Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fflat

fflat

Dim angen ei ddenu erbyn hyn, rhuthrodd i mewn i'r fflat o 'mlaen a chwarae o gwmpas.

"Roedd fy nhad gyda'i anffurfioldeb arferol yn dymuno i mi atgoffa Miss Davies fod perffaith ryddid iddi ddod â ffrindiau neu deulu i aros yn y fflat unrhyw adeg, ond os bydd rhywun yn dod yno i fyw ar sail fwy parhaol, efallai y byddai hi garediced â gadael iddo fo gael gwybod er mwyn iddo gael trefnu ynglŷn â'r rhent.

mae gen i fflat yn ymyl y puerta del sol.

Diffinir y cae yn y cefn mewn strociau tew cyllell balet, y blaendir ag ysgubiadau lletach a mwy fflat, ac yna ar gyfer yr awyr gwaith brwsh yn sgrwbio'r paent yn fflat.

'Doedd hynny ddim yn rhyfedd gan 'i fod o wedi eistedd ar fy het i nes 'roedd hi'n fflat fel crempog.

Ni ddychwelodd i fflat Fred yn Stryd Alma, ni chysylltodd â'i mam na'i chwiorydd ac ni welodd ei phlant na neb arall hi hyd y dydd heddiw.

Pan ddychwelodd i'r fflat rai dyddiau'n ddiweddarach, roedd y ferch wedi gadael.

Y ddwy wedi prynu ein hoff lysiau i baratoi'r pryd a choginio cymaint o chillies nes bo llygaid Kate a minnau'n diferu, a'r ddwy ohonom yn tagu yn y fflat.

Cofiaf un flwyddyn mai "Fflat Huw Puw% oedd y gân a llwyddodd i gael cwch go iawn i ni ar y llwyfan, a ninnau'n gwisgo cap pig gloyw a souwester.

Treuliodd Mos brynhawn difyr yn ei fflat yn edrych ar un o rowndiau cynderfynol rygbi'r gynghrair.

Ar Iol rihyrsal y pnawn fe fydden ni'r plant yn mynd i lawr at yr afon i daflu cerrig fflat ar draws wyneb y dŵr.

cyrhaeddodd hi'r fflat tua chwech o'r gloch.

A'i lais yn fflat a diemosiwn, canolbwyntiai ar geisio cadw'r car rhag gwyro oddi ar ffordd gul, droellog ar hyd yr arfordir a disgyn dros y clogwyn serth i'r môr.

pam roioch chi'r amlen trwy flwch llythyron y fflat?

Fel y gellid disgwyl, rhyw ddiwrnod fflat oedd o.

Tua hanner awr wedi dau neu chwarter i dri, galwodd Ali yno a rhoi allwedd y fflat iddo oddi wrth Mary.

Roedd gan beilot gariad--stewarde/ s fach annwyl - ac roedd hi'n byw mewn fflat oedd ganddo yn Llundain.

Mae Gogledd India o ffenestri'r tren yn hollol fflat, gyda pheth coed, ond hefyd yn dangos cryn effaith y 'Chwyldro Gwyrdd', oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r tir yn dir ar.

Pan ddaeth adref tua phump o'r gloch roedd Mary yn y fflat yn ei ddisgwyl.

Mynd am y lle karaoke ond roedd wedi cau oherwydd nad oedd trydan, felly dychwelyd i'r fflat.

Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.

Yn fflat Fred yn Stryd Alma yr arhosodd Mary y noson honno.

Cais llawn - addasu ac ymestyn modurdy preifat yn sylweddol i greu fflat nain Rheswm: Gohiriwyd ar gais asiant yr ymgeisydd.

'Meddyliwch,' meddai Caridad, 'fflat fel hon am tua deuddeg peso y mis.

Arhosodd Mary yn fflat Fred y noson honno wedyn, a bu'n cysylltu ag un o'i chwiorydd yn gofyn i honno chwilio am dŷ iddynt a holi am waith i Fred naill ai yn Birmingham neu yn Daventry.

Yno, hefyd, roedd Caridad Hernandez, a oedd yn byw mewn fflat a godwyd gan frigâd ei gwr oedd yn yrrwr lorri.

