Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffyddloniaid

ffyddloniaid

Ei bryder ef a phawb arall mewn awdurdod yn yr Eglwys o glywed fod rhai o'r ffyddloniaid yn darllen yr Ysgrythurau oedd mai arwain at heresiau ac anuniongrededd a fyddai darllen a myfyrio'n breifat ar y Beibl heb gyfarwyddyd diwinyddion cymwys a phrofiadol.

Fe allai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud, ergyd wych o ddeugain llath gan Sasha Opinel yn rhoi gôl i'r ymwelwyr ac yn brawychu ffyddloniaid Parc Ninian.

Yn naturiol, roedd yna wylofain a rhincian dannedd ymysg ffyddloniaid y blaid wrth i'w harweinydd ddadfeilio gweledigaeth eu sylfaenydd.

Aeth Mr Rowlands a'i deulu ynghyd a mintai o ffyddloniaid eraill i addoli'r drws nesaf ym Mhenuel.

Yr oedd sgwrs yn mynd yn beth bratiog unsillafog wrth i bawb siarad yng nghlyw ei gilydd a'u llygaid at y gornel, a lle byddai cynulleidfa mewn cyngerdd a drama a darlith, dim ond cnewyllyn o ffyddloniaid oedd yn dal i ddod, a 'lle byddo dau neu dri' yn cael ei ddyfynnu yn amlach ac amlach.

Yr oedd Eglwys Gynulleidfaol Llanfaches yn ymgais i gynnal canllawiau cadarn i'r ffyddloniaid heb greu cyfeillach gaee%dig.

Fel y gwaredodd Duw Israel o'r Aifft â gwaed ŵyn y pasg yn amddiffynfa i'w phlant rhag angau, gwaed Crist bellach sy'n cadw'r ffyddloniaid rhag rhaib y farwolaeth sy'n ffrwyth pechod.