Mae'r clogwyni ger Trwyn y Witsh yn werth eu gweld oherwydd mae'r haenau o garreg galch a siâl Lias yn llawn o ffosiliau Gryphea yn ogystal ag amonidiau a nautiloidiau.
Mae gan bob un o'r baeau o gwmpas Bro Gþyr ei hynodrwydd daearegol ei hun megis ffawtiau Bae Caswel, neu ffosiliau cregyn Chonetes ym Mae Three Cliffs, ond fe awn ni ar ein hunion ar y daith fer hon i ben draw'r penrhyn ym Mae Rhosili a Phen Pyrod.
Os ydych yn hoffi casglu ffosiliau does dim gwell craig na'r Garreg Galch yma ger Bwlch Kate Anthony sy'n llawn o'r crinoid bychan ac o'r cwrel Caninia, Lithostrotion, Cyringopora a Michelina, heb sôn am y braichiapod a'r gostropod (Bellerophon a Euromphalus).
Nid Iolo oedd yr unig ysgolhaig yn y cyfnod hwnnw gyda dychymyg rhamantus oherwydd roedd hi'n ffasiynol i ddisgrifio ffosiliau megis y wystrysen Gryphaea fel 'ewin bawd y Diafol'.
Mae'r Mwmbwls yn lle ardderchog i ddechrau casglu ffosiliau oherwydd fod cymaint ohonynt ar gael yn y creigiau.