Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffraeth

ffraeth

Y mae bwrlwm awenyddol David Ellis yn cadarnhau tystiolaeth ei gyfeillion ei fod yn fachgen ifanc ffraeth, llawn hwyl a direidi.

Ar ddiwrnod cneifio yn Llannerchirfon ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf fe ganodd Selby Price, bardd gwlad hynod ffraeth o'r fro, fel hyn i'r gyllell y cafodd ei benthyg gan Nedi Pen-dre, Tregaron:

Un fywiog iawn oedd hi, yn ffraeth ei thafod, ac wrth ei bodd yng nghanol merched ifanc.

Weithiau gwnâi rhywun rhyw sylw ffraeth, megis, "Mae'n siŵr dy fod wedi nyddu digon o edafedd i wau siaced am y byd erbyn hyn, Morfudd!" A'i hateb yn ddieithriad fyddai, "Rhyw ddydd, Mr Jones, pan ga'i weill!" A chwyrli%ai'r olwyn bren yn fwy penderfynol fyth.

Maent yn ffraeth, yn ddifyr ac yn ddoniol, weithiau.

Yn ogystal a bod yn llymeitiwr o fri y mae gan Harris hefyd enw fel un ffraeth iawn ei dafod.

Y mae'n cynnig ffordd i mewn i Gymru sy'n danllyd, gynhyrfus, tawel a hynafol, barddonol a ffraeth.

Cofiaf ddychwelyd i gaban Saoseo a'i gael yn gyfangwbl ar ein cyfer ni, ar wahan i chwiorydd ffraeth yr hen lanc o geidwad a oedd wedi cerdded i fyny o'r dyffryn i roi trefn ar y gegin.

Chi'n gweld 'roedd 'y nhad yn fwy doniol adra, nid yn unig am y ffaith ma' ni fel teulu oedd yn clywed y jôcs gynta' (a chlywed pob un, nid y rhai dethol), ond 'roedd nhad yn ffraeth ei dafod beth bynnag fo'r sefyllfa, does dim pryd bwyd wedi mynd heibio, na fydda nhad wedi dweud, neu wneud rhywbeth doniol.

Roedd yn fardd ffraeth a fedrai gynganeddu'n hynod o naturiol a diymdrech, ac y mae naws sgyrsiol ar lawer o'i gerddi.

Beth bynnag am hynny, roedd yn gymeriad ffraeth a gwreiddiol ei ymadrodd a fyddai'n cynhesu ati o ddifri pan y synhwyrai fod rhai o leiaf o'i wrandawyr yn mwynhau'r dull anghonfensiynol o draethu a'u bod yn awchu am ragor.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!

Dyna ddyn ffraeth oedd Hywel Vaughan.