'Roedd popeth mor binco, a finna mor nerfus rhag gneud dim o'i le; y canlyniad i mi droi cwpanaid o de am ben y llian.
Mae gennyf gof fel y byddai mam a finna yn galw yno lawer i nos Sadwrn i gael torth fawr, a chael paned o de ar y bwrdd bach crwn, a byddai y Beibl ganddi ar y silff pen tan, ac yn hongian byddai Almanac Robert Roberts Caergybi, a llyfr cyhoeddiadau y Methodistiaid Calfinaidd (roedd hi yn ofalus iawn o'r achos).
"O," meddai'r gweinidog, "finna wedi ofni mai doctor oedd o!" Gweinidog arall, Parch.
'Fyddwch chi ddim angan swpar felly?' 'Ga'i damad efo Miss Willias, unwaith bydd yr hwch a finna' wedi landio.' 'Ffansi.'
Begw a finna' sy'n byw yn yr hen le bach 'na ar y terfyn i chi.
"Wyt ti'n clywed rhywbeth?" "Nac ydw i." "Na finna' chwaith." "Sandra, pam rwyt ti'n sibrwd?" gofynnodd Joni, gan ddal i wneud hynny ei hun.
'Roedd yr hyn ddigwyddodd wedyn fel ffars Brian Rix; nhad yn neidio o'i wely, y tŷ'n ysgwyd, drws ystafell gysgu mam a nhad yn agor a chau, drws ystafell gysgu ni yn agor, yr ystafell fel bedd, Wili a Glyn yn y gwely mawr yn cuddio o dan y blancedi a finna yn y gwely bach un lygad ar agor yn gwylio'r digwyddiadau, a gweld nhad un llaw yn dal y 'long johns' i fyny a belt yn y llaw arall yn colbio'r gwely.
Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.
Yn amser y Diwygiad, mewn sgwrs a Pitar Wilias, un o wyr amlwg y pentra, ynglyn a chrefydd, fe ddwedodd Rondol wrtho, 'Dwi ddim yn ama na fedrwn i arwain fy hun i ymuno a'r Bedyddwyr pe bawn i'n gwybod y cawn i drochfa mewn cwrw' 'A finna' meddai Begw.
Mi 'roedd o wrth ei fodd yn eu dynwared, yn siarad a symud, a finna wrth fy modd yn gwrando ar bob sill, a sylwi ar bob symudiad.
Glaslyn Williams cynreithor Gwalchmai a Cherrigceinwen - pan oeddem yn hogia, fo oedd Glyn Siop Blac a finna oedd Tom Brynteg.
'Diawl, tydyn nhw'n ddau o betha' del, hogia.' 'Wel o leia', 'ngwas i, ma'r hwch yma a finna' yn dal hefo'n gilydd.'
"Digon chydig," medda finna.
Tori mawr ydy o, a finna erbyn hyn wedi troi at yr Islamiaid, a'r diwrnod o'r blaen, pan ddois i i'w wynab o, roedd fy matin gweddi gen i yn un rholyn o dan fy nghesail, a dyma fo'n dechra fy nghymryd i'n ysgafn ar ei union, a gofyn pa bryd yr oedd y Proffwyd wedi bod acw ddwaetha i de.
mi roith Pero a finna wth i chi." Rhoddodd Elis Robaitsh holl rym ei bymtheg stôn y tu ôl i'r car a dechreuodd hwnnw dishian a thagu yn ffyrnig.
"Yes Sir" medda finna.
'Fasa' hi'n rwbath gynnoch chi, Ifan Ifans, i fynd â'r hwch 'ma a finna' heibio i Gerrig Gleision?
'Dal ar y cyfla ro'n i, Pyrs, i ga'l gair bach efo fy Nhad nefol.' 'A finna'n fa'ma, â chymaint o bwn gin i â bastard mul Nant Pwdin ar noson ffair.' 'Rydan ni yn ca'l ein hannog yn y Beibl i weddi%o'n ddi-baid.' 'Ydach, mi wn.
'A finna hefyd' meddai Rondol gan dynnu leinin ei boced allan.
"Does dim ond isio i ti edrach ar Groeslon y King," medda fo, "i sylweddoli beth maen nhw'n neud yn y fan honno er dy fwyn di." "Gwrandwch," medda finna.
Mae'n siŵr y gwyddoch chi, fel finna, am rai nad ydyn nhw byth yn chwerthin.
'Tasa hi'n ola' dydd a finna' ar 'y nhraed, mi faswn i'n 'nabod Pen Cilan 'ma fel cefn fy llaw.' 'Wel diawl, gwaeddwch os gwelwch chi o yn rwla.' 'Mi 'na i, Ifan Ifans.' Oherwydd eu difyrrwch wrth weld hwch a'i pherchennog yn eistedd yn y sêt flaen bu'r teithwyr yn hir cyn sylweddoli bod y Paraffîn wedi cymryd tac gwahanol a'u bod bellach yn pellhau oddi wrth y pictiwrs yn hytrach na dynesu ato.
A dyna finna yn syth yn syrthio i'r trap o'u labelu yn 'wahanol'.
Pedwar ohonom ar silff fechan uwchben y dwr, a finna' hanner i mewn drwy'r lle cyfyng 'ma.
'Ia ia, a finna'n nabod neb'.
Lyci nhw, medda finna.
dwn i ddim.' 'Efo'r un bus â finna' 'te.
Doedd 'na ddim swydd ar gael a finna wedi priodi Saesnes heb ddim i ddeud wrth Gymru, a'r plant yn Saeson." "Dy fai di ydi hynny." "Ia, ia.
Ers dyddia' mi dwi wedi bod yn edrych ymlaen at gael bod yn rhydd oddi wrth Lisi a Defi John, ond pan oeddan ni'n cychwyn, a finna'n chwifio fy llaw ar Mama a nhwtha yn sefyll yn y giât, O!
Rhyw ddrama fach roedd Glyn a finna wedi'i pharatoi oedd honna rhag ofn i Ffransis ddwad ar ein gwartha.