Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffon

ffon

Bydd y neges yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmniau ffôn symudol.

Ond, fe ganodd y ffôn i gyflwyno'r awgrym bod Lloegr wedi cael cam arall.

Yn anffodus, y ffasiwn erbyn hyn yw dymuno'n dda dros y ffôn.

Deddf a fyddai yn cydnabod y Gymraeg fel iaith swyddogol yng Nghymru, yn ymestyn i'r sector breifat (dyna pam y targedwyd blychau ffôn BT) ac a fyddai yn effeithio hefyd ar faes technoleg gwybodaeth.

Er mai cerddor oedd Ffrancon Thomas o'i ben i'w sawdl nid dyma ffon ei fara oherwydd gweithiai o ddydd i ddydd yn swyddfa'r cyfreithwyr Carter Vincent a'i Gwmni ym Mangor.

Mae'i fam hefyd yn gripl, fedar hi ddim cerdded heb ddwy ffon.

Dyn bychan â ffon yn ei law.

Os ydych wedi cael llawer o lwc wrth ddefnyddio un hen ffon yna dylech ei chario gyda chi yn y bag er nad yw'n cael ei defnyddio bellach.

Cefnogwch ran gyntaf ein brwydr, yn erbyn y cwmnïau ffôn symudol, trwy ychwanegu eich enw i'r ddeiseb Galwad Dros y Gymraeg.

Y mae rhannau helaeth o'r wlad heb na thrydan na dwr tap o hyd; ar wahân i'r aelwydydd cefnog, mae'r gweddill yn defnyddio glo i goginio, mangl wrth wneud y golch, a'r ciosg ar fin y ffordd os am wneud galwad ffôn.

Bob dydd bydd y rhaglenni hyn yn siarad â'i gilydd mewn cyfarfod ffôn.

Heddiw cyfarfu dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - oedd ar daith gerdded o Gaerdydd i Lundain dros Ddeddf Iaith - â chwmni ffôn symudol Vodafone.

Try'r fentr yn ddiwydiant proffesiynol, rhwng gweithgaredd June yn trefnu archebion dros y ffon gyda chwsmeriaid fel Mr Sainsbury, Dave yn dosbarthu'r cynnyrch gefn nos ar ei fotobeic, a Mona yn teipio'r cyfrifon.

Rhowch eich enw ar y ddeiseb i fynnu gwasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn, ac i alw am Ddeddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Rhowch eich enw isod i alw ar Oftel i fynu gwasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn, ac i alw am Ddeddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Mae'n anlwcus iawn dod at y 'tee' o'r tu blaen, rhaid peidio newid y ffon unwaith byddwch wedi ei dewis a pheidiwch â glanhau'r bêl yn ystod gêm os ydych ar y blaen.

Ond bachodd am ei ffon a'r ci ac i ffwrdd ag ef gyda'r cymydog i gasglu'r defaid.

* Dydi papurau newydd, cylchgronau, cyfarwyddiaduron ffon a llyfrau cyfeirio ddim bob amser ar gael yn hwylus ar dap neu mewn braille neu brint mawr.

Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.

Ac, wedyn, dreulior bore wedyn ar y ffôn efo Stondin Sulwyn.

Cael galwad ffon gan Bella pnawn ma.

Ar y daith i Lundain mae aelodau'r Gymdeithas wedi bod yn ymweld â nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt â phen y daith, gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Y cwbl fydd yn rhaid i chi ei wneud yw ateb cwestiynau dros y ffôn ar y rhaglen ar fore Sadwrn.

Roedd ofn yr onnen ar nadroedd ac ni ddeuai un ar gyfer neb oedd yn cario ffon onnen.

Er mwyn pwysleisio mai ymgyrch weithredol oedd hon dyma blastro'r blychau ffôn a basiem gyda phosteri pwrpasol.

