Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fforest

fforest

Y mae'n gallu gweld y cynnyrch gorffenedig wrth afael mewn coedyn amrwd ar lawr y fforest.

Llenwai'r planhigion y lle; roedd fforest ohonynt, gyda dail ffiaidd, cnawdol a choesau fel bysedd dynion marw newydd gael eu 'molchi.

Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.

Eisteddodd disgynyddion William Davies, Fforest Uchaf, teuluoedd Nant y Gro, Culheol, Y Tyddyn Melyn, Maesgwilym, Tŷ Mawr a Phwllygod a Thŷ'r Gors a'r Waungrin a gwrando ar gatalog o weithredoedd eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau.

Ond sut y gellir rhagori ar gyfuniad Val Viola, y cwm yn ei ben draw, o dyrau Gothig uchel, o feysydd eira dilychwin pell, o laslyn a fforest a phorfa?

Ni wyddom y nesaf peth i ddim am Lewis Glyn Cothi heblaw'r hyn y gellir ei gasglu o'i gerddi, ond awgryma'i enw mai fforest Glyn Cothi ym mhlwyf Llanybydder yng ngogledd sir Gaerfyrddin oedd ei ardal enedigol.