Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

flaenorol

flaenorol

'Roedd John Evans yn sôn am yr argae a foddodd bentref Llanwddwyn yn Sir Drefaldwyn yn wythdegau'r ganrif flaenorol er mwyn cyflenwi Lerpwl â d^wr.

Yn ôl y Rhagair, ymgais ydyw i gyflwyno rhai agweddau ieithyddol heb ragdybio unrhyw wybodaeth flaenorol.

'Roedd Cymru yn Gymry frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diwedd y ganrif flaenorol a degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Roedd pedwar o'r gweddill wedi mynd i ffwrdd dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd ac nid oedd gan y ddau arall, gweddw a oedd wedi torri pob cysylltiad â'r byd ers i'w gŵr farw bymtheng mlynedd ynghynt, a hen lanc nad oedd Vera ond wedi bod yn gweithio iddo er mis Awst y flwyddyn flaenorol, ffôn yn eu cartrefi.

roedd pleidwyr heddwch yn wrecsam wedi trefnu i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ystod yr wythnos flaenorol yng nghapel y methodistiaid calfinaidd, stryd yr abad.

Dyna paham y mae'n arferiad i ddangos yn y cyfrifon y ffigurau cyfatebol am y flwyddyn flaenorol, ac yn wir bydd llawer o gwmni%au cyhoeddus yn ychwanegu tablau o ffigurau allweddol dros gyfnod o, efallai, ddeng mlynedd.

Cyfarwyddwn y senedd hefyd i ystyried yn flynyddol gynnig unrhyw ddiwygiadau trefniadaeth gan yr ystyriwn fod datblygiadau o'r fath yn arwyddion o gymdeithas fywiog sy'n ymateb i sefyllfaoedd newydd yn hytrach nac yn adlewyrchiadau o broblemau yn y drefn flaenorol.

Fel yr wyf wedi disgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn oed pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr.

Yr un fuasai'r effeithiau ar lwyni addurnol hefyd sydd a'u tlysni yn nhyfiant y flwyddyn bresennol megis BUDDLEIA DAVIDII, CORNUS RHISGL COCH, HELYG ADDURNOL, ac eraill, neu lwyni a blodau ar dyfiant y flwyddyn flaenorol megis RIBES (cyrens blodeuo), ambell SPIREA ac ambell BERBERIS, a.y.b.

Enillodd Pedrog y Gadair am awdl ddiflas hir yn nhraddodiad y ganrif flaenorol.

Yr wyf wedi dweud mewn pennod flaenorol na welais gyffelyb Abel am adnabod calon dyn.

Yr ail oedd Robat Powel, Prifardd cadeiriol y flwyddyn flaenorol.

Does dim ond angen astudio teitl ambell i gân ar yr albym flaenorol, megis Un Gwydryn Bach a Cân y Crôl, i sylweddoli eu bod yn delio gyda bywyd myfyrwyr yn bennaf.

Roedd gan hyn gysylltiad uniongyrchol â'r ffaith fod Menem wedi treulio'r noson flaenorol, heb ei wraig, yng ngwesty'r Alvear Palace.

Yn ystod cyfnod yr alltudiaeth, adferwyd nifer helaeth o ddeddfau llym y ddwy ganrif flaenorol, yn enwedig y rheini oedd yn ymwneud a lladrata - trosedd a fu'n gyfrifol am alltudio cyfran helaeth o'r carcharorion a gludwyd i Awstralia.

Diau ei fod wedi troi i ddarllen yr hyn a ddywedid am y plwyf yn yr argraffiad newydd o Britannia William Camden a gyhoeddasid y flwyddyn flaenorol.

Ysgogwyd y tri i sefydlu'r Seren Ogleddol gan newid a ganfuwyd ganddynt ym mholisi golygyddol Seren Gomer, llais y Radicaliaid yn ystod y pymtheg mlynedd flaenorol.

Er enghraifft, y cwestiwn cyntaf a ofynnwn am gwmni yw pa faint o elw y mae wedi ei ennill, a sut y mae hwn yn cymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Datrys cyfyng-gyngor Enid a chywiro bywyd Geraint yw mater y 'rhamant'; dyna bwnc y drydedd adran y mae'r ddwy flaenorol wedi bod yn arwain ato.

