Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

filwyr

filwyr

Fel ym mhob brwydr, rhaid i'r cadfridog doeth ymosod ac amddiffyn yn dactegol, a rhaid iddo drefnu ei fyddin yn y fath fodd, fel bod ei filwyr yn ymosod ar y mannau gwan yn amddiffynfa'r gelyn.

Mae ganddo fosg ar gyfer ei deulu a'i gyd-filwyr y tu mewn i'r barics yn Tripoli.

Rhywbeth pell oedd y rhyfel ac ni bu rhyfela yng Ngwynedd er dyddiau'r hen frenin John pan fu raid i'w filwyr fwyta cig eu meirch ar lannau afon Conwy.

Yn aml fe gafodd y Chwaer Jean ei dihuno gan filwyr arfog ganol nos a'i chroesholi am eu bod nhw'n amau ei bod hi a'i chyd-weithwyr yn rhoi lloches i'r FMLN.

Dangosodd James Evans nad oedd y meirwon wedi marw ac y byddent yn codi o'u beddau, yn union fel y golygfeydd hynny o filwyr yn atgyfodi yn ffilm Abel Gance, J'accuse, ym 1919.

Rhannodd Gideon ei filwyr yn dair mintai a rhoes utgorn a phiser yn llaw pob dyn.

Fodd bynnag, ar hyn gwelais filwyr yn gadael eu paciau ac yn mynd heibio rhyw gornel ac mi euthum innau i edrych i ble'r aent.

A dyma gatrawd o filwyr - dim ond iti eu taro â'r wialen hud 'ma, fe ymladdan nhw fel milwyr byw.'

O, roedd llawer iawn o filwyr dewr wedi colli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw!

Yn yr awdl hon mae'r bardd yn dychwelyd at y thema gyfarwydd o filwyr dau Ryfel Byd yn aflonydd yn eu beddau am fod yr heddwch eto yn fregus dan gysgod y bom.

Doedd presenoldeb ein camerâu'n dychryn dim ar filwyr Israel.

Ac o hyn ymlaen, bydd pawb yn Libya yn filwyr beth bynnag.

Byddai'r Dug hwnnw'n cyfeirio at ei filwyr fel 'scurn of the earth' ac mae'r darlun yn ei gyfrol yn ategu hynny i'r eithaf.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Rhyfel Vietnam yn gwaethygu wrth i awyrennau America ymosod â bomiau ac wedi i 53,500 o filwyr gael eu hanfon i'r wlad.

Aeth i fyw i'r mynyddoedd gan ymuno â'r cyrch- filwyr a drigai yno ac a oedd yn gwneud eu gorau glas i herio'r unben.

Oblegid creodd gatrodau o feirchfilwyr arfog, a wibiai'n gyflym ar draws gwlad gan beri dinistr i filwyr traed araf y Saeson.

Yn ôl ein cyfieithydd, mae e'n ychwanegu y bydd yna filwyr a phlismyn o hyd, ond y bobl fydd yn eu rheoli.

Honnodd un cadfridog eu bod wedi llwyddo fwy nag unwaith i lanio timau bychain o filwyr yng Nghuba er mwyn llosgi cnydau siwgr a llofruddio swyddogion llywodraethol.

Ddydd Sul cafodd bachgen Palesteinaidd 14 oed ei saethu'n farw gan filwyr Israel wrth ymyl croesfan i Lain Gaza.

Danfonodd Arthur filwyr i'r coed, ond methwyd â gorchfygu Trystan.

Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.

Eisoes, roedd y bugeiliaid ar y bryniau pellaf wedi rhuthro'n ôl i'r dref gyda'r neges arswydus bod byddin anferth ar ei ffordd tuag yno, Cannoedd, os nad miloedd o filwyr.

Mae'r llinellau o gerrig yn Karnag yn debyg i rengoedd o filwyr ac yn ôl un stori, byddin o filwyr paganaidd yn bygwth un o'r hen seintiau Celtaidd oeddent yn wreiddiol.

650,000 o filwyr y Cynghreiriaid wedi marw ym Mrwydr y Somme erbyn diwedd Tachwedd.

Rhyfel Vietnam yn gwaethygu wrth i awyrennau America ymosod â bomiau ac wedi i 53,500 o filwyr gael eu hanfon i'r wlad.

Picton Philipps ar yr Uchgapten Stuart i ddanfon mintai fwy o filwyr i'r groesfan, ac felly dyma Gatrawd Caerwrangon yn brasgamu ymlaen a'u bidogau wedi eu gosod ar enau'r drylliau.

Yna arweinwyd fi at yr ystanc trithroed, a thyrfa fawr o filwyr arfog yn fy amgylchynu.

Mae Prif Weinidog Ethiopia Meles Zenawi wedi proffwydo y bydd y rhyfel ar ben o fewn ychydig o ddyddiau wedi i'w filwyr ennill tir yn gyflym yng nghyffiniau Zalambessa.

