Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fil

fil

Onid gwell, yn lle'r ysgol honno o fil o blant, fyddai cael tair ysgol lai gyda rhyw drichan disgybl yr un?

Mi fydda aelodau eraill llys Montezuma, hwythau, yn yfed rhyngddyn nhw lond dwy fil o gwpanau aur o siocled.

Rhai yn ffafrio ei galw yn ddwy fil ac un - two thousand and one - ond eraill yn danbaid mai dau dim, dim, un a twenty O one fel ag yn ninteen 0 one ac un naw dim un ddylai hi fod.

Llongyfarchiadau fil, Dewi.

'Fe f'asa'n fil harddach i mi ledi .

Codwyd dwy fil o bunnau mewn cyfraniadau, a'r bwriad yw gofyn i Lys-gennad Prydain yn Nicaragua i ddyblu'r swm ar gyfer prosiectau ar yr arfordir.

Gofynnodd am fil o bunnau y flwyddyn o gyflog.

Yn ystod y dyddiau nesaf, gwirfoddolodd naw mil o bobl, a derbyniwyd dwy fil ohonynt i rengoedd y Polîs Arbennig.

Fel y cyfeiria yn y rhagair, mae i Ystad y Goron gefndir o fil o flynyddoeddt a phan gollodd Cymru ei hanibyniaeth yn 1282 aeth darnau ohoni yn rhan o'r Ystad.

Ar ol gadael twnel mawr pedair milltir Alvra neu Albula, mae'r trenau prysur, prydlon yn mynd trwy saith twnel sylweddol arall wrth ddisgyn dros fil o droedfeddi i Bravuogn, gan droi o'u hamgylch eu hunain bum gwaith, y rhan amlaf y tu fewn i'r graig.

Wrth ochr y Sukiennice y mae dau dþr enfawr yr Eglwys Gadeiriol (y mae gennyf gof da o fynychu cyngherddau yn yr eglwys hon gyda'r eira'n blastar y tu allan ac ymhell dros ddwy fil o bobl y tu mewn yn gwrando ar Mozart neu Verdi fel petaent mewn yn gwrando ar Mozart neu Verdi fel petaent mewn gwasanaeth crefyddol).

Syfrdanwyd y byd â'i eriau - aralleiriad o beth a ddywedwyd gan yr Arglwydd Iesu ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Ar ôl cynnal profion ar ddwy fil o bobol, mae'r gwyddonwyr yn dweud fod gan bobol sy'n yfed yn gymhedrol IQ's uwch na'r llwyrymwrthodwyr.

un fil pum cant chwe deg a chwech, Ac o'r dydd hwnnw ymlaen, bod y cwbl o'r Gwasanaeth Dwyfol i'w arfer a'i ddweud gan y Curadiaid a'r Gweinidogion trwy'r holl Esgobaethau a nodwyd, lle mae'r Gymraeg ar arfer yn gyffredin, yn yr iaith Frytaneg neu Gymraeg grybwylledig .

Ffynnodd yr antur am fil a hanner o flynyddoedd a gwreiddiodd y bywyd gwâr Cymreig yn naear

Mae batiwr Morgannwg, Jacques Kallis, wedi sgorio dwy fil a hanner o rediadau mewn gemau prawf i Dde Affrica.

Hwylio ar wyneb y ceudwll oeddan ni, gan edrych i fyny i ben y clogwyni lle mae trefi bychain gwyngalchog yn disgleirio yn yr haul, fil o droedfeddi uwch ein pennau.

Cyrhaeddodd trên llythyron gyffiniau Llanelli am ddeng munud wedi naw y nos ond rhwystrwyd y groesfan yno gan fil a hanner o bobl, gan gynnwys llanciau a oedd wedi dryllio ffenestri'r blwch arwyddo gerllaw.

Fe;u cyhoeddwyd yn y cylchgrawn Cymru yn wreiddiol ac .yna'n gyfrol fechan yng Nghyfres y Fil, Capelulo, ac yn bennaf straeon sy'n darlunio'i ddawn ddweud mewn cyfarfod dirwest, wrth weddlo neu wrth roi rhyw gil-sylwadau wrth ddarUen o'r Beibl.

Apeliodd cadeirydd y pwyllgor, sef Richard Squence, at y ddwy fil o bicedwyr:

Rhaid i'r Cynulliad bwyso ar fyrder am Ddeddf Iaith 2000 i sicrhau y bydd y Gymraeg yn goroesi am fil o flynyddoedd eto.

Doedd dim modd dadansoddi'n gwbl oeraidd yn erbyn cefndir fel yna; roedd tynged y ddwy wlad, beth bynnag, i raddau helaeth yn cael ei benderfynu fil o gilometrau i'r de-ddwyrain, ym Moscow.

