Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fidel

fidel

Roedd Fidel yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd addysg, a doedd e byth wedi anghofio'r modd y gwnaeth ei fam, na fu mewn ysgol erioed, ymdrech i sicrhau'r addysg orau iddo.

Mae uchel swyddogion y llywodraeth wedi rhybuddio fod y wlad yn dychwelwyd i'r cyflwr roedd ynddi yn ystod y ganrif ddiwethaf, ac mae hyd yn oed Fidel, yn ôl nifer o ffynonellau, wedi mynegi ei bryder am y dyfodol.

Yn ôl Fidel, mae defnydd yr alltudion o enw Marti yn gyfystyr ag enwi puteindy ar ôl George Washington.

Hwyrach na fyddai'r baneri'n dal i chwifio oni bai am y teyrngarwch personol i Fidel.

Mae'n drueni bod Fidel ei hun wedi cadw'r fath reolaeth ac awdurdod llwyr dros ei wlad.

Honnodd fod diwydianwyr ledled y byd, gyda chymorth yr economegydd Milton Friedman, wedi addo buddsoddi gwerth ugain biliwn o ddoleri yng Nghuba y diwrnod y caiff Fidel ei ddisodli.

Fidel Castro yn dod i rym ar ynys Ciwba.

Y perygl mwyaf i Fidel yw'r ieuenctid.

Honnwyd hefyd y byddai dros gant o ddeifwyr yn archwilio gwely'r môr i sicrhau nad oedd unrhyw ffrwydron yno, cyn i Fidel wneud unrhyw nofio tanddwr.

Serch hynny, mae yna dystiolaeth mai cael ei arwain, os nad ei wthio, i freichiau'r Rwsiaid oedd tynged Fidel, yn hytrach na dilyn ideoleg bersonol.

Mewn cyfweliad dwyawr i'r Byd ar Bedwar, cyfeiriodd at Fidel fel El Tirano, y gwir Stalinydd olaf yn y byd.

Ymateb y Sofietiaid oedd ymgyrch i ddifrio Fidel yn y wasg.

Y nod oedd dangos pethau y tu hwnt i'r sloganau amlwg, dangos rhywfaint am Fidel Castro ei hunan ac am farn ei bobl amdano.

Siomwyd Fidel yn arw gan Gorbachev a perestroika; er gwaethaf pwysau gan y Sofietiaid, gwrthododd weithredu unrhyw beth tebyg yng Nghuba.

Ni bu Fidel erioed yn aelod o blaid gomiwnyddol fechan Cuba, er bod ei ddaliadau yn tueddu i'r chwith.

Mae MasCanosa hefyd yn aelod o fyrddau Radio Marti a Telemarti, sef gwasanaethau radio a theledu sy'n darlledu i Guba o Florida, gan ddisgrifio bendithion dyfodol heb Fidel.

Hemingway oedd hoff awdur Fidel ac, fel mae'n digwydd, roedd y ddau ddyn yn debyg iawn i'w gilydd.

'Roedd mis Chwefror yn fis hanesyddol i Nicky Wire, James Dean Bradfield a Sean Moore, gan berfformio yng Nghiwba a chyfarfod Fidel Castro.

Roedd hi'n amlwg fod plant yn cael eu dysgu'n ifanc i barchu un o egwyddorion sylfaenol Fidel Castro, sef pwysigrwydd gwaith.

A chofiais am Ramon, brawd Fidel, yn disgrifio sut y byddai'r awdurdodau'n dod o hyd i ddillad nofwyr tanddwr wedi eu claddu yn y tywod.

Arf cryfaf Fidel, fodd bynnag, yw sail pwysicaf ei chwyldro, sef gwladgarwch a chenedlaetholdeb y bobl.

Fe gefais yr argraff fod pawb, gan gynnwys Fidel Castro ei hun, yn diodde'r ddefod yn hytrach na mynegi cariad at yr Undeb Sofietaidd.

Buasai unrhyw ddyn felly wedi cael ei gyfarch fel Meseia gan y bobl, ond Fidel yn unig a feddai ar y rhinweddau angenrheidiol.

Yn Hemingway, gwelai Fidel 'anturiaethwr yng ngwir ystyr y gair - rhywbeth hardd gan ei fod yn ddisgrifiad o ddyn nad yw'n cydymffurfio â'r byd ac sy'n gweld dyletswydd i'w newid'.

Hawliodd fod Fidel wedi cysylltu ag e droeon, trwy ganolwr yn Caracas, i ymbilio am gyfarfod, ond doedd ganddo ddim diddordeb mewn trafodaethau.

Darllen oedd ei brif ddiddordeb ac, fel Fidel, roedd ei gymhellion yn tarddu o ramant a moesoldeb yn hytrach nag unrhyw ideoleg bendant.