"Y mae cannoed ar gannoedd o filwyr Prydain ar y traethau yn Dunkirk.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Ymdeithiodd bron hanner cant o blismyn i'r groesfan, gyda gosgordd o filwyr.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr William Hague wedi beirniadu cynlluniau i gynnwys miloedd o filwyr Prydeinig fel rhan o lu ymateb cyflym Ewropeaidd.

Y bwriad yw cael 60,000 o filwyr fyddai ar gael i ymateb o fewn 60 diwrnod pe bai raid.

Mae milwyr Israel wedi arestio 15 o aelodau o filisia Fatah ar amheuaeth eu bod wedi ymosod ar filwyr a phobol Israel.

Un sydd wedi gweld effeithiau creulondeb Saddam Husssein a'i filwyr â'i lygaid ei hun yw Cwrd ifanc - Kamarin - sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mewn Saesneg huawdl, disgrifiodd sut y cafodd pedwar cant o bentrefwyr eu lladd gan filwyr Saddam.

Fyth oddi ar hynny bu ei ddiflaniad yn boen meddwl i'w deulu ac yn ddirgelwch i'w gyd-filwyr a'i lu cyfeillion.

Nid hon yw'r ffordd orau, ond gan fod Naferyn a'i filwyr yn crwydro'r wlad mae'n well i ti beidio â theithio ar hyd y briffordd.

Ym mrwydr Baddon fe ddywedir iddo ef ei hun ladd naw cant a thri ugain o filwyr y gelyn.

Yn ôl un o'i ffrindiau, roedd milwyr hunangyflogedig o Yemen, y Sudan, a hyd yn oed Iorddonen, yn rhan o fyddin Iraq, gan fod cymaint o filwyr Saddam wedi ffoi am eu bywydau.

Nid lle'r gohebydd yw arwain ymgyrch heddychwr yn erbyn rhyfel ond, os oes miloedd o filwyr ifanc yn debyg o golli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw, fe ddylai'r llywodraeth a'r bobl adre' wybod hynny.

Roedd torf fawr arall yn Khan Younis ar Lain Gaza yn angladd protestiwr ifanc gafodd ei ladd gan filwyr Israel.

Erbyn i ni fod yno, roedd mil o bobl wedi'u lladd, y rhan fwya'n Balestiniaid, wrth i fechgyn ifanc a llanciau daflu cerrig a bomiau petrol at filwyr Israel a chael eu saethu am eu gwaith.

Docwyr a llongwyr ymysg streicwyr yng Nghaerdydd a 500 o filwyr yn cael eu galw i gadw trefn.

"Ond mae'r rhain yn filwyr profiadol..."

Ymunodd â Milita Sir Gaernarfon ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf a dyma ddechrau cyfnod o deithio fel un o filwyr byddin Dug Wellington yn ystod rhyfeloedd Napoleon.

Ddydd Llun mae disgwyl y bydd y llywodraeth yn cyhoeddi y bydd 20,000 o filwyr yn rhan o'r llu.

Wedi ennill y frwydr yn yr awyr, daeth y rhan fwyaf o filwyr Prydain yn ôl yn ddiogel o Dunkirk.

Ei gwaith hi bellach oedd cysuro teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd gan filwyr y sgwadiau marwolaeth.

Hwyrach eu bod yn gyn-filwyr a bod cynllunio cyfrwys yn rhan o'u cynhysgaeth.

Yr orsaf ei hun yn llawn o filwyr Americanaidd ar eu ffordd o faes y gad i wersyll gorffwys.

wedi ymsefydlu yn y tai gorau ac yn orlawn o filwyr.

Mae'n wir y sonnir am dyrfa o filwyr, am gefnogaeth gref y chwarelwyr, ac am yr awyrgylch gynhyrfus yn gyffredinol.

Yn wreiddiol, roedd y Palesteiniaid wedi sôn am gael 2,000 o filwyr y Cenhedloedd Unedig i gadw'r heddwch ar y Lan Orllewinol a Llain Gaza.

Roedden nhw mor agos a gwyddai'n iawn fod yr ychydig gannoedd o filwyr y Senedd a oedd yn y castell yn dyheu am ei weld ef a'i fyddin.

Yna gweli ddau o filwyr Naferyn yn straffaglio i dynnu cwch bychan allan o'r dŵr.

Roedd wedi anghofio'n llwyr mai yno ar orchymyn yr oeddynt a bod rhes o filwyr arfog y tu ôl iddyn nhw.

Ond anfonodd yr Almaen filwyr i Kosovo y llynedd gan esgor, felly, ar drefn newydd.

Neu'r Ddiod Wurthiol fel yr oedd y Sbaenwyr yn ei galw - am ei bod yn rhoi digon o nerth i filwyr fartsio am ddiwrnod cyfan.

Cryfhaodd y gred wedi i nifer o filwyr gael eu saethu ar ôl i dri danio tair sigare/ t o'r un fatsen.