Dylai'r Cynulliad sicrhau cefnogaeth ariannol digonol i brosiectau diwylliannol cymunedol fel bod cyfle i ddiwylliant a chelfyddyd ffynnu ar lefel gymunedol yn ogystal â chenedlaethol.
Ond er prinned yw'r cyfeiriadau uchod, ac er nad oedd llawer iawn o gysylltiad rhwng y rhanbarthau hyn a'r taleithiau eraill yn y ddeuddegfed ganrif a'r drydedd ar ddeg, eto, pan gododd Casnodyn ym Morgannwg yn y ganrif ddilynol, gwelir yn ei waith holl nodweddion canu cymhleth y Gogynfeirdd, ffaith sy'n awgrymu fod traddodiad barddol cyffelyb wedi ffynnu yn y de-ddwyrain yn ogystal yn y canrifoedd blaenorol.
Erbyn y cyfnod, hwn, wrth gwrs, er bod y traddodiad llafar yn ffynnu o hyd, ochr yn ochr ag ef daeth y testun ysgrifenedig yn fwyfwy cyffredin a phwysig, yr hyn a olygai datblygiadau newydd yn natur y testun naratif a'i dechnegau.
Gwelwn Ddeddf Iaith Newydd i'r Gymraeg fel ffordd synhwyrol ac angenrheidiol o greu hinsawdd ffafriol ble gall y Gymraeg ffynnu.
Gwahoddir pawb sy'n rhannu dymuniad y Bwrdd i weld yr iaith yn ffynnu, ac sydd am weithio mewn partneriaeth gyda ni, i fynnu eu rhan yn y strategaeth hon ac i gyfranogi o'i gwireddiad.
Ond mae'n rhaid cadw mewn cof bod y mudiad rhamantaidd yng Nghymru yn ffynnu ar adeg o newid chwyldroadol yn y gymdeithas, o ddiwydiannu cyflym, a symud poblogaeth, hagru'r tir, o newidiadau ym myd crefydd ac iaith.
Gan mae'r Almaen fydd un o brif benseiri'r Gymuned, mae'n rhesymol credu y bydd egwyddor subsidiarity yn ffynnu'n gryfach yn ei chyfundrefnau.
Dyma ddeuoliaeth glasurol Methodistiaeth Calfinaidd - ffydd emosiynol oedd yn ffynnu o'r galon, ond ffydd oedd â phrofion ohoni i'w canfod gan reswm ym mhob man yn y byd allanol, unwaith yr oedd llygad y galon wedi'i hagor i'w gweld.
Teimlid bod y cyfeiriadau cyson at yr 'hynaf penteulu' a'r 'hylwydd iawn gynheiliad' ynghyd â'r 'ymherawdr' a'r 'emprwr', y sofran a wyliai fuddiannau ei ddeiliaid, yn elfennau teuluol yn eu hystyr ehangaf ac yn cyfannu'r gymdeithas ac aelodau o'r 'cenhedlog waedogaeth' ynghlwm wrth uned sylfaenol y teulu cenhedlig na allai ffynnu mewn cyflwr o anarchaeth neu ddiffyg trefn.
Ni fydd yn ffynnu os bydd ei defnydd ar yr aelwyd ac yn y gymuned yn dal i leihau, hyd yn oed os bydd nifer y siaradwyr newydd a ddaw o'n hysgolion yn cynyddu.
Mae ei holl adwaith i'w amgylchfyd, fel y portreedir ef, yn arwydd pendant o'i benderfyniad i ddal ei dir ac o'i allu i ffynnu ymysg lladron a thaeogion.
Mae'n deg cydnabod hefyd fod dirywiad wedi digwydd yn y Felinheli: 'Roedd cyfnod y chwarel a'r cei yn un llewyrchus iawn i'r pentref, ac amryw o fusnesion eraill yn ffynnu o'r herwydd, nifer dda o wahanol siopau a phawb i weld yn gwneud busnes, pob cwsmer yn cyfrif, a'r cwsmer yn iawn os y byddai unrhyw wahaniaeth barn.
