Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffyniant

ffyniant

Mae'n ffaith bod yn Hong Kong heddiw nifer sylweddol, ymhlith y boblogaeth o bum miliwn a hanner, sydd heb allu siarad Saesneg; dyna gadarnhad o ffyniant yr agwedd herfeiddiol a barodd i'r llywodraethwr Robinson ganrif yn ôl awgrymu bod amharodrwydd Tseineaid Hong Kong i ymseisnigeiddio yn 'rhyfeddol, os nad gwaradwyddus'.

Y mae'n wir nad oedd y teulu'n absennol o'r gymdeithas, ond yr oedd yn israel ai ffyniant bywyd ar barodrwydd dynion i uno â'i gilydd; dyna paham y rhoddid lle mor bwysig i deuluoedd a pherthynas gwaed.

Bu cyfnod Elfed ym Mwcle yn gyfnod o gynnydd a ffyniant yn hanes ei eglwys.

"Wrth geisio gwireddu'r uchod, ceisiwn hefyd sicrhau amodau ffafriol i ffyniant y cymunedau Cymraeg".

Gellir cymharu'r ffyniant yn y diwydiant llongau yng Ngogledd Cymru yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'r twf yn y diwydiannau glo, haearn a dur yn Ne Cymru.

Er bod hwn yn gyfnod o wrthdaro ac o aniddiddigrwydd ymysg rhai merched a gweithwyr, 'roedd y gerdd hon yn adlewyrchu meddylfryd y cyfnod Edwardaidd: cyfnod o ffyniant a chyfnod o heddwch a hawddfyd.

Y mae'n bwysig i bob un sydd yn gweithio dros ffyniant iaith a chymdeithas gael eu gweld yn ysgwyddo baich yr anghenus yn y gymdeithas honno.

Dadleuai DJ Davies, yn wir, fod yr ardaloedd Seisnig yn barotach i dderbyn neges y Blaid na'r ardaloedd Cymraeg, oblegid yr ymdeimlad o wacter a geid ynddynt trwy golli'r iaith, a bod ffyniant yr iaith yn yr ardaloedd Cymraeg yn fagl ac yn rhwystr i'w datblygiad politicaidd i gyfeiriad cenedlaethol.

Ystyrid bod dysgyblaeth o'r fath yn bwysig mewn perthynas â phriodi ac ystad priodas; pwysleisid trefn a disgyblaeth mewn dewis gŵr neu wraig, sef y broses o briodi a'r cyd-fyw, er sicrhau llwyddiant a ffyniant y teulu i'r dyfodol.

Nid oes amheuaeth nad yw'r duedd i 'feddwl yn gam' yn parhau i'n blino ni fel cenedl heddiw, a bod hynny nid yn unig yn bygwth ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg, ond hefyd yn creu rhwyg ac anghydfod yn ein plith.

mewn ffyniant fel meddiant mawr, bo gras ag urddas ....' .

Ni chofiaf weld y geiriau dadleuol uchod yn eu cyd-destun gwreiddiol, ond, os nad wyf yn camgymryd, yr hyn yr oedd gan Dr T Gwynn Jones yn ei feddwl oedd fod pwnc yr iaith yn un mor llosg nes ysgogi rhai Cymry i feddwl ac i weithredu'n gam, hynny yw, yn anghyson â'r egwyddorion hynny sy'n sylfaen i ffyniant cymdeithas wâr.

'Roedd yr haf Edwardaidd yn tywynnu'n llachar o hyd, er i gyfnod teyrnasiad Edward y Seithfed (Iorwerth VII) ddod i ben yn swyddogol ym 1911 pan goronwyd Siôr y Pumed yn frenin, ond 'roedd ysbryd yr oes Edwardaidd o ffyniant a chynnydd yn parhau hyd at ddechrau'r Rhyfel Mawr.

Nid tasg syml serch hynny yw diogelu traddodiadau, meithrin hunaniaeth, meithrin perthynas effeithiol efo gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain a sicrhau ffyniant economaidd wrth ddiosg yr hualau Sofietaidd.

Eu diddordeb yn y gymdeithas leol ac yn ei ffyniant economaidd sy'n cymell aelodau y Pwyllgor Rheoli.

Fel rhan o gyfraniad cadarnhaol S4C i fywyd ieithyddol, diwylliannol ac economiadd Cymru, mae 95% o'r gyllideb raglenni yn cael ei gwario'n uniongyrchol yng Nghymru gan greu swyddi a chyfrannu at ffyniant economaidd y wlad.