Dyma rai penillion eraill oedd yn cael eu canu yn yr ardal: Calennig i fi, Calennig i'r ffon Calennig i'w fwyta Y noson hon

Y bwriad yno yw cynnal protest yn erbyn un o'r cwmniau ffôn symudol er mwyn dangos fod angen am Ddeddf Iaith fydd yn ymestyn i'r sector breifat.

Ond na, erbyn meddwl, fe ddylai o brynu ffon, un a thipyn o sglein arni, i fynd gyda'i het newydd.

Mae'r ffon i fod ar y fferm.

Mae angen sicrhau fod ffôn Dafydd a Charlie ar y rhif 999991 fel y gellir rhyddhau'r llinell arall i'r ffacs.

Toc roedd yn crynu ac yn llithro ond cydiodd yn dynnach yn ei ffon fagl i gynnal ei bwysau wrth iddo wasgu ei law arall yn erbyn y graig.

Twristiaeth ydi'r ffon fara bwysicaf ac mae'n wir dweud bod y lonydd culion yn frith o sgwteri a motobeics er bod yna wasanaeth bysiau cyhoeddus rhagorol a rhad.

Magu cymdeithas o bobl ddylai fod pwrpas addysg, ac nid canolbwyntio ar gynhyrchu cyfrifiaduron a pheiriannau ateb ffôn yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Ar ôl i'r ddau adael chwaraeodd Kate a minnau Scrabble cyn derbyn galwadau ffôn gan ffrindiau sy'n dysgu yma hefyd.

Pan oedd o'n mynd heibio i drofa Tŷ Hir cofiodd am y trydan a deimlodd pan gyffyrddodd yn y ffon y tro cyntaf.

Tyfodd pren o'r ffon a blodeuai adeg y Nadolig.

Mast ffôn y Blaenau oedd y lle delfrydol felly i lansio ymgyrch newydd y Gymdeithas - Deddf Iaith 2000.

Os nad yw'n bosib anfon neges pager neu ddefnyddio'r ffôn symudol yn Gymraeg, mae hynny'n gam â'r miloedd ar filoedd o Gymry ifainc sy'n eu defnyddio.

Nid yw dibynnu ar ewyllys da wedi dod â gwasanaeth Cymraeg yn achos banciau, cymdeithasau adeiladu, cwmnïau ffôn symudol, a chwmnïau meddalwedd.

Ond dwi'n siwr nawr, fis yn ddiweddarach, ar ôl cael amser i eistedd lawr a meddwl, y bydd e - os daw'r alwad ffôn - yn cael gair gyda'r wraig a phenderfynu wedyn.

Wedi clywed negeseuon o gefnogaeth cafwyd gorymdaith o ganol y dref at y mast ffôn lle cafwyd anerchiad gan Hywel Williams, darpar-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

Roedd hi'n rhy bell i mi fedru'i chymedd hi, felly mi es i'r coed i dorri ffon hir.

Enillai ddigon o gyflog i fforddio siwt trowsus hir, i brynu ffon, i fynd ar ei wyliau i Landrindod unwaith o leiaf, i gael ychydig o ddannedd gosod ac i ddechrau smocio.

Dyma'r lle i ddod os ydych am gyfeiriad neu rif ffon penodol er enghraifft, neu os ydych am gael manylion am fudiadau lleol yn eich ardal.

Yn oes y sianel, mae'n naturiol fod awduron rhyddiaith yn mynd i ddewis y teledu fel ffon eu bara, a llunio nofelau fel hobi.

Egyr Ifans ddorau'r ffenestr a llifa'r golau i mewn; oherwydd y golau, nid ydym yn ymwybodol o'r diffyg trydan na'r ffon heb lein ac mae yna elfen stori dditectif, dod i wybod mwy, yn y plot.

Ar y noson fawr bydd llu o rifau ffon ar gael i alluogi'r gwylwyr i gyfrannu at Apel Plant Mewn Angen.

Ar ôl te derbyn galwad ffôn gan Mabel a gwahoddiad i fynd i ddawnsio gyda hi a'i ffrindiau.

