Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffraeo

ffraeo

Neu'r troeon hynny y byddai hi'n meddwi'n ddireol a chymryd pob cyfle i ffraeo gyda ni, ein galw ni'n bethau ofnadwy, a'n cyhuddo ni o bob erchylltra.

Gwadai Mary ei gyhuddiad a bu rhagor o ffraeo rhyngddynt, ac aeth hi a'r plant at ei mam unwaith yn rhagor.

Chlywodd Robat John, fy mrawd, na fi erioed Dad a Mam yn ffraeo gymaint.

Mynnodd Rhian gael mynd i ysgol breswyl y Santes Fair er mwyn dianc o swn ffraeo Reg a Megan.

Credir iddyn nhw ffraeo oherwydd bod Brown am werthu Frank Lampard a Trevor Sinclair i Tottenham.

'Doedd clywed mam a nhad yn ffraeo byth yn ein poeni ni fel plant, gan y gwyddom i sicrwydd na fyddai'r ffrae yn para yn hir iawn, mi fydda sylwadau doniol nhad, neu rhyw edrychiad slei, yn toddi mam.

Wedi ffraeo efo Robat John a Sharon roeddwn i a doeddwn i ddim eisiau rhannu'r siocled efo nhw felly fe'i cuddiais o nes y cawn i gyfle i fod ar fy mhen fy hun.

Eisiau plesio Mam ar ôl ffraeo roedd o.

'Ffraeo nid dadlau', pwysleisiai Gwyn, 'dyn oedd o wedi graddio mewn cymdeithaseg a dim chwilfrydedd yn agos i'w groen o'.

Gorfu i Manon edrych yn dosturiol arno, a hynny er gwaetha'r ffraeo a chodi cnecs.

R: Na jyst ffraeo.

Maen na lot o hen ffraeo yn y byd actio yn Lloegr rhwng y crachactorion ar actorion mwy gwerinol hynny efo acen 'ranbarthol'. Rhwng y posh ar oiks i ddefnyddio'r termau technegol.

Dydw i ddim yn ymwybodol fod yna ffraeo o'r fath yn y byd actio Cymraeg.

Y 70au Doedd hi ddim yn gyfnod hapus i Cliff a Megan James yn y Deri - 'roedd y ddau yn ffraeo fel ci a chath a Megan yn ama fod Cliff yn cael affêr.

Roedd Owain wedi ffraeo gyda Reginald Grey ynglŷn â darn o dir.

A thra yr oedd hyn oll yn digwydd beth oeddan nhw yn ei wneud yn y senedd fawr yn Llundain? Ffraeo ynglyn â faint o arian ddylair lluoedd arfog eu cael am anfon hofrenyddion yno i helpu.

Yr adeg honno, wedi ffraeo mawr yn yr Eglwys Gatholig, cafodd rhai ddigon ar Bab Rhufain a gosod Pab arall yn Avignon yn Ffrainc.

R: Fi ac Euros - ‘da ni bob amser yn ffraeo.

Yn ail, mae llawer o'r rhai sydd yn y gerddi yn y Gwanwyn a'r Haf yn ei throi hi am y wlad yn y Gaeaf ac yn bwydo ar bob math o hadau, a hefyd ar weddillion y grawn yn y caeau ūd a'r gwenith Er bod y pincod i gyd yn byw ar hadau, mae pig y rhan fwyaf ohonynt yn amrywio i drin yr hadau y maent yn ei fwyta, ac i ddileu unrhyw ffraeo ynglyn â bwyd.

Blodeuodd y bartneriaeth am bum mlynedd, nes i'r ddau wahanu wedi ffraeo'n chwerw iawn.

Y mae gweld yr athrawon ma'n ffraeo ynglyn â chael eu talu yn ôl yr hyn mae'n nhw'n medru'i gyflawni yn fy atgoffa o'r adeg pan oeddwn i'n bortar rheilffordd yng Nghaerdydd.