''Dyn nhw wedi symud Pwllheli ne' rwbath?' ''Da ni wedi talu am gal mynd i weld - The First of the Few.' 'Do'n tad.' 'Nid i fynd â hwch Beudy'r Gors at bae.' 'Ifan Paraffîn dreifar sybmarîn.' 'Petha' ifanc 'ma wedi mynd yn gegog, Ifan Ifans,' sylwodd William Huws a ddioddefasai'r un o math enllib yn flaenorol.

Fe gafodd ei dwy nofel flaenorol, Fory Ddaw ac Adlais, groeso brwd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ac yn bendant fe gaiff y nofel hon yr un croeso.

Fe ddechreua Just Enough Education to Perform yn yr un modd yn union â'r albym flaenorol, wrth i'r gerddoriaeth gynyddu'n raddol nes ffrwydro tua munud wedi i'r trac agoriadol, Vegas Two Times, ddechrau; ond yr hyn sy'n fy nharo i wedi'r ffrwydrad hwn yw pa mor debyg i gerddoriaeth Aerosmith yw'r gân yma.

Fel y gwelsom yn y bennod flaenorol, mae'n dra thebygol fod yn well gan y mwyafrif o'r trigolion gynt fynychu'r Twmpath Chwarae ar y Suliau, yn hytrach na mynd i'r Eglwys.

Trychinebau.' 'Trychinebau o law dyn a natur fel ei gilydd.' 'Ond sut gallsai pethau ddirywio mewn amser mor fyr ag oes dyn?' 'Sut gallsai pethau gynyddu o fewn yr un terfynau amser yn ystod y ganrif flaenorol?' Synnodd Mathew at rym ei ddadl.

Yr olygfa yw ystafell athrawon mewn ysgol uwchradd rywle yng ngogledd Cymru ac un o golofna'r achos, ganol y bore, o'i gadair freichia', wrth dynnu ar 'i getyn, yn rhoi ei linyn mesur ar raglenni teledu'r noson flaenorol: 'Wel'ist ti Leila ni neithiwr?' 'Leila?

Darganfu nad oedd yn gallu dygymod â'i duedd flaenorol i gondemnio Eglwys Rufain am ei llygredd a gwendidau eraill, a gofynnai iddo'i hun tybed ai yr eglwys honno yn unig oedd yn ddigon cryf i amddiffyn crefydd yn erbyn ymosodiadau'r rhyddfrydwyr seciwlar.

Roedd catharsis y noson flaenorol wedi gadael ei ôl, fodd bynnag; cleisiau glasddu a chlwyfau dwfn ar ei ddyrnau a'i goesau, ond eisoes roedd ei system fetabolig gyflym yn gweithio'n ddiwyd i ddileu'r rhain.

Doeddwn i ddim yn or-hoff o'r syniad o gynnal parti unwaith y mis i bob plentyn oedd wedi cael pen blwydd yn ystod y pedair wythnos flaenorol!

Ni pharhawyd i wneud hynny yn arbennig gyda'r ddau gyntaf enwais, gan eu bod yn cynhyrchu ei ffrwythau ar dyfiant y flwyddyn flaenorol, hwnnw yn cael ei docio ar ôl ffrwytho gan ddisgwyl fod digon o dyfiant newydd yn cael ei gynhyrchu bob haf, trwy wrteithio priodol, i gymryd ei le.

Y mae'r albym yn ddatblygiad o'r un flaenorol a mae'n dilyn yr un traddodiad o greu caneuon gafaelgar sydd mor nodweddiadol o gerddoriaeth Maharishi.

Olrheiniwyd twf a datblygiad yr enwadau ymneilltuol yn nyffryn Aman yn y ddwy bennod flaenorol, wrth fynd heibio, megis, ac yn y bennod hon ceisir dangos sut y magodd y gweinidog a'r pregethwr ddiddordeb mewn llenyddiaeth, ac mewn barddoniaeth yn fwyaf arbennig.