Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

filwrol

filwrol

Cyndyn iawn i gymryd rhan mewn unrhyw weithred filwrol fu'r Almaen ers ailuno'r wlad yn 1989 oherwydd y cof am ddinistr yr Ail Ryfel Byd.

Tybiais mai'r sefyllfa filwrol oedd yn gyfrifol am hyn, ond yna gwelais un o swyddogion y Cenhedloedd Unedig yn gwenu.

Fe'n hysbysodd ein bod i fynd yn ddiymdroi i fan arbennig yn y gwersyll lle'r oedd unedau o ddirprwyaeth filwrol wedi ymgasglu.

Nid wyf yn un o'r rhai hynny sy'n ymatal rhag protestio yn erbyn anghyfiawnder a gormes trwy ddadlau mai dyna sydd i'w ddisgwyl mewn trefn filwrol.

Wedi cael lle i adael y car, dyma sylweddoli ein bod newydd osgoi cael ein dal ynghanol gorymdaith filwrol, gyda thanciau, yn arwain o'r barrics i ganol y dref.

Mae i Edward yn Hedfan yr ymdeimlad o ymdeithgan filwrol.

Fe ddylen ni fod yn ddiogel felly rhag unrhyw derfysgaeth o du'r Palestiniaid, ac i mewn â ni ar fore Sul, heibio i'r rheolfa filwrol ar gyrion y dref.

Yma hefyd ceid canolfan fawr filwrol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr oedd ei ewythr Wil yn dal i fyw yn Rhosaeron (gwr y lluniais ysgrif arno i'r Genhinen gyfredol, 'Ei ewythr Gwilamus'), ac yr oedd yn filwrol ei gydymdeimlad.

Wrth i mi raddio o Academi Filwrol Merched Libya, tybiais fod y cyflwyniad wedi cael ei lwyfannu er mwyn cyflwyno neges arbennig - ymddiheuriad, efallai, am fod y wlad wedi tynnu'r fath elyniaeth i'w phen.

Yr oedd hefyd yn filwrol ei gydymdeimlad ac wedi brifo teimladau Waldo droeon drwy ddweud pethau cas ynghylch ei basiffistiaeth, ac wedi gweithio'n ei erbyn ar y pwyllgor addysg i'w ddiswyddo.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Mewn gwirionedd, felly, '-oedd Churchill a Haldane wedi gosc~d Trefn Filwrol ar y wlad - heb i Fesur i'r perwyl hwnnw fynd trwy'r Senedd.

Aethpwyd â ni un noson i seremoni wobrwyo yn yr Academi Filwrol i Ferched.

Dyna un esboniad pam y ces i fy hun yn eistedd ym mhabell y Cyrnol Gadaffi wrth draed y dyn ei hun - a chael gradd gan Academi Filwrol Merched Libya .

amgylchiad ffatri rhyfel yn Nhre-cwn, amgylchiad gorfodaeth filwrol, etc.

Golygai hyn hefyd wadu hawl unrhyw wlad arall, megis Lloegr, i orfodi'r Cymry i'w gwasanaethu'n filwrol.

Fe gymrodd hi ryw dridiau ar ôl glanio yn Ankara i groesi Twrci a symud o un ganolfan filwrol i'r llall cyn y gallwn gael hofrennydd i'r mynyddoedd.