Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffurfafen

ffurfafen

Uwchben y creaduriaid yr oedd math ar ffurfafen, yn debyg i belydrau grisial ac yn ofnadwy; yr oedd wedi ei lledaenu dros eu pennau oddi uchod.

Yn ystod oes o ildio i'r demtasiwn frown, un peth sydd wedi fy synnu fi'n fawr ydi gymaint mae gwnethurwyr siocled yn edrych tua'r ffurfafen am ysbrydoliaeth - tydi siopa petha da yn gyforiog o Farsus, Galaxis, Milky Wals a Star Bars yn union fel pe bydda'r gwneuthurwyr â'u llygaid o hyd ar y nefoedd honno o lle daeth yr hen Quetzalcoatl i chwilio am damaid o swpar a'i hada Cacao fo mor anhoddadwy â Treets yn ei law fach boeth o.

Roedd y goeden wedi tyfu o ffynhonnell popeth a'i changhennau uchaf yn ffurfio'r ffurfafen.

Maent hwythau, pan yw'r ffurfafen a'r ddaear fel petai'r ddwy yn eu cwsg olaf, ac yn llwydo, yn cael eu gorfodi i hofran neu stelcian ymhell o gyffiniau'r ynysoedd amddifad.

Ychydig a wn i am batrwm y ffurfafen ac ni fedraf enwi ond ychydig iawn o'r sêr.

Yr oedd sŵn uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau; pan oeddent yn aros, yr oeddent yn gostwng eu hadenydd.

O dan y ffurfafen yr oedd adenydd pob un wedi eu lledu nes cyffwrdd â rhai'r agosaf ato, ac yr oedd gan bob un ohonynt ddwy i guddio'i gorff.

Roedd o fel cwmwl du yn hofran yn y pellter, nid yn union yn y ffurfafen uwch ei ben ond ar y gorwel.

Os byddai'r adeilad yn wych a phobl bwysig yn byw ynddo pwysig yn ein barn ni cofiwch, nid o reidrwydd yn marn pobl eraill fe fyddem yn canu'r emyn a ganlyn: 'Odlau tyner engyl O'r ffurfafen glir Mwyn furmuron cariad Hidlant dros y tir' hyd ddiwedd y pennill cynta'.

Y noson honno enillodd soprano 24 oed, Karita Mattila o'r Ffindir, a roeddem yn dyst fod seren newydd yn esgyn i ffurfafen y byd opera.

Ond mae'n rhaid imi ddychwelyd y ffon, mi fydd yna gwmwl du ar ein ffurfafen ni nes y bydda i wedi gwneud hynny.

Ymroddai mintai fach y Blaid Genedlaethol i amddiffyn cymdeithas a thraddodiadau Cymru, a goleuwyd y ffurfafen dros dro gan wroldeb y Tân yn Llyn.

Uwchben y ffurfafen oedd dros eu pennau yr oedd rhywbeth tebyg i faen saffir ar ffurf gorsedd, ac yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn debyg i ddyn.

Eto, medrai weld y copaon yn wyn a thros begwn yr Wyddfa 'roedd llewyrch pinc gwanwyn cynnar yn y ffurfafen.