Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

finio

finio

Fel rheol ar ôl i dwll fel hyn gael ei saethu mae angen llnau wyneb y graig, gan fod cerrig wedi symud ond ddim wedi dod i lawr, felly rhaid i'r ddau ddyn fynd i lawr ar y rhaff eto hefo darn o haearn crwn rhyw bedair troedfedd o hyd wedi ei finio yn un pen, yr hwn a elwir yn drosol.

Wedi penderfynu lle'r oedd y twll i fod, roedd un dyn yn dal ebill haearn, wedi ei finio fel diemwnt, a'r llall yn taro'r ebill, ac yntau yn ei droi ar ôl pob trawiad.

Malwyr y gelwid y dynion hyn; yr oedd ganddynt ordd fawr yn pwyso rhywbeth o un pwys ar bymtheg i un pwys ar hugain; math o erfyn oedd hwn a chanddo un pen fflat a'r pen arall wedi ei finio, a choes bren ryw ddwy droedfedd o hyd iddo.