Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffrwythlon

ffrwythlon

Eira Rhagfyr - blwyddyn ffrwythlon i ddod.

Mae'n weithredu sydd wedi profi yn hynod ffrwythlon.

Mae'n argoeli am gynhaeaf ŷd ffrwythlon a phroffidiol; llawnder i dorri pob record.

Ond wrth iddo fynd yn ei flaen gwaethygodd y tir eto; âi'r ddaear yn llai ffrwythlon, a nifer y tai yn llai ac yn llai.

Gardd ffrwythlon fyddai Paradwys un arall.

Tir ffrwythlon iawn oedd tir Epynt.

Mae pridd yr ardd fel rheol yn ddigon ffrwythlon i dyfu llysiau a blodau.

Ac o gofio'r heddychwr ynof, ni allai'r geiriau fod wedi disgyn ar ddaear mwy ffrwythlon.

Yn y garej hefyd y dechreuodd y berthynas ffrwythlon rhwng Wil Sam ac Emyr Humphreys, a oedd yn athro ysgol ym Mhwllheli ar y pryd.

Os yw llefydd a allai fod yn ffrwythlon yn dal i ddirywio, pa obaith sydd gan ardaloedd y sychder mawr?

Mae'r môr wedi bod yn ffynhonnell ffrwythlon o fwyd i ddynoliaeth dros filoedd o flynyddoedd ac yn y degawdau diweddaraf mae posibiliadau eraill wedi dod i'r fei.

Ymhyfrydai yn y ty moethus cyffyrddus, yn y gerddi a'r perllannau; yn y meysydd eang ffrwythlon a ymestynnai i lawr at Afon Wysg.

Dywedodd fod yr ysgol wedi troi anialwch yn dir ffrwythlon y byddai unrhyw ffermwr yn falch ohono.

Wrth i'r frwydr i gael gwared ar yr unben, yr Arlywydd Mohammed Siad Barre, ledaenu drwy'r wlad, roedd carfan wedi troi'n erbyn carfan a llwythau wedi troi ar eu cymdogion, gan ddifa ffermydd, tir ffrwythlon prin ac, yn waeth fyth, cymunedau cyfan.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Roedd rhannau gorllewinol y wlad, yn enwedig y tir a ffiniai â Sudan, yn is o lawer ac yn fwy ffrwythlon.

Mae hon yn ddiamau yn ardal ffrwythlon.

Yn eu breuddwyd try'r tyddyn yn ardd ffrwythlon.

Mae tuedd ganddi hefyd i fwyta aeron anaeddfed, sydd hefyd wrth gwrs yn groes i fuddiannau'r eiddew a'i hangen i wasgaru hadau ffrwythlon.