Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fflam

fflam

O dan yr amgylchiadau, yr unig beth caredig i'w wneud fyddai bod wedi ei gadael hi ar ei phen ei hun i lyfu ei chlwyfau ac nid ceisio esmwythau cydwybod, a dangos i'r byd ein bod ni'n bobl 'neis' yn y bon drwy arllwys ein cydymdeimlad nawddoglyd ar ei phen." "Doedd dim rhaid iddi dderbyn ein croeso..." "Ond roedd y ferch yn dal i'n caru, er ei gwaethaf hi ei hun, ac yn cael ei thynnu fel gwyfyn at fflam noeth.

Yn cadw'r fflam ynghyn.

Roedd hi'n weithgar iawn yn ei chapel, sef Bethania, ac mi gadwodd fflam ei ffydd Gristnogol tan ddiwedd ei hoes, er gwaetha'r cyfnodau mynych o afiechyd.

Nid oedd yr oriau meithion a dreuliasant yn dilyn fflam y gobaith am well byd yn y byd hwn, wedi'u dallu i'r fath raddau na fedrent adnabod dyn da wrth ei weld.

Pontiodd fflam o dân o ffroenau'r dreigiau a saethu'n groes i'w wybren gan godi mwy o ofn arnyn nhw.

Felly pan ddaeth y gwahoddiad i ymweld â brodyr a chwiorydd o Gristnogion yn Tsiecoslofacia, mae'n rhaid dweud i rhyw fflam o ysbryd anturus godi yn fy nghalon.

Nid Bryncir oedd yr unig le a welodd fflam y diwygiad yn cael ei chynnau gan ymyrraeth annisgwyl llanc ifanc mewn oedfa.

Gwnewch lun y fflam gyda'r erfyn llinell afreolaidd a'i lenwi â phatrwm llwyd a defnyddio patrwm llinell gwyn.

mae'r huddygl a gynhyrchir wrth i fflam y gannwyll losgi, neu wrth losgi bensen, yn ffynhonnell bwysig o'r ffwlerenau yma.

Cyn diwedd yr hanner cynta roedden nhw wedi rhwydo ddwyaith a fflam gobeithion Y Barri wedi diffodd.

Yr oedd yr ymennydd yn glir ac yn ddisglair fel fflam.

Edrychodd Gwen arno'n cyrcydu'n esmwyth ar y carped hirflew, a golau fflam ffug y ta yn chwarae ar ei wyneb.

Lledaenodd fflam y Chwith adweithiol newydd drwy Ewrop, protestiai Americanwyr ifanc yn erbyn y rhyfel yn Fietnam, a phrotestiai'r duon yn erbyn gormes y gwynion.

Abertawe'n fflam am dair noswaith yn Chwefror, 230 yn cael eu lladd, a dinistriwyd canol y dref.

Gafaelodd Elystan yn y pen bychan a'i droi oddi wrth wres y fflam.

Yr eiliad nesaf fflachiodd llygad y Cripil unwaith yn rhagor yn fflam y tân a phan beidiodd y llewyrch meddai, "Fe enir mab arall i'r arglwydd Gruffudd ond nid da gormod o feibion 'chwaith rhag bod ymrafael rhyngddynt." "Gwell gormod na dim," oedd sylw cwta yr Ymennydd Mawr.

Gosodwch gannwyll fechan yn gadarn ar darn o glai fel na fydd yn disgyn drosodd, a goleuwch hi'n ofalus gan wneud yn siwr fod y fflam gyferbyn a'r twll.

Aeth y fam i nôl y lamp i ddal golau iddynt, ond daeth ebwch o wynt a gyrru tafod o fflam i fyny'r gwydr.

Weithiau, mae'n naturiol fod cynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a thechnegwyr ifainc yn bryderus rhag i lais profiad droi'n ymyrraeth neu hyd yn oed arwain i bylu'r fflam o dân yn eu boliau.