Gwrthodai ffermwyr ddefnyddio ffyn ysgawen i yrru eu gwartheg a phe curid plentyn â ffon o'r fath ni fyddai'n tyfu'n iawn wedyn.

Yn aml roedd ffermwyr yn defnyddio ffon o'r fath a chredid na fyddai yr un anifail fymryn gwaeth o gael ei daro ganddi.

Yn dilyn llythyr i'r Caernarfon and Denbigh yn cwyno nad oedd y papur am dderbyn adroddiadau Cymraeg, adroddodd yr Ysgrifennydd ei bod wedi derbyn galwad ffon yn dweud bod croeso i bob cyfraniad Cymraeg yn y papur.

Er enghraifft, rydym wedi amlygu a blaenoriaethu ein perfformiad wrth ymateb i alwadau ffôn i'r fath raddau fel y llwyddwyd, ym mis Ebrill, i ateb dros 70% o alwadau o fewn tri chaniad ac 80% o fewn pum caniad.

Ar y diwrnod cyn y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal dadl ar yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cysylltu gyda holl Aelodau'r Cynulliad yn tynnu eu sylw at y gweithredu a fu gan aelodau'r Gymdeithas y bore yma yn erbyn mast ffôn symudol Orange yng Ngheredigion.

Ydw, rydw i wedi cloi fy cd's i ffwrdd yn y bbc, wedi troi fy ffôn symudol bant am y tro cyntaf erioed ac wedi gadael fy mhlatfforms a fy lip gloss yng Nghymru fach.

Deddf fyddai yn rhoi cyfrifoldeb statudol ar gwmniau preifat fel y Cwmniau Ffôn Symudol i barchu iaith Cymru yn yr un modd ag y mae disgwyl iddynt barchu yr amgylchedd a hawliau eu gweithwyr a'u cwsmeriaid.

Ar y daith i Lundain fe fydd aelodau'r Gymdeithas yn ymweld a nifer o bencadlysoedd y cwmniau ffôn symudol sydd rhyngddynt a phen y daith gan eu holi am eu polisïau ynglŷn â'r Gymraeg.

Mewn cyhoeddiad mwy gellid cynnwys hefyd rifau ffôn a chyfeiriadau defnyddiol ac fe fyddwn i'n bersonol (nid fy mod a fy mryd ar briodi) wedi mwynhau adran helaethach yn ymwneud ag anerchiadau - pe na byddai ond i arbed trafferth i rai fel y gweinidog yn y paragraff cyntaf.

Ymhlith yr wynebau adnabyddus fydd yn galw draw i roi help llaw ar y llinellau ffon fydd Wit a Wat a'u ffrindiau, JOHN OGWEN, MAUREEN RHYS, MEDWYN WILLIAMS, MARGED ESLI a DAI JONES.

Ymlacio drwy'r prynhawn, cael galwad ffôn gan y BBC eto, cyn mynd am bryd efo Pennaethiaid yr Adran Saesneg.

Lluchiodd ei ddwy ffon gan benderfynu gwneud hebddyn nhw.

O ystyried cyflwr y tîm ar hyn o bryd gellid yn hawdd gredu mai'r ateb i'r cwestiwn yna ydi, Unrhyw un fedar gerdded o'r cwt newid i'r cae heb ffon.

Yn ei law, cariai ffon eboni ddu ac arni batrymau cywrain mewn aur coch.

Mae gan y Gerddorfa hefyd raglen Addysg a Chymuned brysur gyda llinell ffôn arbennig i drosglwyddo gwybodaeth a gwerthu tocynnau.

Os nad ydych chi'n awyddus i gysylltu â ni drwy'r post neu dros y ffôn mae gennych opsiwn arall erbyn hyn, sef defnydio'r E-Bost a'r We.

Yn ôl un traddodiad daeth Joseff o Arimathea i Glastonbury a gwthio'i ffon i'r ddaear.

Faddeua i byth i fi fy hunan am beidio a chofio a chofnodi talp o hanes cymdeithasol a aeth i ddifancoll yr eiliad y syrthiodd Evan Jones yn farw wrth groesi o'r siop i'r blwch ffon yr ochr draw i'r hewl.

