Heddiw rhaid inni ddeall fod rhagfarn wrth-Gymreig y blaid Lafur mewn rhai rhannau o Gymru-Morgannwg Ganol, er enghraifft - yn deyrnged uniongyrchol i'n cynnydd ni, gan fod rhaid i Lafur ystyried cenedlaetholdeb Cymreig fel gelyn gwleidyddol o'r radd flaenaf.
Rhoddwyd gwasanaeth newyddion BBC Radio Wales ar brawf - a dangoswyd ei fod yn wasanaeth o'r radd flaenaf - pan ddaeth yr arweinwyr cenedlaethol i Gaerdydd yn ystod mis Mehefin ar gyfer Cyngor y Gweinidogion Ewropeaidd.
Ac yntau'n ysgolhaig o'r radd flaenaf, yn ieithydd penigamp ac yn arbenigwr ar Gerdd Dafod, ni allai'r Brifwyl wneud hebddo.
Fel tithau, rown i'n casa/ u ei wledda gyda'r mawrion, a'i awydd hefyd i fod yn flaenaf ym mhob peth.
Williams a drosodd The National Being i'r Gymraeg ("Y Bod Cenhedlig"), canys yr oedd ychydig egwyddorion elfennol, eglur yn ddigon iddo ef, a ystyriai weithredu gwleidyddol yn ddyletswydd flaenaf.
Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.
Fodd bynnag, dathlu gwyl ein nawddsant oedd yn flaenaf ym meddyliau criw a ddaeth ynghyd y tu allan i senedd-dy'r wlad am wyth o'r gloch ar fore Mawrth 1 - gryn ddeng awr o'n blaenau ni yng Nghymru.
Ym myd chwaraeon, cafwyd egni ar y sgrîn a newyddiaduraeth o'r radd flaenaf gan Geoff Collins, Laura Watts a Delyth Morgan, gan gynnwys cyfweliadau gyda Graham Henry a Vinnie Jones a darllediadau estynedig o gêmau byw na ellid eu cynnwys ar y sianeli analog.
Profodd y gyfres danbaid hon ddawn Cymru, heb amheuaeth, i gynhyrchu drama gyfareddol o'r radd flaenaf.
Yn wir yr oedd yn gymeriad anghyffredin yng nghefn gwlad Cymru yn y cyfnod hwn, yn radical o'r rheng flaenaf ac yn sosialydd o'r un garfan a William Morris.
Gofidiau eraill oedd ar feddwl Thomas Horton; agwedd Sgweiariaid Brycheiniog yn flaenaf.
Yr ydym yn deall yn burion beth yn hollol a feddylir pan sonnir am fardd o'r radd flaenaf: cyfeirio yr ydym at unigolion cwbl unigryw megis Goethe neu Ddafydd ap Gwilym.