydydd Byd parhau i fod yn nwydd digon prin nes iddo gwerth fel buddsoddiad.

Mae Gruff yn brysur iawn ar hyn o bryd gan ei fod yn troi ei law at actio ac yn ffilmio ar gyfer ffilm fydd yn cael ei dangos ddiwedd y flwyddyn.

Wrth i ni ffilmio yn un o'r gwersylloedd hyn, cefais fy mhrofiad newyddiadurol mwyaf dadlennol yn Libya.

Wedi cyrraedd y ddinas, rydw i a'r criw ffilmio yn penderfynu ymweld â'r ty bwyta Milano, sy'n cynnig dewis da o fwyd ac sy'n boblogaidd gyda gweithwyr cymorth.

Mynd i'r Ysgol Ganol ar y campws am hanner awr wedi tri i ddisgwyl i'r criw ffilmiau ddechrau ffilmio.

Ar ddiwrnod cynta'r ffilmio; fe wrthododd ganiatâd inni ffilmio murlun anferth o Che Guevara yn Sgwâr y Chwyldro, gan esbonio fod y llun ar ochr pencadlys gwasanaethau cudd y wlad.

Yr unig wahaniaeth yr ydw i'n ei deimlo fel Cristion yw fod hynny'n eich gwneud chi ychydig bach yn fwy gofalus yn y ffordd, er enghraifft, yr ydych chi'n ffilmio rhywun sydd wedi diodde' neu'n ffilmio rhywun mewn damwain neu blentyn bach mewn poen.

"Gyda'n help ni mae'r cwmniau yma wedi dewis yr ardaloedd hyn fel lleoliad i'r ffilmio," meddai Mr Edwin yr wythnos hon.

Roedd yna bobl yn dal i addoli Duw; mi roedden ni'n ffilmio ac mi roedd hi'n bwysig iawn ei fod o'n cael ei ddangos.

Mae wedi mwynhau pob munud o'r ffilmio.

Yn anffodus, oherwydd blerwch y trefniadau, chawson ni ddim cyfle i'w ffilmio.

Mae yna ddigon o hobis, digon iddyn nhw ei wneud, ac mae'r addysg yn dda.' Wrth i ni ffilmio dosbarth ysgol Rebecca, cafodd y plant wers ar ymosodiad byddin gudd Israel ar faes awyr Entebbe.

Gyda'r ffilmio wedi ei drefnu i gychwyn am saith - yn unol a'r arfer Ariannaidd mae'n cychwyn yn brydlon toc cyn wyth.

Roeddwn yn Ariannin, felly, i ffilmio gambl enfawr gan un dyn; roedd Y Byd ar Bedwar hefyd yn cymryd siawns o'r mwyaf.

"Mae'r ffilmiau'n saff o gael dangos drwy'r byd i gyd, felly yn sicr bydd yn gwneud lles enfawr ir diwydiant twristiaidd ac i fusnesau lleol yn y pen draw, yn ogystal â'r adeg bydd y ffilmio yn mynd yn ei flaen," meddai Sian Ekan-Wood ar ran y bwrdd.

a ddylen ni fod wedi bwrw ymlaen i ffilmio neu roi'r camera i lawr a helpu?

Er mwyn gallu codi'r holl arian yma, rydym wedi bod yn golchi ceir staff yr ysgol, a trigolion y pentref, cynnal boreuon coffi, ac ar fore yr eisteddfod ysgol eleni, fyddwn ni yn cychwyn ras balwns, a fydd yn cael ei ffilmio gan HTV.

Ond mae'r cyfan, trwy ffilmio clyfar, yn digwydd rhwng y gwydrau ar poteli ar wyneb bar y mae cwsmeriaid yn yfed wrtho.

Yno, bydd yn ymuno â chorau eraill i'w ffilmio gan gwmni teledu o Gymru yn canu gwaith crefyddol sy'n cael ei alw yn Misa Criolla.

Cynhyrchwyd y ffilm gan Gareth Rowlands a chafodd ei ffilmio ar leoliad yn Amsterdam dros gyfnod o ddeuddeg diwrnod.

Wrth gwrs, y mae ystyriaeth arall, sef caniata/ u i'r labordy lleol brosesu a gwneud hynny'n anghywir yn peri i'r criw ffilmio gywiro bai nad yw'n a thrwy hynny, ddinistrio'r cwbl ar ôl y dilyniant cyntaf.

Wrth inni ddechrau ffilmio'r penglogau, fe deimlais i'r tywydd yn newid.

Yn Ciwba y cefais fy mhrofiad cynta' o'r minder, y gwarchodwr hwnnw sy'n rhan anorfod o ffilmio mewn amryw o wledydd tramor.

Tra'n ffilmio caeau reis fe daeth menyw chwilfrydig heibio a gofyn beth oedden ni'n ei wneud.

PRYSURDEB MAWR Y FAENOL - FFILMIO OPERA SEBON YN ADEILADAU'R FFERM: Os yw un ardal yng Ngwynedd yn denu rhai o brif ser Hollywood yr haf hwn ym mro'r Goriad mae'r stori'n wahanol.