Ond mae'n rhaid imi ddychwelyd y ffon, mi fydd yna gwmwl du ar ein ffurfafen ni nes y bydda i wedi gwneud hynny.

Gellid defnyddio pren cerddinen i wneud ffon i ddewino am fetalau ond gyda'r gollen y cysylltir dewino dwr ac fe'i defnyddid i wneud hudlath gan y Derwyddon.

Ddaeth yna ddim da o symud y ffon oddi yno; mi fu fy nhad farw ac mi fu+m innau mewn perygl einioes hefyd, ac mi fu Maes y Carneddau mewn perygl." "O Alun dydw i ddim yn dy ddeall di weithiau, dyma ti eto'n rhamantu ac yn byw mewn byd o ffantasi." "Efallai'n wir.

Roedd yn cario bag pysgota a ffon fugail.

"Mae yna un peth y mae'n rhaid imi ei wneud cyn y bydd pethau'n ddiogel, Nia." "O, beth ydi hwnnw 'te?" "Dychwelyd y ffon i Faes y Carneddau, fydd yna ddim heddwch na thawelwch nes y gwneir hynny, rydw i'n gweld hynny rwan.

Hysbyswyd yr aelodau gan y Cadeirydd fod y Rheolwr ar hyn o bryd yn gohebu a BT i geisio trefnu Rhwydwaith FFon ar gyfer Canolfannau Cynghori Meirionnydd h.y.

Fe fydd y teulu yn dwrdio fy mod weithiau yn dweud pethau mawr dros y ffôn.

Canodd ffôn y frecwestwraig.

Cyrhaeddodd Alun y fferm ac agorodd y drws a rhoddodd y ffon yn ei hôl yn y gornel wrth y dreser, y gornel lle y bu ar hyd y blynyddoedd.

Am hanner dydd canodd fy ffôn.

A phan fu hi (Helen Maryr r) aaglen ffôn ar y radio ni chafwyd yr un alwad ar y pwnc er i'r cyflwynydd, meddai, wneud ei orau i gael aelodau o'r frawdoliaeth gudd i gwyno.

Roedd ein cwsmeriaid wedi nodi mai ymateb i alwadau ffôn oedd un o'r meysydd pwysicaf y dylid ei wella.

Mewn ysgrifen boenus o ddestlus, gwbl unionffurf, fe geir un cwpled gafaelgar, os braidd yn adnabyddus, a buasech yn barod i haeru bod y gŵr a'i hysgrifennodd wedi cymryd ffon fesur i wneud yn siwr ei fod yn union ar ganol y tudalen.

'Cofia warchod y ffon,' meddai.

Roedd hi'n ddydd Sadwrn cyn y caniataodd ei fam i Alun fynd i Faes y Carneddau i ddychwelyd y ffon, ac ar ôl bwyta'i swper cychwynnodd ar ei daith.

Mae gwarchod y ffon yn golygu gwarchod y fferm.

Mae'r cwmnïau ffôn symudol yn gwrthod darparu gwasanaethau Cymraeg i'w cwsmeriaid.

Bydd y neges ar y faner yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn symudol, a hefyd yn datgan yr angen am ddeddf iaith newydd.

Mae'r hen ddeddf iaith yn gyfyngedig i'r sector cyhoeddus, ac nid yw'n cyffwrdd â darparwyr yn y sector preifat, fel y banciau, cwmniau ffôn, nwy, trydan, dăr.

Creadur sur, hir ei drwyn, llym ei dafod oedd Owen Owens, a chanddo draed drwg a barai iddo ddefnyddio'i ffon hir fel rhwyf.

Mae'r berthynas rhwng y gerddorfa a mynychwyr cyngherddau yn cael ei chryfhau ymhellach gan linell ffôn BBC Call NOW - y gyntaf o'i bath yn y DG - a lansiwyd ym mis Medi.