Trowyd ffriddoedd serth a'r ucheldiroedd yn borfeydd bras, traenwyd y corsydd, plannwyd miloedd o erwau o goed bytholwyrdd felly collwyd cynefinoedd gwyllt, - y coedlannau derw a'r rhosydd a'r grug, a hefyd yr arferion hynafol a ganiataodd i laweroedd o blanhigion ac anifeiliaid ffynnu mewn cydberthynas â dyn.
Yr amcan yw sicrhau bod talent a syniadau yn ffynnu ochr yn ochr â'r sgiliau rheoli sy'n galluogi talent greadigol i weithio mewn modd sy'n effeithiol o ran amser, arian a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd wrth "Taro Naw" nad oedd y diwydiant twristiaeth yng ngorllewin Iwerddon wedi ffynnu drwy fod yn wrth-Seisnig ac y dylai Cymry Cymraeg newid eu hagwedd.
Er mwyn i'r iaith gael cyfle i ffynnu mae'n rhaid i nifer o bethau, sy'n rhan mor gynhenid o'r hen drefn, ildio.
Fel arfer, mae'r anifeiliaid hyn yn rhai caled a chadarn sydd yn medru ffynnu ar diroedd gwael a mynyddig y wlad.
Mae Awdurdod Datblygu Cymru yn ymrwymedig i gynorthwyo busnesau presennol i ehangu a ffynnu ac annog mewnfuddsoddiad, adleoli diwydiant a chreu swyddi yng Nghymru.
Mae Cristionogion wedi cyffesu erioed mai Duw yw awdur popeth sydd a'n bod ninnau wedi ein gosod ar y blaned i'w gwarchod a pheri iddi ffynnu.
Mae'r arferiad o addurno'r tai gyda phob math o ddeiliach fythwyrdd yn mynd yn ôl i'r oesoedd paganaidd pan oedd pobl yn cael eu hudo gan y coed fythwyrdd oedd yn ffynnu fel pe baent o dan rhyw ddylanwad hudol yn ystod hirlwm y gaeaf pan oedd pob dim arall yn ymddangos yn farw.
Nid yw ryfedd yn y byd, felly, ein bod ni sy'n caru Cymru fel Cymru ac sy'n dymuno gweld yr hen ddiwylliant a'r iaith yn ffynnu, yn ystyried y Cymydog Mawr yn fygythiad.
Rydym eisoes wedi crybwyll fod yn rhaid i'r Gymraeg ffynnu ymhob agwedd ar gymdeithas os yw hi i ddod yn hunan-gynhaliol.
Yn wir, yr oedd y mudiad yn ffynnu yng nghanoldir Lloegr.
Yn hytrach na ffynnu i fod yn Awstralia America Ladin, roedd y wlad wedi dirywio cymaint nes ei bod yn cael ei hadnabod fel Albania'r Cyfandir.
Fel y nodwyd eisoes, ni fydd yn ffynnu os yw ei defnydd yn y cartref a'r gymuned yn lleihau, hyd yn oed os yw nifer y siaradwyr newydd a ddaw o'n hysgolion yn cynyddu.
'Pedwar hygar rhywiogaidd', meddai, 'Llunon teg oll yn un ty' - enghraifft hynod o'r gyfathrach glos a allai ffynnu mewn perthynas deuluol.
Ond os ydi'r Gymraeg i ffynnu y tu allan i swyddfeydd swyddogol ac ysgolion mae'n rhaid iddi gael ei gweld yn gweithio ar lefel gymdeithasol.
Y mae PDAG yn bod ers pum mlynedd oherwydd fod pobl Cymru yn awyddus i weld addysg Gymraeg yn ffynnu ac wedi galw am sefydlu corff i'w datblygu, corff annibynnol i'w gyllido'n gyfangwbl gan Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru.
Petai'r Cynulliad a'r sefydliadau eraill yn methu, mae ymgyrchwyr iaith yn hyderus y byddai'r Wyddeleg yn dal i ffynnu, oherwydd bod y fan y maent wedi'i gyrraedd nawr yn ffrwyth blynyddoedd lawer o waith nad oes modd ei ddadwneud.