Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fintai

fintai

Roedd hefyd yn rhan o'r fintai a gymerodd ran yn ymosodiad y Bay of Pigs, ond methodd ei gwch â chyrraedd y lan.

Arweinydd milwrol, bid sicr, a phennaeth ar fintai o ymladdwyr symudol a gwibiog, ond nid cadfridog yn gwasanaethu gwladwriaeth sefydlog a threfnus; yn hytrach, anturiwr, treisiwr, ysbeiliwr, yn ymladd nid yn unig yn erbyn y Saeson ond hefyd yn erbyn ei gyd-Frythoniaid.

Teimlai hwnnw'n ofnus oherwydd gwyddai mai neges annerbyniol iawn oedd ganddo i'w rhoi, ond dywedai wrtho'i hun mai nid ei fai e oedd fod llawer o'r ceffylau yn y fintai naill ai wedi, neu ar fin colli eu pedolau.

O'r cwmwd aethom dros y bencydd a'r rhosydd yn fintai fechan o blant o bedwar cartref i'r ysgol, lle'r agorwyd inni feysydd a bydoedd newydd o oleuni.

Bu'r fintai fach yn disgwyl am ysbaid go dda cyn clywed y bolltiau'n cael eu hagor.

Rydw i wedi pregethu a darlithio i gynulleidfaoedd mawr a bach ond dydw i erioed wedi cael cynulleidfa yn gwerthfawrogi cymaint â'r fintai yma o ffoaduriaid o Iran.

Talfan ar y blaen yn poeri fel cath, a'i fintai filwriaethus yn nyddu o'i gwmpas fel newyddiadurwyr o gwmpas eilun pop.