Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffortiwn

ffortiwn

Cofiant y gðr busnes enwog a wnaeth ei ffortiwn drwy wersylloedd gwyliau.

Ac felly, wrth gwrs, y bu, er dadrithiad i'r casglwyr enwau ac er siomedigaeth i ffermwyr Llŷn oedd wedi meddwl am gael gwneud eu ffortiwn wrth werthu tatws i'r Gwersyll.

Wy a Dyff 'di hala ffortiwn fan hyn dros y blynydde a ma'r Karen fach 'na sy'n berchen y lle yn neud mwy byth o ffortiwn nawr.

Yng nghwrs y blynyddoedd fe gostiodd ffortiwn i'w saethu, ei raffu a'i lanhau er mwyn sicrhau diogelwch y dyniori a weithiai yn yr ugeiniau o fargeinion o'i ddeutu ac o tano.

Nid oes le i gredu i'r un gof wneud ffortiwn ariannol, ond cafodd y rhan fwyaf ohonynt fwynhad yn eu gwaith drwy wasanaethu'r gymdeithas wledig yn ufudd ar bob adeg.

Diaist, roeddwn yn meddwl fod well i mi gael y resipi ganddynt: buaswn yn gwneud ffortiwn ar faes Caernarfon ac yn Ffair y Borth.

Er nad oedd yr un o'r ddau yn disgleirio mewn mathemateg yn yr ysgol, roedd digon yn eu pennau i sylweddoli fod ffortiwn yn eu dwylo.

Eithr heno, wrth syllu i fyw llygad y fenyw-ddweud- ffortiwn hon ni chanfyddai Wil ddim oll namyn hen ddynes dlawd a diymadferth yn ceisio crafu ychydig o sylltau at ei gilydd drwy adrodd chwedlau ystrydebol a threuliedig wrth hen ferched anymwthgar ac wrth wŷr gweddw go deimladwy.

Ffortiwn, a bod yn onest.

Roedd hi'n fantais dod o hyd i Gymry ar wasgar a chael golwg ar y sefyllfa drwy eu llygaid nhw - diffiniad ar blât o'r safbwynt Cymreig - ond faint o'r radicaliaid Cymreig fyddai'n mwynhau clywed Cymry De Affrica yn amddiffyn apartheid, neu'n clywed Cymry De America'n cefnogi unbeniaid yn erbyn tlodion, neu'n gwneud ffortiwn mewn gwledydd tlawd ar draul y brodorion?

Eto, fe fu'n ddigon dwl i sibrwd gronyn am y 'ffortiwn' yna wrth Dai Owen.

Dynes dywyll a thew ac amhrydweddol oedd y fenyw-ddweud-ffortiwn a ffrog laes hir amdani fel sydd i fod.

Nid oedd erioed o'r blaen wedi mynd i holi ei ffortiwn.

Bu rhai pobl yng Nghymru'n gwneud ffortiwn allan o werthu tai Cymru fel tai haf gan orfodi teuluoedd ifanc i symud allan o'u cymunedau.

Un o ddisgynyddion gwŷr y traethau, y tywod gwyn, yr awyr a'r palmwydd glas oedd Joe Erskine ac wrth eistedd felny o flaen y tân, roedd ei wedi dechrau chwysu a gwamalu wrth y lleill ei fod e am wneud 'come back' a threchu Frank Bruno am ffortiwn yn ei ffeit gyntaf.