Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffocws

ffocws

Ond, o hyn ymlaen, y Cynulliad Cenedlaethol fydd prif ffocws ein gweithredu.

Ymysg ei gweithgareddau mae'r Gymdeithas yn trefnu cyrsiau dawns a hyfforddi dawns, cynhyrchu a chyhoeddi dawnsiau a cherddoriaeth ar gyfer dawnswyr a cherddorion, cyhoeddi cylchgrawn blynyddol a rhoi ffocws i ddawnsio gwerin Cymru.

Ond gwelwn sefyllfa adroddiadol newydd yn datblygu o'r bedwaredd bennod ar bymtheg ymlaen, yn arwain at ddiflaniad Robin a'i feistr, ac yn rhoi ffocws newydd i'r llyfr.

Mae yggol y pentref wedi dod, yn aml, yn ffocws Cymraeg y gymuned.

Mewn gwrthgyferbyniad amlwg â hyn y mae dysgu ffurfiol yn hunan-ymwybodol, yn ddarniog ac yn tueddu i roi ffocws ar yr iaith ei hun.

Yna, gwelir newid yn naws y darn fel y mae'r rhythm yn newid i ganiata/ u i Hiraethog ledu'r ffocws er mwyn y gomedi.

Wedi colli'r ffocws, byddai'r weddillion o fywyd cymunedol yn mynd yn Saesneg er y byddai gan unigolion hawliau cynyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ar faterion swyddogol - 'role-reversal' llwyr.

Mae'r clipiau sain (Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer BBC Cyrnru) o'r rhaglenni hefyd yn rhoi ffocws ar y cymeriad dychmygol, Mr. N. Ff. Ithiel, sef rheolwr aflwyddiannus, ac ar sut y mae o'n gwneud cawl o bob dim! Cymeriad wedi ei greu gan yr actor a'r comedïwr Emyr Roberts yw N. Ff. Ithiel - cymeriad sy'n gwrthgyferbynnu â'r rheolwr llwyddiannus, Mr. Ff. Ithiel, fydd yn dangos i ni sut i wneud pethau'n iawn.

'Mae pob gair i fod yn briodol, a'ch gwaith chi ydi gwneud i'r geiriau yna, y stori yna, weithio, heb dynnu'r ffocws oddi ar beth mae'r cyfarwyddwr, yr awdur a'r actorion yn trio'i gyflwyno...

Cawn yr argraff o gipolwg sydyn - amrantiad o olau, o symud, a hyd yn oed o synau, fel argraff gyntaf delwedd cyn iddi lawn ddod i ffocws.

Ond y funud y cyrhaeddodd cododd honno ei chlustia a throdd ei phen-ôl, a oedd wedi bod yn ffocws pawb ers wsnosa, tuag at wal ac edrych ar Ifor.

Yn lle hynny try Hiraethog at ffocws newydd, sef hanes y garwriaeth rhwng Sgweiar ifanc y Plas a Margaret.

Cawn ei gweld yn symud i'r ardal i briodi, yn dechrau magu plant, ac yn ymdrechu i gael y ddau ben llinyn ynghyd, cyn i'r ffocws symud yn raddol at Owen.

Pa bynnag strwythur a ddewisir, dylai egluro ac nid effeithio ar y ffocws canolog megis y safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu ac ansawdd yr addysgu.