Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffrwd

ffrwd

Cefais lonydd i gilio i'r coridor tywyll wrth ymyl y gegin, i atal y ffrwd o'm trwyn ac i lyfu 'nghlwyfau.

Llenwaist ein clustiau â seiniau'r greadigaeth - sisial ffrwd ar gerrig, trymru'r môr ar draeth, trydar yr adar, clec y daran ac amrywiol gynganeddion y gwynt.

Llifai ei chwys yn ffrwd oer i lawr ei gorff oherwydd pwysau'r bêl, ei ymdrech a'i ofn.

Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.

Er enghraifft, cynghorodd Dr William Davies (a gadwai athrofa Ffrwd Fâl ger Pumsaint), John Williams, mab Brownhill, Llansadwrn, os oedd yn meddwl am weinidogaeth mewn tref fel Llanelli, y buasai yn well iddo fyned i athrofa, ond os oedd yn meddwl am weinidogaeth yn y wlad, nad oedd angen iddo fyned i athrofa o gwbl.

Mae cynnydd graddol wedi bod yn y nifer o ddisgyblion â datganiadau sy'n cael eu haddysgu mewn ysgolion prif ffrwd.

Yn ôl Syr Ifor Williams, awgryma'r enw ffrwd gref, un yn llifo'n nerthol.

Nod awdur y Tristan en Prose oedd cyfuno hanes Tristan â phrif ffrwd hanes y byd Arthuraidd, ac felly penderfynodd gyplysu ei hanes ef â fersiwn Cylch y Fwlgat o hanes y greal, sef La Queste del Saint Graal.

Darganfuwyd fod y broses hon o hollti'r atom yn cynhyrchu ac yn rhyddhau ffrwd anhygoel o ynni, a dyma'r egwyddor sydd y tu ôl i'r bom atomig.

Y peth pwysig oedd mod i'n cyrraedd dan fy stem fy hun: yn gorfforol annibynnol ac yn y prif ffrwd.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Nid yw'n eglur o gwbl, ychwaith, sut y bydd modd ariannu darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion arbennig oddi fewn i'r gyfundrefn addysg arbennig na'r gyfundrefn prif-ffrwd.

Ar lan yr Iorddonen - ffrwd fechan bellach - y gwelais i'r enghraifft orau fel arall o rym y wasg.

Canlyniad mwy arwyddocaol i'r adroddiad pwysig hwn oedd y symudiad a ddaeth yn ei sgîl tuag at gymhathu plant ag anghenion addysgol arbennig i brif-ffrwd y gyfundrefn addysg.

Sefydlwyd Yr Haul "mewn cyfnod neillduol yn hanesyddiaeth Prydain Fawr", meddai'r golygyddion, "oblegid yn adeg ymddangosiad y Rhifynnau cyntaf, yr oedd y llifddor wedi ei gyfodi, a'r ffrwd dinystriol, mewn agweddiad dychrynllyd, yn bygwth trangcedigaeth sefydliadau gwladol a chrefyddol y deyrnas hon".

Roedd yn y meddyg hefyd ffrwd hynod o hiwmor.