Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffyddlon

ffyddlon

Roedd yn enedigol o ardal Ardda a threuliodd gydol ei hoes yn ardal Trefriw, yn wraig uchel ei pharch i bob achos teilwng, yn aelod ffyddlon o Gapel Ebenezer, yn athrawes Ysgol Sul am rai blynyddoedd, a chymerai ran gyhoeddus yn y gwasanaethau.

gyfieithu'r testun yn ffyddlon ac inni yn y mannau anodd esbonio'r cyfryw yn gwbl ddidwyll.

Nid yw'r Methodistiaid i "gablu urddas" ond i ymddwyn, mewn gair a gweithred, yn ffyddlon ddiffuant i'r llywodraeth gan anrhydeddu'r Brenin a'r sawl sydd mewn awdurdod oddi tano.

Mae hwn yn ffrind ffyddlon i'w feistr, ond yn troi'n sarrug wrth eraill.

Fyddai Roci byth yn crwydro o'i gynefin heb gwmni ei ast ffyddlon, ac aeth a hi i mewn i dy'r cymydog a'i sodro wrth ei gadair o flaen y tan.

Taith droellog iawn oedd hi a chredai llawer un a gyfrannodd at y drafodaeth ei fod yn ffyddlon i'r argyhoeddiadau Cristionogol.

Priod ffyddlon Alwena a thad annwyl Sandra.

Bid a fo am hynny, mae'r gair Cymraeg 'awen' yn nes o ran ei ystyr i ysbrydoliaeth nag ydyw dychymyg, ac onid wyf yn camgymryd, 'roedd Waldo'n ffyddlon i ryw gynneddf yn ei natur wrth ddewis y gair hwn, ac wrth wneud, 'roedd yn gallu cadw'r hyn a oedd yn werthfawr yn ystyr y gair 'Imagination' i Blake heb gael ei lluddias gan rai o ragdybiaethau'r meddwl diweddar am y dychymyg.

Yr hyn a'i dychrynai fwyaf oedd bod ei gwas ffyddlon wedi bod yn helpu'r lladron.

Yn hytrach, cwmpasai holl oblygiadau perchtyaeth yn yr union ffordd y bu i lys y brenin daenu ei warchodaeth dros holl ddeiliaid y deyrnas ac amddiffyn eu buddiannau gorau, sef sicrhau heddwch a threfn a fyddai'n hybu cynnydd a golud gwlad ac yn clymu'r deiliaid hynny'n fwy ffyddlon i'r frenhiniaeth.

Arferai fod yn eitha' ffyddlon yng nghapel Ebeneser, neu Gapel Pen, Llanfaethlu, ac arhosai'r plant yn eiddgar am sŵn ei esgidiau hoelion mawr wrth iddo droedio'n drwm i'w sedd yn y blaen.

Mae Rhian Mulligan yn ffoi i Gymru o Iwerddon -- ar fferi Stena Sealink wrth gwrs -- i chwilio am erthyliad gan ei bod yn babyddes ffyddlon, mae hyn yn ddigon drwg.

Roedd yn hoff o ganu a drama, yn gefnogol i'r eisteddfod leol a chenedlaethol a phob achos da yn yr ardal, yn aelod o Gymdeithas yr Henoed ac yn aelod ffyddlon o Gapel Ebeneser.

Meddyliai'r byd o'i hen weinidog, a bu'n aelod ffyddlon yn Salem hyd nes iddo symud i Fangor.

Y mae'n ddiwinydd praff, yn esboniwr diogel, yn bregethwr campus, ac yn weinidog ffyddlon yn holl waith ei swydd.

Mae'n rhaid i Bwyll ddysgu sut i feddwl cyn gweithredu, rhaid iddo fod yn ofalus, a bod yn ddigon gostyngedig i ofyn yn lle gorchymyn; ond, er hynny, mae'n ddyn da, mae'n gyfaill ac yn briod ffyddlon, gŵr cyfiawn na ellir ei siglo gan farn ei foneddigion.

Iddynt hwy yr oedd gofyn bod yn ufudd ac yn ffyddlon.

Bu yn aelod ffyddlon a gweithgar o Eglwys Santes Fair Trefriw a Chymdeithas yr Henoed.

Y mae gweddill sylweddol iawn yng Nghymru na phlygodd i dduwiau poblogaidd ein cenhedlaeth ac a arhosodd yn ffyddlon i wirionedd yr Efengyl.

Yn y cyntaf, er enghraifft, ceir peintiad adnabyddus Syr E. J. Poynter, Ffyddlon hyd Angau, llun canwriad Rhufeinig yn glynu wrth ei le pan oedd y diluw tân yn disgyn ar dref Pompeii.

Bwriad y gwragedd hyn oedd hel arian i wneud gwaddol a dychwelyd i'r oasis i briodi a bod yn wragedd da a ffyddlon.

Ac eto, onid oedd Emyr, fel Carol, wedi gweld yn ddiweddar fel y gallai'r person mwyaf cariadus a ffyddlon droi ei gefn ar briodas hapus yn sydyn ac anesboniadwy?

Anfarwolwyd Las Terrazas gan ei gwsmer mwyaf ffyddlon, sef Ernest Hemingway.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Gwnaeth yr hen gi ffyddlon sŵn crio yn ei wddf.

Gan mai gweithio'n y nos yr oedd y dyn ifanc; yr oedd ganddo drwy'r dydd i geisio dod o hyd i ateb i rai o'r cwestiynau a ofynnodd i'r cŵn ffyddlon.

Taffy was a Welshman, Taffy stole my heart not beef gan ychwanegu'r geiriau Lladin, Sapiens Fidelis - doeth a ffyddlon.

Yn ei eiriau ei hun, 'y dyn glân a phur, ffyddlon a gonest, dyn o egwyddor'.

