Ar ôl cyfnod o ddala, aeth Phil i weithio ffwrnais pan oedd tuag un ar bymtheg mlwydd oed, a dyna'r gwaith caletaf yn y felin bryd hynny.
Y ffwrnais yn yr awdl yw'r haul, a cherdd yn y traddodiad 'gwyddonol' diweddar oedd hon.
Fel un a dreiodd ei law gyda'r gwaith hwn, rhaid i mi gyfaddef na wn i sut oedd llanc ar ei brifiant yn gallu gwneud gwaith mor arteithiol o galed â gweithio ffwrnais.
Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.
Ar adegau felly, yr oedd y gwres mor llethol yn y felin fel bod pum munud o flaen y ffwrnais yn ddigon i lorio'r cryfaf.
Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.
Yr oedd yn rhaid i'r gweithiwr ffwrnais roddi'r platiau'n drefnus yn y ffwrnais, rhai yng nghefn y ffwrnais, eraill yn yr ochrau a rhai yn y blaen, a'u symud o'r naill le i'r llall fel y byddent oll o'r un tymheredd.
Collai'r blaten dipyn o'i gwres yn y broses, a gwaith y gweithiwr ffwrnais oedd dychwelyd y blaten i'r ffwrnais ar ôl pob part, a'i phoethi eto ar gyfer y part nesaf.
O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i fyny, gwelwn ef yn debyg i belydrau o bres, yn debyg i dân wedi ei gau mewn ffwrnais; ac o'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, gwelwn ef yn debyg i dân gyda disgleirdeb o'i amgylch.
Y rhain oedd y mwg a ddihangodd o ffwrnais y diafol yn nyddiau hygoelus ei phlentyndod.
Lluchid y platiau gwynias rhwng y gweithiwr ffwrnais, y rowlwr a'r dwblwr, ac ni allai neb aros ar ganol y felin heb gael ei daro tra gweithredid y broses hon.
Yr oedd gweithio ffwrnais yn llafur aruthrol, oblegid golygai drin platiau trymion a gwynias gyda gefail hir.
Dibynnai ansawdd y blaten lawer ar y gweithiwr ffwrnais.
Mae hi fel ffwrnais yma ers amser brecwast - mewn mwy nag un ystyr, was i.
Pwrpas y ffwrnais oedd poethi'r platiau fel y gellid eu rowlo yn y pâr rowls.
Y gweithiwr ffwrnais oedd yn gyfrifol am yr holl blatiau a roddid yn y ffwrnais.
Yna, gyda thafliad nerthol o fon ei fraich chwith, gyrrid y blaten ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.
Ar ôl treulio rhyw ddwy flynedd yn y Llynges a'r ysbytai, daeth Phil adref ac ailgychwyn yn y gwaith tun fel gweithiwr ffwrnais.
Pa mor wynias bynnag yr oedd y senglau yn dyfod o'r ffwrnais, collent eu gwres yn gyflym wrth eu rowlo, a phan deflid hwy at y dwblwr i'w
Yr oedd yn rhaid bod yn gryf fel ceffyl i allu cyflawni gofynion gweithio ffwrnais, a dyma'r gwaith a gyflawnai Phil yn ei arddegau.