Byddai'r gof druan i mewn ac allan o'r efail yn gyson i ffitio'r pedolau, ac yn y diwedd eu hoelio ar y carn.
Ar ôl yr holl weithio ar olwyn, mor falch fyddai y saer coed o weld popeth wedi eu ffitio i mewn yn hwylus yn y diwedd.
Dydi carn fy nghoes ('calliper') ddim wedi ffitio'n iawn ers pymtheng mlynedd.
Rhaid oedd mesur yn ofalus faint oedd hyd pob darn, a bod yn sicr y byddent yn ffitio i'w gilydd yn y diwedd.
Adnewyddu capeli mewn ardaloedd lle mae dyrnaid o Gymry Cymraeg yn dal i gadw Seion, Soar a Bethlehem i fynd ar gost gynyddol, pan fyddai pawb, a dweud y gwir, yn gallu ffitio i fewn i festri Seion yn deidi.
Wedi i'r gwaith gael ei gwblhau, does dim raid i chi boeni pa blwg o'r garafan fydd yn ffitio i ba soced gan fod ffurf y ddau yn wahanol.
Hwyrach fod y cymhelliad hwn yn fwy anymwybodol na dim arall; ond y mae'n ffitio yn dda mewn cyfnod pan oedd nifer o feirdd ac ysgolheigion yn ceisio ailsefydlu safonau newn llenyddiaeth Gymraeg, a phrofi o'r newydd ei bod yn haeddu lle pwysig ymysg llenyddiaethau'r byd.
Byddai clewtiau o hen ragiau di-siâp o'r domen yn ffitio'u lle i'r dim ac yn cloi i'w gilydd yn daclus a chadarn.
Dyna pam y treuliais ran helaeth o bennod gyntaf y gyfres newydd yn ceisio penderfynu pwy yw pwy a sut maen nhw'n ffitio'r darlun.
Rhaid oedd i'r camogau fod wedi eu gwneud yn ofalus iawn fel nad oedd lle iddynt symud dim ar ôl eu ffitio i'r bwl.
Weithiau fe wnâi'r gof rimyn yn y bedol fel y byddai'r hoelen bedoli yn mynd o'r golwg yn y rhimyn Ar ôl ffitio'r pedolau, a hwythau yn barod,- fe roddai'r gof hwynt yn y gasgen ddŵr a oedd yn yr efail; fe'u gosodai hwynt ar ymyl y blwch pedoli, lle yr oedd yno yr hoelion yn barod mewn lle arbennig, y rhasp a'r morthwyl pedoli hefyd.
Pan dynnir y ffurf, neidiwch allan o'r amlinell sialc, a gwelwch wedyn a fedrwch ffitio'n ol i'r union fan.
'Rhaid i'r gosb ffitio'r drosedd, Jini.'