Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

filltir

filltir

Mae deng mlynedd wedi mynd heibio er pan enillodd Alun Jones Wobr Goffa Daniel Owen gyda'i nofel Ac Yna Clywodd Swn y Mor, ac roedd cyhoeddi'r nofel honno flwyddyn yn ddiweddarach yn garreg filltir go bendant yn hanes y nofel Gymraeg.

Digon yw dweud bod y dystiolaeth, yn enwedig y dystiolaeth a geir o archwilio'r maes, yn awgrymu mai rhyw filltir i'r gogledd orllewin o'i llwybr presennol y gorwedd llwybr naturiol yr afon (yn enwedig yn rhan ganol y Morfa).

Oddi yno 'mlaen bydd rhyw ddwy filltir dda o gerdded dros wastatir uchel gwelltog a'r hen ffordd wedi'i sarnu yn o arw gan feiciau modur mewn mannau.

Gadael y car yno a cherdded ar hyd y mynydd agored am filltir gwta tua'r dwyrain.

Gellwch gerdded yn hawdd o aber yr afon Ogwr ar hyd y traeth am tua dwy filltir a hanner nes cyrraedd Trwyn y Witsh dan Gastell Dunraven.

Roedd gan BBC Cymru nod eglur flwyddyn yn ôl: datblygu rhaglennu carreg filltir ac adloniant yng Nghymru.

Ryw filltir yn ôl.' 'Wedi pasio'r lle ddeutsoch chi?

I'r sawl sydd yn gallu cyfuno sylwadaeth fywiog a diwylliant eang ac sydd yn cael ei ysgogi gan gariad at ei fro, y mae ei filltir sgwar yn destun diddordeb di-ben-draw.

Roedd mam yn yr ysgol efo Glyn Pen Parc, oedd wedi crwydro mor bell o'i filltir sgwar, ac roedd hithau'n gwylio'r teledu bob nos i weld y datblygiadau diweddara yn y ras am y gofod.

'Roedd y ffaith i un llyfrgellydd fentro ar ei liwt ei hun, ar nifer mor fawr (a oedd yn ymddangos yn wastraff), yn garreg filltir bwysig.

Cawsom beint y tu allan i Cill Dara, ac un arall a chinio ym Mhort Laoise, ac fe stopiodd am y trydydd tro rhyw filltir neu ddwy y tu allan i Luimneach am ei fod angen, meddai ef, "To be ready in my mind to go through the traffic in the city." Ffarweliais ag ef yn y dref gan nad oedd o ddim yn mynd i gyfeiriad yr orsaf, ac fe gredwn nad oedd yn bell i gerdded yno beth bynnag.

Yna canlyn Cerrig Llwyd y Rhestr, rhyw gramen o graig sy'n brigo i'r wyneb am ryw filltir, i Lyn Carw.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

Chwaraeai sboncen o leiaf unwaith yr wythnos, yn ystod ei awr ginio, a rhedai ddwy filltir bob bore cyn brecwast beth bynnag fyddai'r tywydd.

Yr oedd cyfarwyddiadau Emli'n burion: tro ar y chwith wedi mynd heibio'r eglwys, yna, ymhen tua dwy filltir, dyma'r Tarw Du i'r golwg, lle pur boblogaidd a barnu wrth nifer y ceir a oedd yn ei fuarth.

Yn union i'r gorllewin o Langefni, llifa'r afon am filltir neu ddwy drwy lwybr dwfn a throellog.

Dim ond rhyw filltir oedd yr eglwys honno o'r môr ac roedd yn hawdd i elynion ymosod arni o'r cyfeiriad hwnnw.

Cychwyn o Villa Vasto am un o'r gloch yn y prynhawn, a chael fy nghludo gan Americanwr cymwynasgar bob cam i'r Autostrada;~ Yn ystod yr ymgom fer rhyngom, dywedodd ei bod yn gwbl ddealledig na châi neb o'r milwyr Americanaidd, oedd wedi bod yn ymladd yn Ewrop, ei yrru i faes y gad yn y Dwyrain Pell.~erdded am bedair milltir o Torre Annunzato hyd o fewn dwy filltir i'r mynydd.