Tua dwy fil o flynyddoedd cyn Crist y daethant i Gymru.

Y mae uchafswm o ddwy fil o bunnau o gosb am bob anifail y ceir hormonau anghyfreithlon yn ei gyfansoddiad.

Yn ôl eu harfer dros y blynyddoedd daeth dros ddwy fil o bobl i'r theatr eto eleni, y tro hwn i rannu atgofion John Davies - yr hen lanc canol oed a benderfynodd symud i fyw i lety wedi marw ei fam - wrth iddo werthu ei ddodrefn "o law i law% i berthnasau a chydnabod.

Ond nid dwsinau o ddringwyr, ond heidiau wrth y fil fydd yn nadreddu i fyny o Ben y Gwryd dros y bwlch tua El Dorado Leading Leisure yng Nglyn Rhonwy os caiff Cynghorwyr Arfon eu ffordd.

Dros fil o flynyddoedd yn ol safai Aberhonddu yng ngwlad Gymreig Brycheiniog, gwlad a enwyd ar ol y brenin Brychan a oedd yn fyw yng nghanol y bumed ganrif.

Cuba a dalai am bopeth tra oedden nhw yno, ond gan fod y Rwsiaid wedi gwrthod talu am yr awyrennau i'w cludo, dim ond dwy fil o blant oedd wedi cyrraedd.

Doedd neb ar fwrdd y British Monarch wedi gweld llong arall ers oriau maith, ac roedd y tir agosaf fil o filltiroedd i ffwrdd!

Os yw haeriad Lewis Morris yn gywir y cyfeiriad dogfennol cyntaf at yr afon (er, nid yn benodol wrth ei henw) yw hwnnw a geir yn Historia Britonum Nennius, gwaith a luniwyd dros fil o flynyddoedd yn ôl.

Y rhedyn melys a ddeuai ag atgofiom fil am ddyddiau diofal ieuenctid.

Mae dros ddwy fil o ddisgyblion yn yr ysgol a nifer ohonyn nhw yn cysgu'r nos yno.

Yn agos i fil o flynyddoedd yn ôl fe deithiodd Gwaethfoed, un o fân benaethiaid Ceredigion y ffordd hon ar ei ffordd adref o Went gyda Morfudd ferch Ynyr Ddu, ei wraig newydd feichiog.

Coedwigoedd sy'n cyrraedd mor agos a dwy fil o filltiroedd i begwn y gogledd.

Os y medrwch gael gafael ar y llyfr gan yr hen fil-feddygon o Glwyd rwyf yn sicr y mwynhewch ei ddarllen.

Yr oedd y bont fawr yn un filltir, un fil, saith gant a phum llath o hyd.

Mae Llywodraeth Zimbabwe wedi rhoi'r hawl iddo'i hun i feddianu bron i fil o ffermydd ffermwyr croenwyn.

Roedd Affos y Brenin yn cynnig gwobr bob wythnos am dri mis o Gan Ceiniog Felen am y wnionyn mwyaf allan o holl erddi N'Og, ac ar ben hynny Fil o Geiniogau Melyn am y mwyaf bob mis.

Heddiw mae gweddillion ymylon y ceudwll hwnnw i'w gweld mewn hanner cylch o glogwyni sy'n codi'n serth dros fil o droedfeddi o'r môr.

I'r ganrif newydd y perthyn cyfrolau glanwiath Cyfres y Fil - tua hanner cant ohonynt - yn cynnwys gweithiau llenorion Cymru yn fach ac yn fawr, llyfrau defnyddiol hynod hyd yn oed heddiw.

Yng ngogledd Affrica fe gerdda'r newydd am grefftwr da neu ŵr hysbys dros fil o filltiroedd cyn rhwydded ag y gwna o gwm i gwm mewn gwledydd llai, a digwyddodd hyn, wrth i'r misoedd a'r blynyddoedd fynd heibio, i Hadad.

Dirmygu dyn yw bodloni i iaith a fu'n etifeddiaeth i'n tadau ni fil a hanner o flynyddoedd farw.

Yno, hefyd, rhyw ddwy fil a hanner o flynyddoedd yn ôl y trigai Esop.

Meddai un ohonynt, 'Mae gobaith y bobl yma yn wyneb anawsterau fil yn ysbrydoliaeth inni.

Rhennir y plwyf bron yn ddwy adran gydradd o ran maint gan afon Wyre sy'n rhedeg o Fynydd Bach drwy Lledrod a Llangwyryfon i'r môr yn Llanrhystud; mae i honno ei changhennau a'i nentydd mân, ac y mae'n disgyn fil o droedfeddi o'i tharddell i'r môr; am hynny mae hi'n codi'n wyllt ar ôl glaw ac yn gostwng yr un mor sydyn pan ddaw hindda.