Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

filain

filain

Ymosodai yn filain ar wegil y greadures, rhwygo'r cnawd, ei lladd yn farw gorn, ac yna yfed peth o'r gwaed ffres, ychydig o ddiferion, cyn ffoi.

Beth bynnag, mae'r giard yn amlwg yn amddiffyn fy ngwely i, oherwydd mae'n rhoi ei law arno, yn ysgwyd ei ben yn filain, ac yna'n troi ataf gyda gwen nefolaidd...

Roedd yn storm filain a ddeuai'n nes o hyd ac eisteddodd ar reiddiadur tra'n egluro i'r plant nad oedd rhaid iddyn nhw bryderu ac y gellid cyfrif mewn eiliadau i fesur y pellter rhwng y storm a'r ysgol.

Trafodir dynion fwyfwy fel rhithiau ystadegol, hynny yw, yn fodau haniaethol, gan fiwrocratiaid pell, a chaiff eu cymdeithas, yn lleol a chenedlaethol, ei sarnu'n filain.

Synnais o weld yr olwg filain yn ei lygaid.

Ac ni thaflwyd yr un rheolwr, pa mor filain bynnag y bu ei driniaeth o'r gweithwyr, allan ar y clwt.

Cawn ein harwain i gredu ei fod yn casa/ u'r meistri oherwydd ei natur filain, a'i bod hi'n fain arno'n ariannol am ei fod yn gwario'i arian ar gwrw, pŵls a cholomennod!

Byddai'r belen filain yn malu pob gewyn yn ei gorff, tarian ai peidio.

Roedd hynny'n amlwg, hyd yn oed yn y ffordd filain y byddai hi'n ceisio ein brifo ni, yn ceisio achosi rhyw ymateb naturiol oddi wrthym ni i'r sefyllfa.

Sbardunodd Andrews y BMW i lawr y ffordd a'i daflu'n ddidrugaredd heibio i'r gornel cyn plannu'i droed yn filain ar y brec .