Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

foddion

foddion

Ac yr oedd addysg yn foddion pwerus iawn i ddyfnhau ymdeimlad y Cymry fod eu hiaith a'u diwylliant hwy'n bethau israddol.

Bu hyn yn foddion iddo orfod dioddef oddi wrth gryd-y- cymylau weddill ei oes.

Bu'r helynt yn foddion i hyrwyddo cylchrediad y Traethodau i'r Amseroedd, fel y gellid disgwyl, ond cynyddodd y gwrthwynebiad i'r mudiad.

Ond trwy wneud hyn caiff ei longyfarch ei hun ei fod yn foddion achub ei genedl rhag marwolaeth, tra ar yr un pryd yn ei brysur ladd ei hun fel gwir lenor.

Bu'r llyfr yn foddion i'm hatgoffa o'r newydd fod rhywbeth reit drist o gwmpas gyrfa Christmas Evans.

Bu mater cyfreithiol, ymddangosiadol ddibwys, yn foddion i gychwyn y cynhennu a chododd cyn bod yr esgob newydd wedi prin gael amser i ddadbacio.

O fynd i oed mae tuedd mewn dyn i edrych yn ôl a byw ar atgofion sydd yn foddion cysur a mwynhad.

Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.

Daethant yn foddion i boblogeiddio mater a fuasai cyn hynny'n beth digon esoterig, a defniddiodd Gruffydd hwy fel bocs sebon, gan fynnu hawl draddodiadol yr areithiwr bocs sebon i osod gwrthrychedd o'r neilltu.

Yn wir, ni hidiai'r golygydd fotwm corn a gâi'r Ymofynnydd ei got yn ôl ar ei gefn ai peidio, oherwydd nad 'wrth ei glawr mae adnabod cylchgrawn', ac os y byddai gweld yr hen ŵr heb ei gôt 'yn foddion i rywun dynnu ei gôt a thorchi ei lewys', ni byddai neb yn hapusach nag ef.

O'r ochr arall, os awn i'r athrofa, o ba le y cawn foddion cynhaliaeth?

Bu llymder yr archesgob yn foddion i wneud y Piwritaniaid yn fwy ystyfnig.

Talodd am ei hur ac ychwanegu cildwrn bach crintach i'r gyrrwr siomedig, gan gofio'i addewid iddo'i hun nad afradai mo'i arian hyd nes sicrhau bod ganddo ddigon o foddion i ddychwelyd adref yn ddiargyfwng.

Bu talentau academaidd Edwin yn foddion i hwyluso ei hynt addysgol.

Iawn yw i arglwydd ennill clod a bod yn batrwm i'w farchogion, oherwydd nid gweithgarwch 'diffrwyth' mohono bellach gan ei fod yn foddion cyfoethogi 'ei lys a'i gydymddeithon a'i wyrda o'r meirch gorau ar arfau gorau ac o'r eurdlysau arbenicaf a gorau'.' Trwy'r adran hon gwelir yr awdur, ac mae'n debyg ei gynulleidfa a'i noddwr, yn ymhyfrydu ym mhasiant y llys, gloywder lliwiau a helaethrwydd anrhegion a gwleddoedd ac yn urddas gosgorddion 'yn wympaf nifer a welas neb erioed', fel na ellir peidio â sylwi ar ei ddiddordeb byw yn ystyr arglwyddiaeth a'r mynegiant gweladwy ohoni.

Yn un peth buont yn foddion i agor pyrth llenyddiaeth Gymraeg i filoedd o bobl a phlant.

Pan fo'r bywyd ysbrydol ar drai y demtasiwn fawr yw gwneud Iesu'n foddion i sicrhau unrhyw fendithion yr ydym yn dyheu amdanynt.

Mae'r ddwy gyfrol sy'n eiddo storiwyr a ddaeth i'r maes yn fwy diweddar, ar y llaw arall, yn arbennig o ddiddorol am eu bod yn ymddangos i mi fel pe bae'n nhw'n chwilio am foddion newydd i ddweud eu dweud am y byd newydd.

O gyfnod cynnar iawn ac mewn sawl gwlad credodd pobl fod yr ysgub yn foddion i ddiogelu'r cartref rhag y Diafol ac ysbrydion drwg o bob math.

A bu optimistiaeth gynhenid Curig Davies yn foddion i gynnal ysbryd ei bobl mewn dyddiau hynod dywyll.

Credwn bod sicrhau mwy o ryddid i gyfnewid syniadau rhwng addysg a busnes yn datblygu amgenach dealltwriaeth rhwng y ddau faes ac yn foddion i adeiladu partneriaethau llwyddiannus.

Cyd-drawodd penodiad Peate â dau ddigwyddiad ym mywyd diwylliannol Cymru a fu'n foddion nid yn unig i gadarnhau ei ddaliadau ynghylch hollbwysigrwydd cydwybod yr unigolyn ond hefyd i osod y daliadau hynny mewn cyd-destun Cymreig.

Bu'r cwrs addysg hwn yn foddion i'w wreiddio'n gadarn mewn diwylliant eang a chyfoethog.

Yr arwydd allanol amlycaf o hyn oedd pwnc yr Eisteddfod, lle y bu bwganod yr Orsedd a'r pwyllgorau lleol yn foddion i gymylu gwahaniaeth pwyslais ymhlith y cyfranwyr.