Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

foddhad

foddhad

'Dwn i ddim pam, ond roedd o'n cael rhyw foddhad sadistaidd yn fy mhoeni.

Yn wir, er gwaethaf neu oherwydd y gwaed oedd yn pistyllio o'm trwyn, mewn dau funud roedd fy mhen-glin chwith yn gwasgu ar gorn-gwddw fy ngwrthwynebwr, a chawn foddhad neilltuol o weld y croen o dan ei lygaid yn twitsian yn nerfus, cynyddai fy mwynhad am fod haid o blant o'n cwmpas rŵan yn sgrechian eu gwerthfawrogiad.

Yn bendant mae Sbardun yn ddefnyddiwr ganolog.Mae'r berthynas uniongyrchol rhwng y gwasanaethau a'r defnyddiwr yn cychwyn gyda mynegiad o'r angen, a rhaid iddo arwain mor agos ag sydd bosib at foddhad llwyr y defnyddiwr.

O'u nabod, rhoddodd ochenaid o foddhad.

Fe gymerodd fy nhad y cyngor ac mewn llai na chwe mis mi ddois ymlaen er mawr foddhad iddo.

Nid yw'n rhoi llawer o foddhad i ddarllenydd, a gwaith llafurus yw ei darllen.

Serch hynny, daeth bloedd o foddhad o gyfeiriad un ffariar.

Cafwyd camgymeriadau'n aml, bid siŵr, ond cafwyd munudau lawer o foddhad pur, cyffrous hefyd.

"Rydw i'n ofni mai prinhau mae'r Cymry sy'n câl y fath foddhad heddiw; mae cynifer o'r genhedlaeth iau wedi'u gwasgaru i bob rhan o'r byd a Saeson wedi dod yn 'u lle nhw.

Does dim yn y byd yn rhoi mwy o foddhad i mi na chychwyn ar siwrnai hir a gwybod y gallaf ymgolli'n lân rhwng cloriau llyfr da.

Cafwyd nosweithiau gwell hefyd er nad oedd unrhyw angerdd yng ngharu Dilys, dim ond rhyw gydsyniad heb foddhad amlwg.