Byddai'r frawddeg olaf yn cyfleu llawer mwy i gyfoeswyr Daniel Owen nag a gyflea i ni, oblegid bu dadlau brwd yr amser hwn rhwng yr Arminiaid a'r Calfiniaid, fel y dengys gwaith Thomas Jones, Dinbych, a fwriodd dymor yn yr Wyddgrug, a dadlau nid llai brwd rhwng y Calfiniaid a'r Uchel-Galfiniaid, dadl a fu mor chwerw yn Henaduriaeth Sir y Fflint fel y bu raid i'r Cyfundeb ymyrryd.
Gwasanaeth sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor, adnoddau a gwasanaethau datblygu ym maes anabledd ac sy'n canolbwyntio ar bobl ag anabledd corfforol a nam ar y synhwyrau yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru.
Talaith trydedd ran yr Adroddiadau yw gogledd Cymru, siroedd Môn, Caernarfon, Dinbych, Fflint, Meirionnydd a Threfaldwyn.
Merched Fflint yn amlwg yn cael cefnogaeth a chymorth gwerthfawr.
Un peth roedd rhaid i mi ofyn, oedd, a oedd unrhyw wobr ariannol - 'Nagoes wir!' ebychodd Christine Beer, cyd-drefnydd rhanbarth Fflint, gan godi cywilydd mawr arna i am feddwl y fath beth.
Mae cais cynllunio Cyngor Sir Clwyd i godi ffordd osgoi i'r Fflint, ar draws y gors yn aber yr afon Dyfrdwy wedi ei alw i mewn am benderfyniad personol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Crisialwyd yr holl gyffro anniddig hwn drwy'r byd yn y gerdd ' I'r Anniddig', un o gerddi'r dilyniant a enillodd y Goron i Dafydd Rowlands yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint ym mlwyddyn yr Arwisgo.
Hanai ei dad o'r Cwm, Sir y Fflint, a'i fam o Lanfair Dyffryn Clwyd.
Soniwyd amdano ar y pryd, sef tua diwedd tridegau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r pedwardegau, fel un a oedd mewn cysylltiad agos â'r grŵp o bregethwyr ifainc a ddaeth dan wg brodyr yr hen ffydd 'iach' yn Sir y Fflint.