Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ffynnai

ffynnai

O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.

Ffynnai ofergoelion am ysbrydion, canhwyllau cyrff a bwgan ymhob rhyw gornel dywyll...

O'i fewn y ffynnai'r diwylliant a'r grymusterau gwareiddiol hynny a roesai hynodrwydd i deulu ac ardal ac a luniai undod unigryw mewnblygol a safai dros werthoedd cynhenid y gymdeithas.

Ni chawsent glywed rhyw lawer am yr aelwydydd hynny ar hyd a lled y wlad a gywasgodd y beirdd yn un aelwyd ddifai gynddelwig lle ffynnai rhinwedd a moes.

Perthyn y llyfr i fath o lenyddiaeth a ffynnai ymhlith Iddewon a Christnogion yn y dyddiau tyngedfennol hynny.

Ac ni ddylid anghofio chwaith yr hen ysgolion gramadeg a ffynnai yn rhai o'r trefi.

Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.

Mae'r adran yn ei ewyllys sy'n trafod sefydlu'r ysgol yn awgrymu'r ymdeimlad o gymrodoriaeth a ffynnai ymhlith uchelwyr Llyn ar y pryd.