Roedd y fflat fel pin mewn papur.

Gwrthodwyd y cais am grant y flwyddyn hon oherwydd bod costau grant ar gyfer pob fflat yn rhy uchel.

Roedd curfew mewn grym pan ddychwelais i'r fflat.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

'Mae e'n ffodus iawn bo fe'n weddol ysgafn a gobeitho gallwn ni gadw'i bwyse fe lawr i farchogaeth ar y fflat,' meddai Hywel.

meddyliodd hi am teresa, merch oedd yn byw yn y fflat drws nesaf, ac aeth i'w gwahodd hi i fynd allan gyda hi.

Ma' hi newydd osod y fflat i Emma a Madog, ch'wel.

Gyda chymorth teiliwr lleol, daethon ni o hyd i'r fflat lle'r oedd Siwsan a'i theulu'n byw yn y diwedd.

Doedd gen i ddim awydd trafod fy mywyd ar ganol y rhodfa fel hyn, ond er mwyn heddwch fe grybwyllais yr ymddeol a'r fflat, a dyma hithau'n cydio yn y wybodaeth fel octopws yn ymestyn un o'i freichiau i gydio mewn ysglyfaeth.

mae yna sūn fflat yn mynd arni fel cacwn mewn bys coch.

Carwn i chwi, y bobl sydd erioed wedi bod yn y gwaith, ddychmygu gweld stepan fflat wedi ei thorri allan o'r graig, ac yn y fan hyn, sef ponc, 'roedd y dynion yn gweithio.

fe es i i'w gweld hi yn ei fflat, ond ond i ddim ateb.

'Taw er mwyn i mi gael clywed beth sy'n digwydd!' Roedden ni'n tri yn y gegin a nhw'u dau yn yr ystafell ffrynt a chlust Robat John yn fflat ar y drws.

Yn enwedig ac yntau'n ymddwyn fel petai yn fy herio i i fynd a'i adael o ar ei ben ei hun yn y fflat yma ar y fath dywydd.

Ond mewn cae rhwng y siop a Stanley Buildings digwyddais ddal sylw ar ferlan ddu yn tynnu car fflat, a deall gan ffrind ei bod yn perthyn i 'Hugh Williams joinar' ac yn danfon eirch liw nos i Bendyffryn (sanatoriwm yr adeg hynny).

Dymunwn yn dda i Mr Eric Jones sydd wedi symud i fflat ym Mryn Castell a Mr Emlyn Hughes wedi symud i Argoed.

Fflat cyffyrddus, pedair ystafell, teledu, vcd, peiriant golchi yr un, cyfrifiadur a chegin i'w rhannu.

Yna'r tir yn y pellter yn ddim ond golchiad fflat o rug porffor, ond y blaendir yn wyrddach ac wedi ei rannu'n ddau gan lon wledig, droellog, a dim ond twts o waith brwsh yn awgrymu'r llwyni a'r glaswellt.

Dyffryn cul yw Cwm Garw, a thai gl**owyr wedi'u codi yn rhesi ar hyd bob ochor; yn wir, yr unig le fflat yw'r ffordd fawr sy'n arwain at bentref Blaengarw ym mhen ucha'r cwm, y rheilffordd a'r afon a oedd, yn nyddiau fy mhlentyndod, yn ddu, ddu o lwch y glo.

"Peth digon digysur ydy bod mewn fflat a honno ar ganol ei hailwampio," ebe Emli, "Rhaid i chi ddod atom ni i fwrw'r Sul." "Rydan ni'n byw hefo'n gilydd," meddai wedyn, a throi at Alis a honno'n edrych allan i eangderau'r mor.

Cerddodd y ddwy filltir a hanner o'r fflat i'r tū.

Trefnodd y ddau i fod yn ôl yn y fflat am hanner awr wedi deuddeg i ginio.

yna disgrifiodd hi ei thaith i sgwâr sgwâr, a'i hymweliad â fflat susan rawlings.

Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.

Gwelwn enwau dieithr ar eu hetiau fflat, HMS Glendower.

Delweddau eraill - Stee Buscemi yn ymdrochi yn ei faddon y tu ôl i ddrws ffrynt ei fflat flêr, yn ateb y ffôn.