Ymhen rhyw filltir a hanner o Abergwesyn cyrraedd unigedd Cwm Irfon; Craig Irfon i fyny ar y dde ac afon Irfon islaw ar y chwith.

Ar yr wyneb, fe fydd y filltir neu ddwy nesa' trwy fideoland Sgiwen yn cadarnhau rhagfarnau: Does yna ddim byd o werth yng Nghwm-nedd heblaw am y rygbi - a byddai Crysau Duon Gareth Llewelyn yn glwb ceiniog a dime heblaw am gyfraniad ffermwyr ifanc cyhyrog Cymraeg o sir Benfro.

Gyda'i ddull lliwgar o adrodd stori a'i hymestyn o fodfedd i filltir, fe aeth yn rhan o'n chwedloniaeth, o'n traddodiad a mesur o'i ddylanwad ar gymdeithas yw fod ei straeon yn dal yn fyw, ymhell ar ei ôl.

Cytiau pren â tho sinc oedd y rhan fwyaf o'r tai ond, brin filltir i ffwrdd, roedd plasdai crand aelodau'r Llywodraeth.

Hoffwn i chi ddod gyda mi ar ochor y mynydd rhyw filltir oddi yma.

Ymhen dwy filltir a hanner mynd heibio i Dy'n-pant, cartref Evan Jones yr hynafiaethydd a roddodd gymaint o hanes yr ardaloedd hyn ar gof a chadw (Ceir casgliad ardderchog o'i lawysgrifau yn Amgueddfa Werin Cymru).

Yr oedd y bont fawr yn un filltir, un fil, saith gant a phum llath o hyd.

Carreg filltir yw blwyddyn newydd, cyfle i orffwys, cyfle i fyfyrio, cyfle i edifarhau, cyfle i ymadnewyddu.

Ymhen rhyw filltir dda, cyrraedd Carreg Rhita (Carreg yr Adar ar y map).

Man cyfarfod tri chwm yw Funtauna mewn gwirionedd ac y mae gwastadedd cudd Val Funtauna ei hun yn ymestyn am filltir dda tua'r gorllewin, yn null yr Hengwm ym mlaen Cwm Cynllwyd, braidd.

Ymhen rhyw filltir a hanner cyrraedd Carn Ricet ar y dde (efallai mai Carn yr Herwyr oedd yr hen enw arni).

Cerddodd y ddwy filltir a hanner o'r fflat i'r tū.

Mae ei ddyfodiad yn sicr yn garreg filltir: dyma'r sianel adloniant gyntaf gan y BBC mewn mwy na 30 o flynyddoedd ers lansio BBC Dau ym 1964; a'r bloc dwy awr o raglenni di-dor nosweithiol cyntaf yn Saesneg wedi eu gwneud yng Nghymru ar gyfer Cymru - gan bron iawn ddyblu cynnyrch teledu Saesneg BBC Cymru o fwy na 600 o oriau i 1,170 o oriau y flwyddyn. Mae cryn dipyn ohono'n rhaglennu byw.

O edrych oddi yno tua'r de fe welir y garnedd gerrig anferth ar ben Drygarn Fawr rhyw ddwy filltir i ffwrdd.

Wrth gwrs, nid pawb sydd o fewn cyrraedd i lyfrgell, ac mae'r Gwasanaeth yn darparu rhwydwaith o lyfrgelloedd teithiol ar gyfer y rhai hynny sy'n byw mwy na dwy filltir o adeilad llyfrgell.

Yr oedd cystadleuaeth y Goron ym Mhwllheli yn garreg filltir bwysig yn hanes barddoniaeth Gymraeg ac yn hanes yr Eisteddfod oherwydd dyma'r tro cyntaf erioed i gerdd vers libre ennill y Goron.

"Rhyw ddwy filltir," oedd yr ateb a'r plant yn dechrau cyffroi o feddwl eu bod ar gyrraedd.

Ymhen rhyw ddwy filltir o Abergwesyn daw terfyn ar y coed gleision yr ochr draw i'r afon a daw llechwedd noeth Cein Alltwinau, a'r gwrychyn o graig ar ei war, i'r golwg.