Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffurflen

ffurflen

Hawlio fod pob papur etholiad a phob ffurflen swyddogol yn ymwneud ag etholiadau lleol neu seneddol yn Gymraeg.

Ailedrychodd y Cadeirydd ar y ffurflen.

Pan na fydd neb adref gwthir ffurflen uniaith Saesneg drwy'r drws.

"Os 'ych chi'n nodi ar ffurflen gais eich bod chi'n anabl, yna'n aml mae hi'n mynd yn syth i'r bun heb ystyriaeth pellach," meddai.

Yr oedd tasg anferth o fawr o flaen y pwyllgor; trefnu ymgyrch trwy bob rhan o Gymru i oleuo ac addysgu a chreu argyhoeddiad ac at hyn trefnu'r gwaith manwl o fynd a ffurflen y Ddeiseb o dŷ i dŷ, nid yn y pentrefi Cymraeg yn unig ond hefyd yn yr ardaloedd poblog a Seisnig yn Sir Fynwy (Gwent erbyn hyn), Morgannwg a mannau eraill.

Cwblhewch ffurflen gais ar gyfer lleoliad a'i rhoi i'ch trefnydd lleoliadau athrawon.

Mae gan y Gymdeithas grwp arbennig i ofalu am agweddau gwahanol o'r gwaith (Grwp Addysg, Grwp Statws, Grwp Adloniant ayyb). Cewch ddod yn aelod o'r grwpiau hyn yn syth, dim ond i chi nodi hynny ar y ffurflen ymaelodi.

Ni ddylai Cymry Cymraeg orfod gofyn am ffurflen Gymraeg yn y lle cyntaf.

Un o'r pethau cyntaf a wnaeth y pwyllgor oedd cyhoeddi ffurflen y Ddeiseb.

Faint ohonom sy'n mynnu dangos ein parch at yr iaith wrth ei siarad yn gyhoeddus, ond sy'n ei hanwybyddu yn y diregl, er enghraifft, wrth ysgrifennu llythyr neu wrth lenwi ffurflen?

* cwblhau astudiaeth achos/ffurflen talfyriad lleoliad.

Wedyn mae'r plismon yn nodi'r drosedd honedig ar ffurflen, ac yn ei rhoi i'r gyrrwr.

I gyflawni'r gamp yr oedd Mr Wolff wedi hawlio tâl o $71ar ei ffurflen gostau am ddwy ddol vodoo a set o hoelion arch o sefydliad yn dwyn yr enw Dr Zombie's House of Voodoo yn New Orleans.

Mae'n rhai i bob damwain sy'n arwain at fod yn absennol o'r gwaith am dri neu fwy o ddyddiau gael ei chofnodi ar y ffurflen benodedig.

* cwblhau ffurflen werthuso'r Gwasanaeth Lleoli Athrawon ac anfon copi at eich trefnydd.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi derbyn llu o gwynion gan bobl yn Aberystwyth am na chynigiwyd ffurflen Gymraeg iddynt.

Sut i archebu ein adnoddau Ffurflen arlein Llanwch y ffurflen gan nodi'r nifer o adnoddau yr hoffech eu prynu, a phwyswch Anfon.

Mynegodd aelodau Cangen Y Groeslon anfodlonrwydd gydag agwedd Banc y TSB tuag at yr iaith Gymraeg - pan ofynnodd y Trysorydd am ffurflen Gymraeg (neu ddwyieithog), dywedwyd wrthi nad oedd ffurflen ar gael ac nad oeddynt yn barod i baratoi un.

Gorfu i bawb ohonom lenwi ffurflen bwysig ymlaen llaw a rhoddi pob math o fanylion amdanom ein hunain.

Efallai y byddai'n fuddiol cwblhau'r ffurflen grynhoi a lledaenu'r wybodaeth hon.

Wedi methu â dod o hyd i ffurflen Gymraeg, tybiodd eu bod nhw unwaith yn rhagor yn cael eu cadw o dan y cownter.

Treulio'r bore gyda Janet yn llenwi'r ffurflen Dreth ar Werth a thalu biliau.

Dywedwyd wrth un aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg mai ef oedd y person cyntaf i ofyn am ffurflen o'r fath - sylw cwbl hurt o ystyried ein bod yn Aberystwyth.

Hyd yn oed ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl, byddai eu hanner yn llenwi ffurflen trwyddedu cerbyd yn Saesneg, yn rhannol oherwydd eu bod yn credu fod y fersiwn Saesneg yn eglurach na'r un Cymraeg.

I gael wybodaeth pellach am ein gwaith, neu aelodaeth neu rhoddion, defnyddiwch y ffurflen uchod, neu'r cyfeiriadau post ac e-bost.

Ydych chi'n credu y gellwch chi feistroli'r cwrs addysg?' Wedyn aeth at y rhestr lyfrau a roddais ar y ffurflen: '...

Wedi gwylltio'n gacwn, ffoniodd hi'r rhif ar waelod y ffurflen Saesneg a dechrau pregethu ynglyn â hawliau Cymry Cymraeg i dderbyn gwasanaeth dwyieithog yn eu gwlad eu hunain.

Yn ol Ieuan Lewis, Prif Swyddog Technegol Cyngor Arfon, nid oedd ei adran wedi derbyn unrhyw gwynion am y gwaith adnewyddu, ac roedd y perchenogion wedi arwyddo ffurflen i ddatgan eu bod nhw'n hapus efo'r cynllun cyn i'r gwaith ddechrau.

Hyd yn ddiweddar, Saesneg oedd iaith pob ffurflen ac arwydd a Saesneg oedd iaith pob adran o'r Llywodraeth.

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.