Diolchwn i Ti am gynnal y gweddill ffyddlon yng Nghymru sy'n dal i dystiolaethu i'r iachawdwriaeth yng Nghrist.

Ers ei lansio ym mis Ionawr, mae Station Road eisoes wedi denu dilynwyr ffyddlon.

Yn wir, hawdd credu fod Pero/ n ei hun erbyn hyn wedi troi yn ei fedd o weld un o'i ddisgyblion mwyaf ffyddlon yn troi'r holl ideoleg wyneb i waered.

'Waeth i mi fynd i Ddenmarc mwy na Llaneilian ddim." Gallasai ddweud hynny am iddo fod yn athro mor ffyddlon i Laneilian hefyd - i bob Llaneilian, i Laneilian pawb.

Gwelais y palmwydd marw y tu ôl i'r to, y cacti truenus o flaen y ffenest - arferai eu dyfrhau yn ffyddlon o brydlon heb os - planhigion swyddfa allan yn yr awyr agored.

Roedden nhw'n aelodau ffyddlon o Noddfa, lle'r ymgasglodd ei theulu a'i ffrindiau i dalu teyrnged i un a ddylanwadodd yn fawr ar eu bywydau.

Bu'n aelod ffyddlon yn Bethel Cwm Hyfryd ar hyd ei oes.

"Yr ydych chi'n gwmpeini mawr i mi yma heb yr hen ŵr, ac yn ffyddlon .

Roedd Tomos yn gymeriad hoffus, syml, ffyddlon, gonest a dewr.

Ond, chwarae teg iddo, 'roedd y gwr addfwyn hwn yn ddigon gostyngedig i addo y deuai'n ôl i wasanaeth y Genhadaeth, pe byddai'r cynllun i weithio'n annibynnol yn methu.' Ymhlith y gweithwyr a oedd yn amlwg yn Sylhet bryd hyn yr oedd Suresh, a oedd bellach yn gofalu am Sunamganj, Jogesh, a oedd yn efrydu ar gyfer ei BA yn y coleg yn Sylhet (bu'n ffyddlon iawn yn gofalu am yr eglwys Bengali yn nhref Silchar am flynyddoedd wedyn tan ddiwedd y rhyfel, pan ddaeth amhariad ar ei gof) a Subodh Dutta, a oedd ar y pryd yn athro yn yr ysgol yn Sylhet ac yn compounder yn y dispensari yno; daeth yr olaf yn un o golofnau'r eglwys ar y Gwastadedd ac yn 'bregethwr Cyrddau Mawr'.

Er nad yw Gadaffi yn Foslem ffwndamentalaidd, mae'n honni ei fod yn ffyddlon i Allah ac yn gweddËo bum gwaith y dydd.

Teimlwn yn gymysg fy meddwl ac ychydig yn ansicr wrth eistedd ymysg cynulleidfa bitw o ryw hanner cant yn theatr anferthol Elli gyda phawb yn gofyn yr un cwestiwn - "lle mae pawb d'wedwch?" Tybed oedd y gweddill yn gwybod rhywbeth nad oeddem ni'r ffyddlon rai yn ei wybod am y cynhyrchiad?

Tra bu Evita yn ffyddlon i Pero/ n, trodd Zulema yn ffyrnig yn erbyn strategaeth wleidyddol ei gwr.

Gwerthfawrogodd yr anrhydedd o gael bod yn ddiacon ffyddlon a gwasanaethgar.

(Da was da ffyddlon - a bechod).

Yn fwy na dim, yr oedd yn gymwynaswr parod; yn wr a'i galon yn fwy hyd yn oed na'i gorff, ac yn gyfaill ffyddlon a theyrngar.

Personoliaeth "indipendant" ond yn gallu sgwrsio yn iawn, ac yn ffyddlon at y ffyddlon ac yn casau annhegwch.

'Roedd Graham yn awyddus i ail afael yn y berthynas ond ceisiodd Diane ei gorau i aros yn ffyddlon i Reg.

Mewn cyfres o ymladdfeydd gwaedlyd gyda lladron o farchogion treisgar a thwyllodrus dengys Geraint ei nerthoedd fel marchog arfog, ond yn y modd garw, didostur yr ymetyb i rybuddion ffyddlon Enid gwelir mor brin ydyw o wir gymhellion y marchog urddol, er bod un awgrym mai'n groes i'w natur ei hun y gweithreda fel hyn, 'a thost oedd ganthaw edrych ar drallod cymaint â hwnnw ar forwyn gystal â hi gan y meirch pe ys gatai lid iddaw'.

Am yr ugain mlynedd bu yn byw yn Moriah, bu yn aelod ffyddlon a gweithgar yn y capel a'r ardal, ac yn ddiweddarach yn Bethel-Gaiman.

Nid oedd yr Almaenwyr, na'r Japaneaid, yn ddisgyblion ffyddlon i Keynes a'i ddamcaniaethau.

Roedd y Parchedig Sam wedi bod yn ffyddlon i'w alwad ac yn ffyddlon i'w braidd.

Mae o mor ffyddlon ac ufudd ag unrhyw gi defaid,' pryfociodd Cathy.

Ymhen blynyddoedd cafodd ei anrhydeddu am ei waith gan y Frenhines gyda'r OBE Bu'n aelod ffyddlon yn Eglwys y Tabernacl ar Ffordd y Gartgh, ac wedi hir bendroni roedd yn un

Roedd hi'n aelod ffyddlon yn yr hen gapel Tabor ac yn ddiweddar yng nghapel Carmel.

Mi fyddai'r lle'n orlawn, nid yn unig o'r ffyddlon, ond hefyd o'r rhai eraill, dim ond i ymfalchio fod yr hen ŵr wedi bod yn eu mysg.