Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

flaenorwyr

flaenorwyr

Pwrpas y rhan hon o'n llith ydyw dangos fod cytundeb rhwng ysgolheigion ynglŷn â dyled uniongyrchol neu anuniongyrchol Dafydd ap Gwilym i'r Trwbadwriaid (neu'r Trwferiaid) cyn i T Gwynn Jones sôn am ddyled y Gogynfeirdd iddynt, a bod rhai o'r ysgolheigion, megis W J Gruffydd a Lewis Jones, yn awgrymu mai trwy ddyled ei flaenorwyr yn y traddodiad llenyddol Cymraeg i'r Trwbadwriaid yr oedd Dafydd yn ddyledus.

Pa wedd bynnag am hynny, yr oedd rahid i bawb deallus gydnabod nad oedd Dafydd ap Gwilym yn sui generis yn llenyddiaeth Ewrop, hyd yn oed os oedd yn ymddangos fellyn yn llenyddiaeth Cymru, ond fel yr oeddid yn dod yn fwy hysbys yn llenyddiaeth y cyfnod a flaenorodd ei gyfnod ef, deuai'n fwyfwy tebygol fod rhai o wreiddiau barddoniaeth serch a barddoniaeth natur Dafydd ym marddoniaeth ei flaenorwyr, sef ym marddoniaeth y Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion, ac y gallai fod y dylanwadau cyfandirol y mae'n bosibl dadlau eu bod i'w gweld yng ngwaith Dafydd, mwen gwirionedd, yn rhai a effeithiodd ar farddoniaeth ei flaenorwyr.