Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

foch

foch

Datblygu o'r coed cyntefig yma, efo'i dail fel nodwyddau a'i ffrwythau yn foch coed, wnaeth y coed llydan eu dail.

Creodd Gwydion geffylau, cŵn a chyfrwyau drwy hud a lledrith er mwyn twyllo Pryderi a dwyn ei foch.

Sylwodd yn sydyn ar bloryn pen gwyn yn y plyg rhwng ei drwyn a'i foch.

Mi wn i lot am foch).

Mae Caerffili, er hynny, wedi gofyn i D.R.Davies edrych ar sawl digwyddiad gan gynnwys un pan gafodd y cefnwr Chris John anaf i asgwrn ei foch.

Wrth weld 'y fath olwg ddiafolaidd anifeilaidd' ar ei thad, teimlai Winni fel 'ei lindagu a gwasgu ei gnawd nes byddai yn sitrws fel tatws drwg wedi eu berwi i foch' (Haul a Drycin).

Gwlychodd y bys lolipop yn ei cheg a'i rwbio fo ar ei foch nes oedd y croen yn goch.

A'i foch yn curo'n boenus, edrychodd Gareth o'i amgylch.

'Paid â bod yn grinc,' meddai Nel yn closio ato fo ac yn sychu tamad o lwch o'i foch hefo bys sidanaidd.

Fel ei mam, Huana, yr oedd Gwenhwyfar yn dlws a llywethau'i gwallt du yn disgyn yn drwm dros ei hysgwyddau a'r ddau lygad fel dwy eirinen yn las tywyll uwch dwy foch goch.

Nid fod y gwely hwnnw'n berffaith, oherwydd gan ei fod yn bren gwnâi gartref di-ail i bryfed bychain braidd yn debyg i foch coed.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Merched fyddai'n ffoli ar foch cwta, cathod a physgod aur.

Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?

'Mi faswn i'n stwffio fy mysedd i'w ben o nes y byddai ei ddau lygad o'n hongian hanner ffordd i lawr ei foch.

Does dim dwywaith fod William Owen Roberts yn gallu trin geiriau, yn gallu dweud pethau bachog â'i dafod yn ei foch, ac yn deall rhythm a rhediad brawddeg.

Tarodd gusan ffurfiol ar ei foch, a'i holi ynglŷn â'r rhaglen, cyn mynd ymlaen i bwysleisio'i golled.

Gan ddal yn dynn yn llyw'r car â'i law dde, trawodd Adam Gareth yn galed ar draws ei foch â'i law arall.

'Ia iawn,' meddai hithau gan daro cusan fach ar ei foch.

Ymateb Schneider oedd dadlau mai annigonol oedd hyn a datganodd, a'i dafod yn ei foch, nid yn unig ei barodrwydd i ufuddhau i'r gweinidog addysg Eduard Pestel ond hefyd ei gariad tuag ato.

eisteddodd y dyn a gwelodd debra ei fod e'n olygus, ond gyda hen graith ar ei foch.

Tyfai blewiach brith o dan ei drwyn a edrychai fel mwstash heb ei wrteithio'n iawn, ac ar waelod ei ddwy foch roedd cysgodion pinc a roddai ffurf anghynnes i'w wyneb.