Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffresni

ffresni

Dyffryn afon Lledr yn llawn ffresni i gyfeiriad Bwlch y Groes a llethrau'r Drosgol, efo ambell oen bach yn prancio yn ei afiaith ar y llechwedd.

Yn y fath sefyllfa, bwriad Cymrodoriaethau Ffilm Cydwladol y Cyngor Ffilm newydd yw cynnig yr union ffresni a'r newydd-deb syniadol na ellir ei gael yn ein diwylliant ni.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Gallwn arogli ei ffresni a'i hawydd i fyw.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Does dim sy'n fwy gwerthfawr na'r ffresni egni%ol hwnnw, ond mae'n bosib mai'r defnydd gorau ohono fyddai ei ffrwyno o fewn safonau cydnabyddedig y grefft arbennig honno.Llen Cymru