Roedd pennaeth y meindars yn gwrthod gadael i ni ffilmio unrhyw beth y tu allan i'r gwesty, a bu'n rhaid i ni fodloni ar ambell lun o harddwch y brifddinas drwy ffenestr yr ystafell fwyta ar y llawr uchaf.

Un o broblemau penna' gohebwyr a chynhyrchwyr yw cael caniatâd swyddogol i ffilmio mewn gwlad.

Mae rhannau o August - fersiwn 'Gymreig' o'r ddrama Uncle Vanya gan Chekhov yn cael ei ffilmio ym Mhen Llyn ac yn cynnwys Hopkins a nifer o actorion Cymreig eraill yn y cast.

Opera sebon fydd Pengelli wedi ei sefydlu mewn gweithdai diwydiannol a bydd ugain pennod hanner awr yn cael eu ffilmio yno.

Tra oedden ni yn Havana, fe gawson ni wahoddiad i ffilmio seremoni dadorchuddio cofgolofn i Lenin, y fwya' a'r hardda' o'r cofgolofnau a oedd iddo ledled y byd - ac roedd trideg- chwech o'r rheiny.

Fe gawson ni ein bygwth tra'n ceisio ffilmio gŵr oedd wrthi'n torri camel yn ddarnau, yr anifail wedi'i rannu'n goesau, pen, gwddf a thafelli o gig coch ac ar fin cael eu hongian ar un o stondinau prysur y farchnad.

Ymhen pythefnos, fe gawsom ni ffilmio'r un llun - a'r adeilad ei hun - o bob ongl y gallech chi'i ddychmygu.

Er gwaetha'r hanesion erchyll, aeth amser yn drech na ni, ac roedd hi braidd yn hwyr arnom yn rhoi'r gorau i ffilmio.

Cyn inni ddechrau ffilmio fe gerddais o gwmpas ar fy mhen fy hun, ac, yng nghornel fy llygad, gwelais ddarn o bapur ar ochr un o'r tyllau mawr.

Wrth olygu, bydd ychydig o'r deunydd sydd wedi ei ffilmio yn cael ei wrthod ond bydd y gweddill cael ei dorri'n llythrennol a'i lynu at ei gilydd mwyn gwneud y cynhyrchiad gorffenedig.

Ers rhai wythnosau mae'r hen blasdy yn cael ei defnyddio i ffilmio cyfres wedi ei seilio ar nofel Y Wisg Sidan gan Elena Puw Morgan.

Ychydig iawn fentrod yno - roedd camerâu'r byd wedi casglu yn Nhwrci i ffilmio'r ffoaduriaid oedd yn tyrru i'r wlad honno.

Y mae o gymorth i'r criw ffilmio gael edrych dros y ffilm sydd wedi ei thynnu i weld a yw ansawdd y deunydd y maent yn gweithio arno yn ddigon da.

Fe gyhuddwyd gohebwyr teledu'n gyson o dramgwyddo'r gwylwyr yn ogystal â'r trueiniaid yr oedden nhw'n eu ffilmio drwy roi mwy o bwys ar effeithiolrwydd arwynebol adroddiad nag ar ei gynnwys.

Criw ffilmio yno hefyd yn cynnig i ni fynd allan i Yiyang i le karaoke, i far ac i ddisgo.

Fel roeddwn yn dweud, gwnaeth y ffilmio clyfar argraff ddofn.

Bryd hynny, mae'n rhaid cofio bod yna swyddogaeth i sut rydych chi'n ffilmio neu beth ydych chi'n ffilmio, gan obeithio eich bod yn dod â'r teimladau amlwg sydd ynoch chi i'r sgrin.

Wedi awr yn unig o ffilmio, daeth y milwyr ar ein holau a'n gwthio i gyfeiriad y bws.

Mynd i fyny at y lawnt tu allan i lyfrgell y coleg i baratoi ffilmio hefo aelodau clwb Saesneg yr Ysgol Ganol.

Gallant wneud hyn ar safle'r ffilmio trwy edrych ar y dilyniant cyntaf a dynnwyd ganddynt.

Roedden ni'n ffilmio yn ei chysgod hi ar y traeth pan waeddodd ein gyrrwr arnon ni i symud yn gyflym.

Bu mewn ugain o wledydd i gyd wrth dreulio tair blynedd yn ffilmio'r hanes.

Fodd bynnag, yr oedd dau beth a amlygai eu hunain yn fwyaf arbennig - yn enwedig yn y portread o Annigoni - ceinder ac artistri y gwaith ffilmio a sylwedd a dyfnder deallusol y sylwebaeth.

Byddai dod o hyd iddi, heb sôn am ei ffilmio, dipyn yn anos nag ydoedd yn achos Siwsan Jablonski.

Pan fuom yn ffilmio mewn ysgol feithrin yn Alamar, teimlais fod y gwario a'r adnoddau yn ormodol, os nad yn wastrafflyd, mewn gwlad sy'n perthyn yn swyddogol i'r Trydydd Byd.

Nawr gyda'r hawl undebol i ddefnyddio criwiau lleol, mae'n llawer haws ffilmio mewn gwledydd tramor.

A ddigwyddodd hyn oherwydd ein bod yn ffilmio?