Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffontiau

ffontiau

Dewislen Steil Ar y dechrau bydd arnoch eisiau defnyddio pob math o ffontiau a steil a bydd CYSGOD a thanlinellu bras mewn Ffontiau Blodeuog yn britho eich gwaith.

Mae ymchwil yn awgrymu bod ffontiau seriff yn fwy darllenadwy, yn arbennig pan fo llawer o destun i'w ddarllen.

Yn gyffredinol peidiwch a chymysgu gormod o ffontiau a chedwch y glir o'r rhai mwy blodeuog.

Cyngor am Ffontiau Mae yna ddau deulu pwysig o ffontiau: FFONTIAU SERIFF megis Times, FFONTIAU SANS-SERIFF megis Helvetica.

Mae'r syniad bod ffontiau sans-seriff yn haws i'w darllen oherwydd eu bod yn 'symlach' yn gyfeiliornus.

Mae ffontiau sans-seriff yn addas ar gyfer penawdau neu ddarnnau byr o destun.

Serch hynny mae'n wir bod ffontiau sans-seriff megis Helvetica neu Geneva yn haws i'w gweld ar sgrîn y cyfrifiadur, felly mae'n syniad sgrifennu'r testun yn Helvetica neu Geneva ar y sgrîn, ac yna, os oes gennych lawer o destun, ei newid i rywbeth fel Times ar y diwedd.