Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffridd

ffridd

Bu'r perthi a'r goedlan yn crynu er diwedd Chwefror gyda sgrech, chwiban a chrawcian, a gollyngwyd pob offer o law i wrando'r deryn du o'i gangen ar y pren ysgawen; ac yn y distawrwydd hwyrnosol, deuai nodau trist y gylfinir o'r ffridd uchaf drwy ffenestr ystafell fy ngwely.

Ond pa wendidau bynnag sydd i mi þ a rhinweddau, rai, yn ddiamau þ buont yn gyfrwng i droi Huwcyn, Ffridd Ucha, maes o law yn Sir (nid Syr) Hugh Evan Rowlands.

Bu cudyll o hofrennydd uwch ein pennau drwy'r prynhawn a'i chysgod swnllyd, symudol, yn dychryn wyn y ffridd i bob cyfeiriad cyn glanio i lyncu criw o actorion a throi porfa'r ddôl yn gryndod o nerfau.

Diwrnod rhyfedd oedd y diwrnod yr aeth Wiliam i ffwrdd, yn y Ffridd Felen.

Bu ond y dim imi benderfynu neithiwr fy mod am adael y Ffridd Ucha.

Pam y priododd Huwcyn, Ffridd Ucha, â Saesnes o dras?

Tyddyn pymtheg erw o dir gwael mynyddig oedd y Ffridd Ucha, tyddyn rhy fach i gynnal teulu, hyd yn oed yn nechrau'r ganrif.

Rhyw dair acer oedd maint y ffridd, a'r flwyddyn honno yr oedd un acer dan erfin gwyllt, un acer yn datws a maip, a'r llall yn ffacbys.

Cofiaf lond ffridd o'r pabi melyn sy'n gyffredin i'r Grisiwn ac i Gymru.