Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffolineb

ffolineb

A ffolineb fyddai awgrymu fod y gwaith yn hawdd.

Er gallai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud am ffolineb ei capten.

Ffolineb fyddai mentro defnyddio criw Iddewig â'r holl Balestiniaid yn y strydoedd; felly, dyna benderfynu cyflogi gŵr camera Palesteinaidd.

Nid oedd yn dasg anodd profi ffolineb yr ensyniadau a gallai ddweud heb flewyn ar ei dafod fod y Methodistiaid yn gwbl deyrngar i gyfansoddiad Prydain ac i'r Eglwys Sefydledig.

Gan Dduw na allem garthu allan y fath ffolineb ac ailfeddiannu unwaith eto yr angerdd a yrrodd bobl Llanfaches i daenu'r newyddion da ar hyd blaenau cymoedd Gwent a Morgannwg.

Roedd Carol wedi bod yn gyrru ar hyd y draffordd am dri chwarter awr cyn iddi gyfaddef wrthi'i hun mai Emyr oedd yn iawn ac mai ffolineb oedd ymgymryd â'r fath siwrnai hebddo fo.

Ta waeth, doedd gan yr Arabiaid ddim amynedd a'r fath ffolineb - a phwy all eu beio nhw a hwythau'n byw tan haul tanbaid y Dwyrain Canol.

Yn fy marn i, ffolineb yw cymharK Waldo ag unrhyw un,

Heibio i'r paragraff cyntaf, ac wele: 'Oferedd i'w printio llawer o lyfrau, Blinder i'w cynnwys llawer o feddyliau, Peryglus i'w dwedyd llawer o eiriau, Anghyssurus i'w croesawu llawer o ysbrydoedd, a ffolineb yw ceisio ateb holl resymmau dynion, Ond (o Ddyn) cais di adnabod dy galon dy hun, a mynd i mewn ir porth cyfyng.' Pa arfau a feddwch i ddringo creigiau'r dychymyg hwn?

Amheuai eu gogwydd tuag at Gatholigiaeth a'u gwrthwerinoldeb, bid siwr; eithr yr hyn a barai'r anesmwythyd mwyaf iddo oedd parodrwydd digwestiwn eu hadwaith: 'Nid wyf yn hoffi ffolineb y Sais; ond nid wyf yn hoffi ychwaith ffolineb Ffrainc, ac ni all haeriadau Ffrainc fod ddim mymryn mwy deniadol i'm twyllo na haeriadau Lloegr.' Yn ei hanfod, ymryson oedd dadl Gruffydd a Lewis ynghylch pwy oedd gwir gynheiliad 'yr hen ddiwylliant Cymreig.' Yr oedd diffiniadau ehangach o'r cychwyn yn iswasanaethgar i Gymreigrwydd y ddwy estheteg a bleidiwyd.

Felly, fe ddywedodd yn gadarn, "Rydw i'n barod i anghofio am ffolineb neithiwr a chychwyn o'r newydd heddiw.

Byddai gwireddu'r cynllun yna heb fynd 'nôl ac edrych ar y sylwadau sydd yn y ddogfen yna - a beth yw blaenoriaethau polisiau'r Cynulliad - wedi bod yn ffolineb llwyr.

Ond mae'n enghraifft dda o'r ffolineb cynhennus a ddioddefodd Ferrar ar hyd y beit yn Nhyddewi.

Ffolineb fyddai parhau ar y llwybr hwn, felly rwyt yn dychwelyd i'r ynys i ddewis llwybr arall.

Bu cryn bwyso arnaf i ddysgu canu'r piano pan oeddwn yn hogyn, ond yn fy ffolineb mi wrthwynebais, er mawr siom imi'n ddiweddarach.

mae rhyddid i bobl addoli elvis presley os ydyn nhw'n moyn, neu ryddid iddyn nhw addoli eliffantod pinc sy'n hedfan o gwmpas yr wyddfa os ydyn nhw'n moyn, dim ond iddyn nhw beidio â gwthio'r peth arna i, a pheidio â gweiddi cabledd os bydda i'n digwydd chwerthin am ben eu ffolineb.

Arswydai, gan fynghynghori i beidio â gwneud y fath ffolineb am nad oedd dyfodol i'r Gymraeg.

Rwyf wedi talu am fy ffolineb, fel y gwelwch.' 'Petawn i ond wedi sylweddoli ar y pryd i ble ac i ba amser yr oedden ni wedi dychwelyd .