Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

fodel

fodel

Byddai'n rhaid, mewn geiriau eraill, gyfnewid y model rhannol a geir yn Ffigur I, model sy'n ceisio dadansoddi'r farchnad nwyddau ar wahân i farchnadoedd eraill, am fodel cyffredinol, model a fyddai'n ceisio dadansoddi'r gydberthynas rhwng y gwahanol farchnadoedd hyn a'i gilydd.

Os am egluro lefel buddsoddiant a lefel prisiau, yna y mae'n rhaid wrth fodel sy'n cynnwys y farchnad arian a'r farchnad lafur yn ogystal â'r farchnad nwyddau.

O'n cwmpas ar y tarmac, roedd hen awyrennau Aeroflot fel morfilod ar draeth ac ambell fodel propeliog yn dadfeilio'n ddi-urddas o dan yr awyr lwydaidd.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd y dystiolaeth fod y model hwn yn anghywir yn gryf iawn, ac fe'i disodlwyd gan fodel a osodai'r haul yng nghanol y bydysawd.

Mae'n fodel i'w efelychu gan y disgyblion.

Yn y cyswllt hwn roedd tair tuedd: * ystyried y gair llafar yn fodel ar gyfer y gair ysgrifenedig ac felly, mabwysiadu cywair safonol a oedd yn gallu ymddangos yn anystwyth a phell,

Er mwyn hwyluso a rhoi ffurf i'r broses hon, datblygodd y Grŵp Prosiectau Arbennig o fewn Cymorth i ferched yng Nghymru, sy'n cynnwys gweithwragedd llochesau menywod sy'n gweithio yn maes tai, a gweithwraig tai CiF nifer o fodel-gytundebau.