'Roedd o fodfedd i fodfedd a hanner o egin arnynt eisoes, hwy nag arfer oherwydd y gaeaf cynnes, yna gorchuddio'r cyfan nes bod yr egin deiliog hefyd o dan bridd, a'u gadael yn y tū gwydr.
Daliodd Ifor hi a gwenodd fodfedd o'i thrwyn.
Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.
Roedd Gareth Lloyd yn chwech ar hugain oed, fodfedd yn fyr o'r chwe troedfedd traddodiadol, ond nid angenrheidiol, yr heddlu, du ei wallt ond golau, os nad gwelw, ei wynepryd.
Gyda'i ddull lliwgar o adrodd stori a'i hymestyn o fodfedd i filltir, fe aeth yn rhan o'n chwedloniaeth, o'n traddodiad a mesur o'i ddylanwad ar gymdeithas yw fod ei straeon yn dal yn fyw, ymhell ar ei ôl.
Symudodd un o'r llenni trymion rhyw fodfedd o'r neilltu er mwyn cael gweld yr ymwelydd yn cerdded oddi yno a'i gynffon rhwng ei goesau.
Mae'n bum troedfedd dwy fodfedd o daldra, yn wyn a chanddo wallt golau.
Dyma ei ddarlun o Dduw: Sant Heb fodfedd o nefi blw ar ei gyfyl, Yn ysbryd solat a diysgog yn ehangder y cymylau, Yn gosmig Ac yn or-gosmig Ac yn llawen farfog.